AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

17.5.07

Ieeee!!

O'r diwedd! Gwesty lle mae 'na we! Ond mae'n araf uffernol felly bosib y bydd raid i chi aros tan bore fory am y lluniau. Gawn ni weld.
Reit ta, hyd yma, mae Kenya wedi bod yn brofiad a hanner ac yn goblyn o hwyl.
Mae Guy y Sais sydd bellach yn byw yn Kenya, sydd yn ddyn camera yn foi hyfryd a phisyn (ond yn briod...tydyn nhw gyd).
Mae Wil y dyn camera yn Kenyan go iawn efo'r synnwyr digrifwch rhyfedda.
Ac mae Catrin yn wych, yn barod am unrhywbeth a ddim yn fflapio o gwbl!
Ac mae Duke y gyrrwr yn fonheddwr. (Ro'n i'n meddwl mai Juke oedd ei enw o - ond acen Guy oedd hynny. Mae 'na lot o Saeson yn deud 'j' yn lle 'd' does?)

Rydan ni'n aros mewn pebyll heno - ond mae 'na bebyll a phebyll ac mae'r rhain yn foethus a deud y lleia. Ond mae hi wedi stormio a glawio o ddifri heddiw felly mae hi braidd yn oer - dwi'n gwisgo fy fleece yn sgwennu hwn!
Newydd fod ar saffari yn chwilio am rheino du (anifeiliad prin iawn iawn) - a do, mi welais i ben ôl un - ond welodd run o'r lleill - na'r camera - mohono fo. Welais i eliffant a thrio cymryd llun ond y cwbl dach chi'n ei weld ydi coed. Pwy fysa'n meddwl bod anifail mor fawr a llwyd yn gallu cuddio cystal mewn coed bychain gwyrdd.

Digon am rwan - mynd i yrru hwn fel bod na RWBATH ar y blog 'ma!

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan