Y lloches plant
Tydi o’n annwyl? Roedd o a’i gyfeillion yn gyfrifol am un o’r profiadau mwya emosiynol i mi eu cael yn dilyn y llinellau ‘ma. Dwi’m wedi teimlo fel’na ers amgueddfa Chornobyl yn yt Wcrain, lle fethes i wneud darn i gamera, ro’n i wedi ypsetio gymaint.
Yn Lloches plant Naivasha roedden ni, casgliad o adeiladau sy’n ddormitoris a stafelloedd ysgol i fechgyn rhwng 5 ac 17 oed. Gan fod AIDS yn broblem mor fawr yma, roedd y rhan fwya wedi colli eu rhieni i’r afiechyd creulon hwnnw, eraill wedi cael eu taflu ar y stryd am eu bod nhw unai’n anystywallt neu eu rhieni methu fforddio eu cadw. Cyn dod i’r lloches, cysgu ar y stryd mewn sachau fydden nhw ac yn byw ar sbarion o finiau tai bwyta.
Ond rwan, mae ganddyn nhw welyau go iawn i gysgu ynddyn nhw, gwisg ysgol mae ganddyn nhw feddwl y byd ohonyn nhw, sgidiau go iawn, a llond eu boliau o fwyd. Maen nhw’n glanhau’r lle eu hunain, yn dysgu coginio eu hunain, yn garddio a gofalu am y ddwy fuwch, yr ieir a’r gwyddau.
Mi fuon ni yno drwy’r pnawn, yn eu gweld yn dysgu, chwarae, gwneud gwaith coed, bob dim, ac ar y diwedd, mi gawson ni gyngerdd ganddyn nhw – caneuon ac acrobatics. A myn coblyn, mwya sydyn, dyma fi’n dechrau crio. Ro’n i’n trio gwneud darn i gamera ac roedd y dagrau’n tywallt i lawr fy wyneb i. Dwi’m yn siwr ai’r canu oedd o, neu gweld eu wynebau nhw, mor falch o’r hyn roedden nhw’n gallu ei wneud. Ond ro’n i newydd fod yn siarad efo un o’r hogiau 17 oed. Mi fydd o’n gorfod gadael pan fydd o’n 18 oed, a thrio gwneud bywyd iddo fo’i hun tu allan. ‘Oes gen ti ofn?’ gofynais. Oes, meddai gan sbio ar ei sgidiau. Efallai mai dyna nath o.
Mi fyddai’r lloches yn falch o unrhyw gymorth ariannol neu roddion o unrhyw fath, felly dyma’r wefan: ncshelter.org, yr ebost: nvskid@kenyaweb.com, a’r cyfeiriad ydi Naivasha Children Shelter, PO BOx 1187, Naivasha, 20117, Kenya.
A nagoes, does na’m merched yno – dydi’r rheiny ddim yn cael eu taflu ar y stryd i’r un graddau – mae merched yn golygu llafur am ddim...
A ges i a Catrin gadwen yr un yn anrheg ganddyn nhw. Ydyn, mae fy llygaid yn dal yn goch.
1 Sylwadau:
am 9:52 AM, Anonymous said…
Ma'r stori yma yn dod a dagrau i lygid rywun! Dalier ati efo'r blogio, mae'r hanesion yn atgoffa rhywun pa mor lwcus ydan ni, yn enwedig pan ti'n mynd ati i ddarllen y blog pan ti wedi syrffedu yn gwaith!
Post a Comment
<< Hafan