AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

14.5.07

Bosib y bydd hi'n araf

Ho hym. Dwi'n ffidlan ar y cyfrifiadur am mod i'n aros am y tacsi. Mae'n dod am 1.00 y bore ac mae hi tua 12.10 rwan. Dwi wedi pacio a chael bath a mynd a Del at fy rhieni a gwagu'r rhewgell a rhoi'r bin allan. Ond dwi'n siwr mod i wedi anghofio rhywbeth. Dwi'n gwybod nad oes gen i basport - mae hwnnw gan Catrin y cynhyrchydd (ia, oes, un gwahanol eto - dwi'n mynd drwyddyn nhw fel pys am ryw reswm. Ond ufflon o hogan iawn ydi Catrin). Mae fy mhasports yn symud o un lle i'r llall fel dwnimbe er mwyn cael gwahanol visas ac ati. Ia, fy mhasports ddeudis i. Mae gen i ddau. Ac roedd 'na jôc yn y llyfr brynais i i Daniel fy nai 9 oed: 'Mae dy fam di mor dew mae ganddi ddau basport'. Roedd Dan yn meddwl bod hynna'n ddoniol iawn am ryw reswm. Do'n i ddim.

Ta waeth, isio'ch rhybuddio o'n i: mae'n debyg bod cysylltiadau'r we yn araf iawn iawn yn Kenya ac Uganda. Ac os ydyn nhw'n araf mi fydda i'n cael trafferth gyrru lluniau. Felly bosib mai dim ond un neu ddau gewch chi. Mae geiriau'n haws o lawer diolch byth.

Tan toc ta.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan