AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

29.5.07

Canwio ar yr afon Nil

Yr uchafbwynt i mi yn Uganda hyd yma ydi canwio ar yr afon Nîl yn ardal Jinja. Ia, fan’ma mae hi’n dechrau, ac yn nadreddu ei ffordd drwy Uganda, Sudan a’r Aifft am 6650km cyn cyrraedd Môr y Canoldir (afon hiraf y byd gyda llaw, os ydach chi’n un am gwisiau tafarn). Ond nes i ddim canwio’n bell iawn – anodd efo camera. Do, dwi wedi canwio o’r blaen, ond dwi’m wedi gwneud stwff dwr gwyn ers deng mlynedd felly ro’n i’n eitha nerfus. Ond roedd fy hyfforddwr, Wil Clark (o Hull yn wreiddiol) yn athro da iawn a chyn pen dim ro’n i’n ‘fferi gleidio’ a ‘thorri mewn ac allan’ o ddwr gwyn heb broblem yn y byd. Iawn, doedden nhw ddim yn rapids mawr iawn, ond mae’r rapids ar y Nîl yn anferthol, y lle gorau yn byd i rafftio meddan nhw, ond mae mynd lawr mewn caiac bychan yn fater cwbl wahanol! Ac mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld os wnes i lwyddo i rowlio.



Doedd Guy erioed wedi canwio yn ei fyw ac roedd o ar dân isio rhoi cynnig arni. A sbiwch ‘cool’ mae o’n edrych yn ei gêr canwio.
A sbiwch y golwg oedd arna i. Roedd ‘na luniau gwaeth o lawer, ond dwi wedi eu dileu nhw’n o handi. Dydi’r siacedi achub ‘na ddim wedi eu gwneud ar gyfer merched efo bronnau golew a dwi’n gwingo o feddwl sut olwg fydd arna i ar y rhaglen deledu. Mi nath Catrin adael i mi wybod bod angen stwffio fy hun ‘yn ôl i mewn’, chwrae teg iddi. O wel. O leia do’n i’m yn disgyn i mewn dragwyddol – ddim fel Guy druan!



Do’n i ddim wedi sylweddoli bod Uganda’n gymaint o fecca i ganwyr a rafftwyr, rhaid cyfadde, ond mae ‘na ‘sîn’ bacpacio cryf yma. Mae Jinja yn ‘party town’ go iawn ar gyfer pobl ifanc o bedwar ban byd. Ond merched welais i yno fwya. Criwiau ohonyn nhw sy’n dod ar yr ‘Overland Trucks’ sy’n cael eu hysbysebu yn ein papurau Sul. Pam merched, dwi’m yn siwr. Ai am ei bod hi’n fwy diogel i ferched deithio mewn criwiau ar wyliau wedi eu trefnu fel’na? Neu ydi merched wedi dechrau teithio mwy na dynion mwya sydyn? Neu ai dynion Uganda sy’n eu denu? Beryg bod y bois sy’n eu harwain mewn canws, rafftiau ac ar feic yn cael gwledd...

Iawn, felly boed yn ferch neu fachgen – neu’n rywun h^yn, os dach chi ffansio rafftio i lawr afon gradd 5, am 30km o’r afon Nîl, gan fynd drwy 12 rapid mawr go iawn, ar drip sy’n para drwy’r dydd, gyda bwyd a diod ar y ffordd, mae’n costio rhyw $95 am y diwrnod. Mae canwio’n costio rhywbeth tebyg am ddiwrnod. Ebost: rafting@starcom.co.ug
Ac mi allwch chi fwcio’r canwio a lle i aros ar yr un cyfeiriad.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan