AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

6.4.07

Borneo

Ymarfer ydw i rwan - i wneud yn siwr mod i'n cofio sut mae'r blog ma'n gweithio.
Dwi'n anghofio be ydi'r 'user name' a'r password dragwyddol!
Ta waeth, mi fyddai'n gadael fy nghartre ar Ebrill 11 ac yn teithio am ddeuddydd cyn dechrau ffilmio.
Wedyn - cymysgedd o eliffantod, sarongs, olew ac aros efo llwyth y Dayak mewn longhouse rhywle sy'n bell iawn o bob man.
O, a chrocodeils ac orang utans! Nagoes, does na'm 'g' ar ddiwedd yr 'utan'. Fwy na sydd 'na 'ph' yn 'pawb' yn 'er gwaetha pawb a phopeth'. Sori - un o'r pethau bychain sy'n gneud i flew fy ngwar i godi.
Iawn, felly - os fydd y visas yn cyrraedd mewn pryd (wedi bod fymryn yn drafferthus) gewch chi'r hanes ryw ben ar ôl Ebrill 11eg. Os fydda i'n cofio'r blwmin password hefyd wrth gwrs...

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan