AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

29.5.07

Mwy o Uganda

Roedden ni wedi cyfarfod rhai o griw Overland Trucks (twristiaid o bob man sy’n hapus i’w ryffio hi) pan aethon ni i weld prosiect ‘Soft Power Education’, sef elusen sy’n adeiladu a phaentio ysgolion lleol. Mae rhai o’r Overlanders yn rhoi diwrnod neu ddau i helpu, eraill yn aros am bythefnos neu fwy, ond mae pawb yn cyfrannu arian. Maen nhw’n paentio’r ysgolion yn liwiau llachar hyfryd – dewis yr ysgolion eu hunain, ac yna’n paentio visual aids ar y waliau – sy’n cael eu gorchuddio â defnydd yn ystod arholiadau!

Roedd ‘na blant yn y dosbarth a hithau’n ddydd Sadwrn, ond dydi hynny ddim yn arferol. Mae’r Frenhines Elizabeth i fod i ddod i Uganda eleni felly maen nhw wedi ail drefnu arholiadau’r haf i gyd – sy’n golygu bod yn rhaid i’r rhain fynd drwy’r cwricwlwm yn llawer cynt nag arfer. Ydi Liz yn sylweddoli faint o drafferth mae’n ei greu?! Mae hanner y tagfeydd traffig rydan ni wedi bod ynddyn nhw wedi eu creu oherwydd eu bod nhw’n ail osod y ffyrdd y bydd hi’n teithio ar eu hyd nhw! Ond dwi bron yn siwr i mi ddarllen yn y papurau adre nad ydi’r daith yn bendant yn mynd i ddigwydd oherwydd pryderon am ddiogelwch ac ati. Tase hi’n ei ohirio, mi fyddai pobl a llywodraeth Uganda braidd yn flin, dybiwn i...

Mi fues i’n trafod cwmniau ‘Blwyddyn Gap’ efo Shaz, Saesnes sy’n cyd-redeg y prosiect. Mae ‘na rai ohonyn nhw’n codi rhyw dair mil o bunnoedd ar bobl ifanc (wel, eu rhieni) er mwyn iddyn nhw gael ‘gwirfoddoli’ am dri mis bach. Be fedar y person 18 oed arferol ei ddysgu i bobl sydd ddim ond ychydig fisoedd yn iau na nhw? Mewn tri mis?! Ac mae ‘na lot o’r cwmniau ‘ma’n dan din iawn ac yn gwneud yr elw rhyfedda ar draul rheini sydd ddim isio i Jessica bach fod i ffwrdd yn rhy hir. Maen nhw’n defnyddio Soft Power yn aml, ond ddim yn fodlon rhannu’r elw, er bod y bobl ifanc yn aros efo Soft Power am 3 wythnos ar y tro! Byddwch yn ofalus rieni...mi fyddai’n haws ac yn llawer iawn rhatach i chi jest cysylltu efo cwmniau fel Soft Power yn uniongyrchol. Ac mi fydden nhw’n gneud llawer mwy o les i’r trydydd byd a nhw eu hunain tasen nhw’n gwneud VSO am ddwy flynedd wedi iddyn nhw ddysgu sgil go iawn! A dyna fy mhregeth drosodd.

Sbiwch del oedd y plantos o gwmpas yr ysgol. Mae gen i tua 50 o luniau ohonyn nhw – methu peidio.


O ia, methu peidio a sylwi ar y poster yma yn stafell y prifathro. Gneud i fechgyn swnio fel angenfilod tydi? Ond mae Wil yn fy sicrhau bod dynion yr Affrig yn ei chael hi'n anodd i reoli eu chwantau. Yhy...

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan