AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

4.6.07

Percussion Discussion


Ches i’m cyfle i flasu bywyd nos enwog Kampala (pan dach chi’n gweithio, jest isio paned a gwely ydach chi ddiwedd nos) ond mi ges i weld band o’r enw Percussion Discussion, a’u mwynhau’n arw. Roedden nhw’n chwarae cymysgedd o offerynau traddodiadol Affricanaidd, y drymiau croen gafr a thelyn fechan siap bwa, ond efo gitârs a thrwmped hefyd. Wedyn roedd ‘na genod yn dawnsio, yn ysgwyd eu penolau’n amhosib o gyflym fel bod y croen gafr amdanyn nhw’n edrych fel plu. Mi fysen nhw jest y peth ar gyfer y Sesiwn Fawr, a myn coblyn, maen nhw’n mynd i Lundain a Manceinion fis Gorffennaf beth bynnag – bechod na fyddai’r pwyllgor wedi cael gwybod mewn pryd! O wel. Rhywbryd eto efallai.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan