AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

29.5.07

Uganda - y ffin

Rydan ni yn Uganda ers dyddiau rwan, gwlad sy’n fwy enwog am Idi Amin na dim arall mae’n siwr. Fis Ionawr 1971 mi gipiodd o’r awennau tra roedd y prif weinidog ar y pryd allan o’r wlad, a dyna ddechrau wyth mlynedd o uffern: mi gafodd 300,000 o bobl eu lladd, yn aml mewn ffyrdd brwnt iawn, gyda gordd neu bolion haearn, neu drwy gael eu harteithio i farwolaeth mewn carchardai a gorsafoedd heddlu ar hyd a lled y wlad. Os ydach chi wedi gweld y ffilm ‘The Last King of Scotland’ mi fydd yr hanes yn frres yn eich meddyliau. Mi wariodd o bres y wlad fel ffwl, rhoi 90 diwrnod i’r bobl Asiaidd oedd yn y wlad i adael gyda dim byd ond y dillad ar eu cefnau – a gwario’r biliwn o ddoleri y bu’n rhaid i’r rheiny ei adael ar ôl. Wedyn mi giciodd o’r Prydeinwyr allan a chymryd y busnesau te ac ati oddi arnyn nhwythau hefyd – a gwario’r cwbl lot eto ar deganau i’r ‘hogia’. Yn y cyfamser, roedd economi’r wlad yn deilchion, ffatrioedd ac ysbytai wedi cau, y ffyrdd yn rhacs, y dinasoedd wedi troi’n domeni sbwriel, a’r cyfoeth o fywyd gwyllt wedi cael ei chwalu’n ddim gan filwyr efo machine guns am y cig, y croen a’r eifori.

Wedi dechrau rhyfel hurt yn erbyn Tanzania - a cholli, mi ddihangodd Idi Amin i Libya at Gaddafi, ond mi gafodd ei daflu allan gan hwnnw’n y diwedd a gorfod dianc i Saudi Arabia, ac mi fu farw yn fan’no yn 2003.

Mae pethau wedi gwella’n arw yma ers hynny ac mae’r diwydiant ymwelwyr yn ôl ar ei draed. Ond roedd hi’n anodd credu hynny wrth i ni groesi’r ffin. Mi fuon ni’n aros i gael y stwff ffilmio drwadd am BUMP AWR! Roedd hi’n tywallt y glaw, pob man yn fwd, ceir a lorris mawr petrol ar draws ei gilydd ym mhob man, plant wirioneddol dlawd a charpiog yr olwg yn ein poenydio am bres/bisgedi/unrhyw beth, pobl yn gweiddi arna i am fynd y ffordd anghywir i’r ty bach, yna’n gweiddi arna i eto ‘Don’t you know you must pay?!’ cyn i mi gyrraedd yn ddigon agos i weld y blwmin arwydd – a doedd gen i’m pres Ugandan beth bynnag! Doedd ‘na neb yn gweiddi yn Kenya...
Mi wnes i drio cymryd lluniau o hyn i gyd ond mi ddoth ‘na ddynes ar fy ôl i a gwneud i mi ddileu’r cwbl. Ond mi gymres i hwn nes mlaen – pan oedd pethau wedi tawelu a’r glaw wedi peidio – a ninna’n DAL YNO!

A dyma foi bach rois i weddill ein bisgedi iddo fo, y creadur.

Aeth Wil, Catrin a fi i ddisgwyl mewn caffi tra roedd Guy a Geoffrey ein gyrrwr/fficsar Ugandan yn trio delio efo’r biwrocratiaid. Roedd y blinder yn dechrau troi’n hysteria dros ein paneidiau o ‘chai masala’....

Roedd ‘na dai bach yn fanno ond doedden ni’m yn cael mynd i’r ‘Ladies Room’, rhaid oedd mynd rownd y cefn i’r lle dynion. Iawn, mi wnes i ufuddhau’n dawel. Twll yn y llawr mewn cwt bach tywyll a drws oedd ddim yn cau’n iawn oedd yn fan’no. Iawn, dwi ‘di hen arfer ac wedi bod mewn tai bach llawer gwaeth. Ond pan driodd Catrin fynd yno wedyn, roedd ‘na foi yn chwydu ei gyts allan yno. Awr yn ddiweddarach, mi driodd hi eto – ond roedd hi’n ôl o fewn eiliadau. Clamp o ddynes fawr oedd yno tro ‘ma, gyda’r drws yn llydan agored a hithau’n gwneud y synau rhyfedda. Dyma wyneb Catrin pan ddaeth hi’n ôl.



Yn y diwedd, mi benderfynodd Guy y dylen ni gyd adael mewn tacsi a gadael y gêr efo Geoffrey iddo fo gael sortio popeth allan, gan mai dyna oedd ei job o. A dyna’r daith waetha eto: dros 3 awr o daith gyda 4 ohonon ni a’r gyrrwr a’n bagiau i gyd mewn car oedd mor isel, bob tro roedd o’n mynd trwy dwll roedden ni’n tolcio’n tinau, ac roedd pob crafiad o’r exhaust yn crafu’n coccyx ninnau. Ac roedd y ffordd yn llawn tyllau, credwch fi. Roedd Catrin, Wil a fi’n sownd yn ein gilydd a’n bagiau yn y cefn, Guy yn griddfan mewn poen am fod na’m lle i’w goesau ynta chwaith efo dau fag yn y blaen. A doedd Catrin byth wedi bod i’r ty bach!

Roedd cyrraedd y gwesty yn ryddhad a deud y lleia, a’r enw - The Haven – mor addas. Ac ew, dyna le smart, reit ar lan yr afon Nîl – sbiwch ar yr olygfa allan o ffenest fy chalet bychan i. (Sori -dim llun am y tro!) Ben bore oedd hyn, a’r niwl yn corddi uwchben rhaeadr y ‘Dead Dutchman’. Rhaeadr beryglus iawn, fel y sylweddolodd y gwr o’r Iseldiroedd.

Almaenwr sydd wedi adeiladu’r ‘Haven’ ers tua blwyddyn a hanner. Eco-lodge ydi o, mae touau’r cytiau bychain crwn traddodiadol fymryn bach yn wahanol am fod ‘na bant yno i ddal dwr glaw a hwnnw sy’n caelei ddefnyddio i olchi a molchi. Mae’r lle’n solar panels i gyd hefyd – i gynhesu’r dwr. Ond mae’r pwer yn brin. Er dirfawr siom a sioc i ni gyd, dim ond rhwng 6.30 a tua 10.00 mae ‘na drydan – bali niwsans pan mae ganddoch chi fatris a laptops a chamerau i’w charjio! Felly rydan ni wedi bod yn charjio batris y camera’n y car wrth fynd. Ia, drwy’r peth tanio sigarets.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan