Roedden ni wedi bod yn snorclo y diwrnod blaenorol hefyd, ger ynys Bartolome, lle welson ni’r pengwins bach delia rioed. Ges i fod yn y dwr efo un ohonyn nhw, ond doedd o’m isio aros o gwmpas i chwarae am ryw reswm. Ond roedd ‘na forlo isio chwarae – ond doedd ganddon ni’m camera dan dwr y diwrnod hwnnw, damia! Ar yr ynys honno mae Pinnacle Rock, sy’n ymddangos yn ffilm ‘Master and Commander’ efo Russell Crowe, un o fy hoff actorion. Wel, un o’r rhai dwi’n eu ffansio fwya ta.
A digwydd bod, ges i ffansi at gapten y cwch aeth a ni ar y daith 3 awr i’r ynys – Capten Abraham. Boi du, smart oedd yn amlwg wedi cymryd ffansi ataf finna. Dwi’m yn rhy hen, chi! Dyna be oedd hwyl, fflyrtio tra’n ceisio gyrru cwch – do, ges i dro ar y llyw – ond roedd y lli mor gry, ro’n i’n anobeithiol. Ond mi gafodd o’r myll ar y ffordd nol pan nes i wrthod ei gyfarfod y noson honno. Ro’n i’n difaru mod i wedi gwrthod wrth gwrs, ond roedd hi’n eitha amlwg ei fod o’n foi go beryg efo’r merched a do’n i’m isio action replay o Punta Arenas (darllenwch lyfr ‘Ar y Lein Eto’ – wedyn darllenwch rhwng y linellau). Ac fel roedd hi’n digwydd, mi fyddai Haydn wedi bod ar ei ben ei hun y noson honno, achos rydan ni wedi cael anffawd arall.
Mae gan Jon, ein cynhyrchydd, y ddannodd. Ers dyddiau a deud y gwir, ac roedd y creadur mewn poen go iawn. Felly, wedi mynd heb fwyd am sbel, bu’n rhaid iddo fynd at y deintydd yn y diwedd – tra bu Haydn a finna’n ffilmio crwbanod a chwilio am El Solitario George, neu Lonesome George, crwban hynafol sydd a neb tebyg iddo fo ar ol yn y byd. Fo ydi’r unig un o grwbanod Ynys Pinto sy’n dal yn fyw, bechod, a mae ‘na olwg hynod depressed arno fo. Maen nhw’n trio’i gael o i gael babis efo crwbanesau tebyg, ond er ei fod o’n gneud be mae o i fod i’w wneud, does na’m byd yn digwydd wedyn. Dywedodd Bolivar, cymeriad o foi ddaeth efo ni at y crwbanod, ei fod o’n anffrwythlon. Mae ‘na son am ei ‘glonio’ (efo to bach) fo, ond does wybod.
Ta waeth, son am y deintydd ro’n i. Mae Jon wedi dysgu 3 gair Sbaeneg newydd, sef ‘abrir’ – agor, ‘cerrar’ – cau, a ‘ ‘ - poeri. Ac mae o wedi cael tynnu’r nerf oedd yn pydru dan ei ffiling ac mae o’n well rwan. Wel, weithiau. Mae’n dal i gymryd oes i fwyta ei swper gan mai dim ond hanner ei geg mae o’n ei ddefnyddio.
Ac ar ol talu $150 doler am y driniaeth, mi ddywedodd Che Che, un arall o’n twysyddion ni (ydi, mae’n gymhleth) sy’n wr i ddeintydd, y byddai ei wraig wedi ei wneud o am $20.
MAE'R BLYDI BLOG MA'N GWRTHOD RHOI MWY NA DAU LUN MEWN UNRHYW NEGES RWAN AM RYW RESWM. AAAAAAA!!! OS YDACH CHI WEDI BOD YN TEIMLO MOD I DDIM YN CAEL CYSTAL HWYL YN ECUADOR AG O'N I YN BRASIL - NACI - DWI WRTH FY MODD YMA - Y BALI BLOGIO SY'N FY NGYRRU I'N WIRION!
Sy’n f’atgoffa, os ydach chi am ddod i’r Galapagos ryw dro, ac yn trio gweithio allan faint fydd o’n ei gostio, cofiwch bod pawb fan hyn wedi arfer efo Americanwyr cyfoethog, hael ac yn disgwyl tips. Nid dim ond am fwyd, ond am eu cwmni fel tywysyddion y parc cenedlaethol (chewch chi’m mynd i fawr o nunlle hebddyn nhw), neu fel y chef ar y cwch, neu fel capten. Mae Haydn yn deud y gallen ni fod wedi sbario rhoi tip iddo fo taswn i’m wedi bod yn gymaint o fabi.
Mae’r byd ma’n fach eto. Pwy oedd yng ngofal cyhoeddusrwydd canolfan Darwin ond cyn wraig Capten Abraham. Hogan benfelen wen o Seland Newydd, a’i siap nid yn anhebyg i f’un i. O ho. Dwi’n meddwl bod fan’ma’n le da i ferched nobl sydd unai’n naturiol felyn neu’n esgus eu bod nhw – roedd ‘na griw o ferched ifanc Amazonaidd o’r Iseldiroedd yn y maes awyr, a doedd yr hogia lleol methu tynnu eu llygaid oddi arnyn nhw!
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Hafan