AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

2.10.06


Dwi ar daith eto! Bydd trydedd cyfres Ar y Lein yn dilyn y cyhydedd,
- er fod y boi ‘na newydd ei wneud o ar BBC2, damia fo. Ond mi fydd o’n gwbl
wahanol drwy lygaid Cymraes, siawns. A copïo’n syniad ni oedd o ‘de!

Mi fydda i'n cyrraedd Belem yng Ngogledd Brasil ar 4.10.06 ond mi fydda i’n symud ymlaen yn syth a theithio am ddiwrnod arall i dref Macapa, nid nepell o French Guiana. Er fod ‘na draethau hyfryd yno, a rhyw gloc haul sy’n union ar y cyhydedd, does ‘na fawr o ddim byd arall i’w weld yno meddan nhw, felly wedi ffilmio’r rheiny, mi fydda i’n hedfan yn ôl i dref Belem eto, jest mewn pryd ar gyfer gwyl Círio de Nazaré, yr wyl grefyddol fwyaf ym Mrasil. Mae’n debyg bod pobl o bob man yn heidio yno ac y bydd ‘na filiwn (ia, miliwn) o bobl yn gorymdeithio drwy’r strydoedd efo’r cerflun bychan o Nossa Senhora de Nazaré ar y dydd Sul. Y gred ydi bod y cerflun wedi ei greu yn Nasareth ac wedi cyflawni gwyrthiau ym Mhortiwgal yn ystod y canol oesoedd cyn mynd ar goll ym Mrasil – cyn cael ei ddarganfod eto gan amaethwr tlawd yn 1700. Ond wedi’r orymdaith mae’n debyg y bydd pawb yn mynd ati fel ffyliaid i yfed, bwyta a dawnsio – am bythefnos! Fydda i ddim yn gwneud hynny wrth gwrs, dwi fod i fynd i’r jyngl efo’r fyddin i gael gwers ar sut i fyw mewn fforest law, a gweithio efo cowbois ar fferm o ryw fath, cyn canwio i ddyfneroedd y jyngl i dreulio noson efo llwyth y Cabloco neu’r Yanomami.
Mi gewch chi'r hanes bob tro y ca i gyfle i flogio. Tan hynny, hwyl!

Gyda llaw, mi ddylai dyddiadur yr ail daith: ‘Ar y Lein Eto’ fod yn y siopau cyn bo hir. Rhowch eich archeb i mewn rwan!

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan