AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

23.5.07

Naivasha


Be oedd hynna am fysus? Eich bod chi’n aros am oes am un, ac yna dwsinau’n cyrraedd yr un pryd? Wel mae hi’r un fath efo blog Ar y Lein, ylwch.

Roedd ddoe yn ddiwrnod llawn iawn, iawn. Dwi yn Naivasha bellach (ers dwy noson a deud y gwir – cyfle i olchi dillad o’r diwedd, diolch i’r nefoedd, roedd hi’n dechrau mynd yn brin arna i), ac yn y bore, mi fuon ni yn fferm flodau Olij Rozen. Dim ond un fferm fechan ynghanol ugeiniau o rai mawr ydi fan’no, mae ‘na dros 500,000 o bobl yn dibynnu ar y diwydiant blodau yn yr ardal yma. Dach chi’n gwybod y blodau hyfryd dach chi’n eu gweld yn Tescos ac M&S ac ati? Wel, beryg mai o Kenya maen nhw wedi dod – mae ‘na 13 awyren 747 yn llawn blodau yn gadael Nairobi bob wythnos. Mae’r blodau gafodd eu pigo gan y merched yma yn cyrraedd ocsiynau Ewrop (yr Iseldiroedd gan amla) yr un diwrnod. Ond fel arfer, y ‘dynion yn y canol’ sy’n gwneud y pres...

Wedi stopio yn ngwesty La Belle am ginio (oedd yn llawn ex-pats, mae ‘na rai cannoedd o gwmpas Llyn Naivasha), mi redodd criw o ddynion tuag aton ni, isio i ni brynu cardiau wnaethpwyd â llaw, a phethau allan o soapstone ac ati. A diaw, roedd ‘na rai siap wyau yno, yn dangos map y byd efo’r cyhydedd yn amlwg arnyn nhw. Jest y peth i ni, meddan ni, ond myn coblyn, roedd Prydain i gyd dan yr enw England! Sori bois, medda fi, alla i ddim prynu hwnna, dydi Cymru ddim arno fo.


A chyn pen dim roedd un ohonyn nhw wedi rhedeg i chwilio am nodwydd a dod yn ei ôl efo’r wy yma...ia, efo Wales ymhell i fyny ym môr y Gogledd. Mi fu’n rhaid i ni ei brynu wedyn. Mi gafodd Catrin un hefyd – efo Cymru yn Denmarc.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan