AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

9.12.06


Dwi’m yn cofio pa ddiwrnod ydi hi bellach. Mae pethau felly’n digwydd yn aml ar drip fel hwn.
Mae gen i newyddion da – rydan ni wedi cael trefn ar y sefyllfa batris. Wnai mo’ch diflasu chi efo’r manylion, achos switsio i fwrdd ro’n i bob tro roedd y peth yn codi beth bynnag, a bod yn dawel ffyddiog y byddai bob dim yn iawn. Dim pwynt mynd i fflap nagoes?
A rwan, diolch yn bennaf i ffrind tad Ricardo sy’n drydanwr wedi ymddeol, mae modd i ni ffilmio yn y Galapagos. A fydd dim rhaid crwydro blwmin Ecuador eto yn chwilio am transformers a chebls.. (lun o Jon yn dathlu uchod)

Rydan ni’n ol yn Quito fawr, brysur bellach, a’r Hilton sy’n union yr un fath a phob Hilton arall – dwi’n hynod ddiolchgar bod ganddyn nhw cytsal system ar gyfer y we fyd-eang, ond rhowch i mi’r hacienda unrhyw adeg.

Bore cynnar eto fory – bydd Hugo’n mynd a ni i’r maes awyr am 6.30. Eisoes wedi ffarwelio efo Ricardo (druan bach – roedd Jon a Haydn yn ei alw’n Fernando dragwyddol) a rhaid cyfadde, ro’n i wedi cael llond bol ohono fo erbyn y diwedd. Siarad? Doedd o’m yn stopio, a hynny ar dop ei lais. A finna wedi arfer byw mewn ty bach tawel iawn iawn, ac yn mynd yn embarasd mewn ty bwyta pan fydd pawb arall yn gwgu ar y boi swnllyd sydd ar yr un bwrdd a fi. Ond fy mai i ydi hynny, ac mi fuodd o’n help mawr i ni efo bob dim, felly gracias Ricardo.
Er ei fod o wedi gweiddi ar dop ei lais pan sonies i am Nain: ‘You have a grandmother who is still alive?!’ fel taswn i’n Nain fy hun...

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan