AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

29.5.07

Mwy o Kenya




Sori – roeddech chi fod i gael hwn ddydd Gwener dwytha!
Cythraul y We...

Rydan ni bron a chyrraedd y ffin rhwng Kenya ac Uganda, ac os oedd y We yn araf yn Kenya, does wybod sut siap fydd arno yn Uganda! Rydan ni wedi cyrraedd Kericho, lle mae hi’n bwrw glaw bob pnawn ac yn oer iawn yn y boreau – ac rydan ni fod yn y car am 6.45 bore fory...yyyy. Ffilmio’r diwydiant te fyddwn ni ac mi gewch chi’r hanes hwnnw nes mlaen.

Ond lluniau Parc Llyn Nakuru sydd gen i chi fan’ma. Dydi o ddim yn barc mawr iawn, ond mae ‘na gyfoeth o fywyd gwyllt yma. A fan hyn mae’r flamingos pinc sy’n gwneud i’r llyn edrych fel tase rhywun wedi tywallt eisin pinc ar hyd yr ochrau. Reit syfrdanol tydi? Ac roedd y criw ‘ma’n mynnu mod i’n mynd reit atyn nhw i drio eu cael nhw i hedfan – argol, ro’n i’n teimlo’n euog. Ro’n i’n meddwl nad oedden ni fod i amharu ar y bywyd gwyllt!

A dwi wedi cynnwys y llun yma o Wil a Catrin jest am ei fod o’n glincar o lun. Os allwch chi feddwl am gapsiwn iddo fo, gadewch i mi wybod, ond does gen i ddim gwobr i’w roi. Sticer ‘Ffermio’ i’r car efallai? Does ganddon ni dim sticeri Ar y Lein...

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan