Ond...
Ond a ninnau wedi codi am chwech, roedd hi’n oer was bach, a doedd Guy ddim yn hapus. Ac roedden ni’n blastar o lwch o’r car o’n blaenau ni. Na, tydi o ddim yn fêl i gyd!
Ro’n i’n meddwl ar un adeg ein bod ni wedi mynd yn rhy bell efo’r rheino gwyn yma. Roedd Guy isio i’n landrofyr ni fod yr ochr draw, fel bod y rheino rhwng y camera a ni – sef fi a Duke. Ond roedd o wedi bod yn cysgu nes i ni gyrraedd, a phan yrrodd Duke a finnau heibio iddo fo, mi gododd ar ei draed a dechrau dod tuag aton ni...o dîar. Ond mi stopiodd yn fan’na diolch byth. Gyda llaw, dydyn nhw ddim yn wyn, fwy nag ydi’r rheinos du yn ddu. Llwyd ydi’r ddau fath. Mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i gael gwybod be ydi’r gwahaniaeth, onibai eich bod chi’n swots ac yn mynnu gwneud eich ymchwil eich hunain yn y cyfamser wrth gwrs. SORI - LLUN RHEINO WEDI MYND I'R LLE ANGHYWIR - OND TYFF - RHY NACYRD I'W BLWMIN SYMUD RWAN!
Dyma oedd fy nghyfle ola i allu deud mod i wedi gweld y ‘pump mawr’- dim ond llew a llewpart oedd ar ôl. Ac unwaith eto, mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld os ydw i’n gallu prynu’r crys T ‘The BIg Five’ gyda balchder. Ond dyma i chi lun sy’n rhoi rhyw fath o syniad i chi. Oedden, roedden ni’n agos iawn – at ddwy lewes a 4 neu 5 o rai bach – a Catrin sbotiodd nhw!
Ac ar y ffordd i’r gwesty neithiwr, roedd yr haul yn machlud...mae unrhyw ffwl yn gallu cymryd llun da o fachlud haul yn Kenya, mae o jest mor anhygoel.
Roedd ‘na yrrwr newydd wedi bod efo ni ers deuddydd, sef Milton, un o lwyth y Masai. Dach chi’n gallu eu nabod nhw oherwydd eu bod nhw mor dal a thenau. Ond mae Milton wedi magu bol ers gadael yr hen ffordd o fyw a setlo yn Nairobi efo gwraig a’i fusnes ei hun. Roedd o’n gymeriad a hanner, ac mi wnes i gymryd ato fo’n arw. Ro’n i’n drist iawn o’i weld o’n troi’n ôl am Nairobi heddiw. Ond tristach fyth oedd ei glywed o’n deud ei fod o’n eitha sicr na fydd unrhyw Masai yn dal i fyw yn yr hen ffordd draddodiadol, nomadig ymhen deng mlynedd. Maen nhw eisoes yn gwisgo dillad gorllewinol wrth grwydro’r wlad efo’u gwartheg, ac mae ffiniau a ffensus yn golygu nad ydyn nhw’n gallu crwydro fel ers talwm. Fydd ganddyn nhw ddim dewis ond setlo i lawr fel pawb arall – a dod a’r dillad traddodiadol allan i ddawnsio ar gyfer twristiaid, mwn. Dwi’n gweld mwy a mwy o hyn wrth deithio’r byd ‘ma ac mae’n fy nhristau’n arw o feddwl y bydd PAWB yn y byd toc yn gwisgo’r un fath (fel ni), yn byw yn yr un ffordd, yn bwyta’r un pethau, yn gwylio’r un rhaglenni teledu ac i gyd yn siarad Saesneg, ac mai dim ond sioe ar gyfer twristiaid fydd yr hen draddodiadau. Efallai bod bywyd gwyllt dan warchae, ond hyd y gwela i, mae diwylliant gwahanol bobloedd yn beryg o fynd yn fwy prin nag anifeiliaid toc. Mae’r World Wildlife Fund ac ati wedi gwneud gwyrthiau chwarae teg, ond be am World People Fund?
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Hafan