Ecuador - o'r diwedd!
Dydd Mawrth Rhagfyr 5ed.
Croeso’n ol i’r blog – ar gyfrifiadur sydd ddim yn perthyn i mi a dyna pam dwi’m yn gallu rhoi to bach ar ddim – rhag ofn eich bod chi’n meddwl mod i ddim yn deall y pethau ‘ma (ond mae’n esgus reit dda ar gyfer yr adegau pan dwi’m yn hollol siwr, rhaid cyfadde).
Dwi yn Quito, prifddinas Ecuador, ers naw bore ‘ma ac mae hi rwan yn 8.45 a dwi’n barod am fy ngwely. Pah, babi di-egni di-stamina fe’ch clywaf yn gweiddi. Isio bet?!
Ro’n i wedi bod yn teithio ers 29 awr via Caerdydd, Amsterdam, Bonaire (rhywle yn y Caribi sy’n perthyn i’r Iseldiroedd) a Guayacil i chi gael dallt, ac wedyn, ar ol brecwast, aethon ni’n syth i ffilmio – a newydd stopio am saith heno ydan ni. Ro’n i fod i ddawnsio salsa nes mlaen, ond stwffio fo. Roedd hi’n anodd sefyll heb son am ddawnsio.
A dim ond tri ohonon ni sydd tro ‘ma; Haydn ar y camera, Jonathan yn rhyw drio cyfuno sain efo cynhyrchu a chyfarwyddo, a fi. Methu fforddio Derek tro ‘ma! Dydi gwneud cyfres fel hon ddim yn rhad fel y gallwch chi ddychmygu, felly rydan ni’n gorfod torri’n ol hynny fedrwn ni. Ond rydan ni’n gneud bob dim fedrwn ni i drio cael Derek yn ol ar gyfer Indonesia a’r Affrig. Wel, bob dim heblaw llwgu.
A bod yn onest, mae ‘na bedwerydd efo ni, sef Ricardo y fficsar lleol. Un da ydi o hefyd, a hynod glen. Ac mae ganddon ni Hugo sy’n gyrru’r bws mini ac mae o’n crwydro ar droed efo ni pan fydd o’n berffaith, gwbl siwr bod y fan y saff. Achos dydi Quito ddim yn le mor ddiogel a hynny. Yn enwedig heno a hithau’n wyl dathlu ail-adeiladu’r ddinas gan y Sbaenwyr wedi i’r Incas ei dinistrio hi’n rhacs am ei bod hi’n well ganddyn nhw wneud hynny na gadael i’r Sbaenwyr gael eu dwylo ar Quito. Mae hi’n goblyn o wyl, ac mae ‘na yfed yn mynd mlaen was bach. Mae’n debyg y bydd ‘na gannoedd yn ymladd, yn brifo, a cholli bob ceiniog o’u heiddo i ladron – rhai efo cyllyll – rhai efo gynnau. Hm. Na, dio’m yn le i fod allan yn chwil ar eich pen eich hun. Nid mewn rhai rhannau o’r ddinas beth bynnag. Ond os dach chi’n gwbod lle i beidio mynd, rydach chi reit ddiogel yma.
Y sioc gynta gawson ni oedd y ddiffyg ocsigen. Mae hi’n uchel yma – 2850 m, felly mae’r rhan fwya o bobl yn diodde rhai o symptomau salwch ‘altitude’ am y diwrnod cynta – neu ddau. Roedd fy mhen i‘n teimlo’n rhyfedd, rhaid i mi ddeud, fel tase rhywun wedi stwffio mhenglog i efo gwlan cotwm a galwyn o ddwr, ond efallai mai diffyg cwsg oedd yn gyfrifol am hynny. A phan aethon ni fyny i dop un o’r bryniau a brysio i fyny ac i lawr yr elltydd yn ffilmio’n fan’no, doedd yr ysgyfaint ddim yn hapus a deud y lleia.
Rhan mawr o’r dathliadau ydi mynd rownd a rownd y ddinas mewn chivas, sef math o fws sy’n debycach i lori, efo band pres yn eistedd ar y to a phobl oddi mewn ac ar gefn y lori yn canu a gweiddi a chwibanu, tra’n rhannu poteli o ddiod feddwol. Aguardiente oedd un a canelazo oedd y llall, a ges i flasu’r ddau. Roedd yr agua’n ddigon tebyg i fodca, a’r canelazo ddim byd tebyg i unrhyw beth flasais i o’r blaen. Mae’n llawn sinamon a siwgr (ac alcohol wrth gwrs) ond doedd Ricardo ddim yn meddwl llawer o’r stwff oedd ar ein chiva ni am ei fod o’n rhy oer, mae o i fod yn gynnes fel paned o goffi.
Ches i’m gormod ohono fo wir yr, a hynny am ddau reswm – roedd gen i waith i’w wneud a geiriau i’w cofio, a dydi alcohol ac altitude ddim yn bartneriaid da iawn. Ond dydi bod mewn chiva ddim yn syniad da iawn pan dach chi’n sobor, ac ar ol yr ugain munud cynta do’n i ddim yn gweld yt atyniad o gwbl.
Dychmygwch llond loris o bobl meddw yn mynd rownd a rownd rhywle fel Caerdydd neu Fangor, yn gweiddi pethau fel ‘Viva Bangor’ i gyfeiliant trympedau. Pawb at y peth y bo dicini.
Gawson ni ginio bendigedig mewn ty bwyta o’r enw La Ronda wedyn (amseru gwych achos mi ddechreuodd dywallt y glaw a tharannu a bob dim – ond roedd y chivas yn dal i fynd...). A’r cwrs cyntaf oedd Ceviche, math o gawl oer sy’n cael ei wneud efo cimychiaid, nionod, tomatos, chillis, coriander ac ati, wedyn dach chi’n malu a thaenu chydig o greision banana, popcorn ac india corn a garlleg wedi eu rhostio drosto fo. Swnio’n od dwi’n gwbod, ond ew, roedd o’n dda! Mi ddoth ‘na fand pres arall i berfformio fan’no tra roedden ni’n bwyta, a dyma bron pawb yn codi ar eu traed i ddawnsio. Mae arna i ofn na chododd y garfan Gymreig. Roedden ni isio bwyd ac roedden ni wedi blino, reit! Ges i ddwy fefusen mewn siocled i bwdin (bwyd sy’n gwneud i chi deimlo’n wirioneddol ddrwg os dach chi’n dallt be sgen i), ac wedyn roedd gen i ddigon o egni i gymryd ugeiniau o luniau o’r haul yn machlud dros Quito o ben bryn El Panecillo – y dorth fechan. Mae ‘na gerflun anferthol o La Virgen de Quito sy’n debyg i angel ar dop y bryn, a llwyth o oleuadau Nadoligaidd – ac ambell gi blin a pheryg yr olwg. Maen nhw’n licio chwyrnu arnoch chi os dach chi’n mynd yn rhy agos at eu coed ‘nhw’. Ac er mod i wedi cael fy mhigiad rabies, es i ddim yn rhy agos.
Dwi wedi blino gormod i sgwennu mwy rwan. Buenas noches!
Dydd Mercher Rhagfyr 6ed.
Wedi methu gyrru hwnna neithiwr oherwydd nam technegol, a dwi’m yn gwbod os fydd modd gyrru dim o’r gwesty arall heno chwaith, ond dwi’n dal i sgriblan rhag ofn. Gwesty neis oedd yr Hilton hefyd, ddim yn rhy grand, ond ges i sioc pan dries i chwythu nhrwyn yn y ty bach – mae ‘na arogl rhosod ar y papur ty bach.
Ro’n i’n gorfod codi am 4.30 bore ma am ein bod ni isio ffilmio’r wawr yn codi dros Quito. Ac fel arfer, welson ni fawr o wawr oherwydd cymylau, ond duwcs, roedd o reit neis ‘run fath. A myn coblyn, roedd ‘na bobl yn dal i bartio ers neithiwr, a swn y salsa yn waldio ar draws y dyffryn a hithau’n 5.30 y bore. Mae’n siwr bod ‘na gymdogion wedi laru, ond dyna fo, dim ond unwaith y flwyddyn maen nhw’n dathlu ail-godi Quito. Ges inna neffro am 2.30 gan goblyn o swn y tu allan i’r gwesty – a chan ddynes gnociodd ar fy nrws i’n chwilio am ryw Miss Armstrong. Roedd fy ymateb i’n eitha cryf a bod yn onest.
Roedd’na rai wedi gor-bartio o ddifri. Mi basion ni foi oedd yn cysgu ar ganol y palmant am chwech y bore, a ryw foi arall oedd yn eistedd a’i ben yn ei ddwylo a llyn o chwd oren wrth ei draed. Hyfryd.
Ar ol brecwast, dyma drio gweithio allan pam fod batris y camera heb ail-jarjio yn llofft Haydn neithiwr: mae’r teclyn charjio batris wedi malu. Rydan ni’n gweithio ar y sefyllfa. Mae ganddon ni ddigon o fatris ar gyfer y deuddydd nesa ond mi fydd RAID cael ateb i’r sefyllfa cyn cychwyn am y Galapagos achos go brin fod ‘na siop drydan yn fan’no. Ac yn anffodus, gan ei bod hi’n wyl, doedd ‘na run siop ar agor yn Quito heddiw chwaith. Hei di ho.
Ymlaen a ni am y cyhydedd a rhywle o’r enw y Mitad del Mundo (canol y byd), lle mae ‘na gaffis a siopau ac amgueddfa ac ati wedi eu codi ar hyd llinell y cyhydedd. Ches i fawr o amser i sbio’n iawn ar gynnwys yr amgueddfa, dim ond amser i fynd i dop y twr yn y lifft oedd gen i, am fod Haydn isio ngweld i ar y top. Ond roedd o’n edrych reit ddifyr, yn dangos gwisgoedd o thraddodiadau gwahanol lwythi cynhenid yr ardal. O wel. Es la vida.
Roedd y man bachu twristiaid arall sydd ar y llinell yn hynod o ddifyr, sef Museo Solar Inti Nan. Mi gawson ni ddigon o amser fan’no, ac mi ges i fodd i fyw yno am fod y lle’n llawn gemau bach difyr sydd yn profi gwahanol bethau am y cyhydedd. Efallai mai ‘con’ llwyr ydyn nhw cofiwch, ond dim bwys, roedd o’n hwyl. e.e: sinc sy’n sefyll yn unon ar y llinell – ac mae’r dwr yn mynd yn syth i lawr y twll, nid yn troi o gwbl. Ond mae’n rhaid i chi dynnu’r plwg yn araf iawn er mwyn i hynny ddigwydd...ond fy ffefryn i oedd yr wy. Roeddech chi’n gorfod trio gosod wy ar ben hoelen. Nac’di, dydi o ddim yn hawdd, ac roedd y boi’n trio deud bod y ffaith bod yr wy yn union ar y cyhydedd yn golygu bod disgyrchiant a’r magned dan ein traed a’r ffaith bod yr un faint o bwysedd ar bob ochr i’r llinell (dal efo fi?) yn golygu mai dim ond ar y cyhydedd mae modd gwneud hyn. Triwch chi o adre i weld ynde. Pun bynnag, roedd gwneud i’r bali wy aros ar yr hoelen yn gythgiam o anodd – ac er fod Jonathan yn gweiddi ‘Na, paid practiso!’ mi wnes i fynnu yndo – a llwyddo i wneud i’r wy sefyll! Wei hei! Ond o’n i’n gallu ailadrodd y gamp ar gamera? Nago’n debyg iawn. Ond roedd bos y lle wedi ngweld i’n llwyddo felly mi ges i ddiploma bychan i gofnodi fy nghamp, chwarae teg iddo fo. Wele’r llun sy’n profi’r ffaith! Mi fu Jonathan yn trio am oes wedyn. A nagoes, does ganddo fo run diploma. Ha!
Mi welson ni dipyn mwy o bethau difyr yno, ond bydd raid i chi wylio’r gyfres (neu ddarllen y llyfr o’r gyfres os na fydd lle i’r eitem) er mwyn cael gwybod be oedd rheiny.
Ar y ffordd i Otavalo drwy’r mynyddoedd a’r glaw rwan. Hasta la vista!
Dydd Iau.
Rydan ni’n aros mewn hacienda rwan, sef hen blasdy oedd yn arfer bod yn fferm fawr, a bobol bach dyma be ydi hacienda. Mae o’n fendigedig, y math o le rydach chi wedi ei weld mewn ffilmiau am Mecsico ryw ganrif neu ddwy yn ol, yn hen ac yn bren i gyd a llefydd tan yr un maint a fy stafell fyw i adre yn Rhydymain. Byddai Simon Bolivar, y boi driodd gael annibynniaeth i wledydd De America nol yn 18? Yn aros yma ar ei ffordd i Bolivia. A stafell rhif 1 fyddai o’n aros ynddi, clamp o stafell fawr hyfryd. A pwy gafodd aros yn fan’no? Ia, Jonathan. Ond dwi’m yn cwyno, mae stafell 5 yn fawr a moethus hefyd, efo lle tan a bob dim. A mae ‘na dan ynddo rwan, achos dydi hi ddim yn gynnes yma. Does na’m ffasiwn beth a gwres canolog mewn adeilad fel hwn, a credwchneu beidio, dydi hi ddim yn gynnes yn y rhan yma o Ecuador yr adeg yma o’r flwyddyn. Mi fuodd hi’n tresio bwrw drwy’r nos neithiwr, ac mae hi wrthi eto heno. Mae’r boreau’n tueddu i fod yn braf yma, ond erbyn y pnawn, mae’r cymylau duon yn dod dros yr Andes a dach chi’n hynod falch eich bod chi wedi stwffio eich cot law i waelod eich bag. Mae Haydn wedi dod a vests thermal efo fo ac mae o’n hynod smyg am y peth.
Mae bywyd fymryn yn anodd o hyd oherwydd batris y camera. Mae Ricardo a Hugo y gyrrwr wedi mynd yn ol i Quito ers pnawn ‘ma i drio dod o hyd i drydanwr/camera/ unrhywbeth achos dim ond hanner batri sydd ganddon ni ar ol. A dan ni’m wedi ffilmio marchand Otavalo eto. Wel, ddim llawer.
Erbyn i ni gyrraedd yno pnawn ma roedd pawb yn pacio fyny – ac yn cario’r llwythi rhyfedda ar eu cefnau. Ond mi lwyddodd Jonathan a Haydn i gael eu conio er hynny. Roedden nhw isio hetiau, a dwi wedi addo prynu un i Twm Morys hefyd, ond bob tro ro’n i’n dod o hyd i un ro’n i’n meddwl fyddai’n plesio Twm, roedd Haydn yn penderfynu mai hwnnw roedd o ei isio! Dwi wedi penderfynu gadael un Twm tan fory achos dwi’n yn hollol siwr os o’n i wedi dewis yr un iawn. A dwi’m yn gwbod pa mor fawr ydi ei ben o chwaith. Ond dwi’m yn gallu gyrru tecst iddo fo i ofyn achos dydi’n ffonau symudol ni ddim yn gweithio yma. A wnes i’m meddwl gyrru ebost mewn pryd. Wel, mi fydd raid iddo fo dderbyn be mae o’n ei gael a dyna fo.
Mi fuon ni’n gwylio gwehyddion wrth eu gwaith yng ngweithdy ‘El Condor’ ar ol cinio, a iechyd, mae ‘na waith yn mynd i mewn i’r gwahanol fatiau, bagiau ac ati. Mae’n cymryd 4 diwrnod i Jose y gwr wneud un mat gweddol fychan, ond gweithio yn yr hen ffordd draddodiaol mae o, yn eistedd ar ei ben ol ar y llawr. Mae’r rhan fwya o bobl wedi symud ymlaen at beiriannau mawr crand rwan, ond dydyn nhw’m cystal a’r stwff sy’n caelei wneud a llaw. Felly mi brynais i ddarn oedd wedi bod yn galw arna i ers meitin: un o wahanol fathau o goch yn dangos tri shaman. Mi ddylai fod jest y peth ar gyfer y llofft sbar. Ac mi ges i domen o sgarffiau a bagiau bychain hefyd – ddylai fod yn anrhegion Nadolig neis iawn i ambell nith neu fam. O, a gyda llaw, roedd Mam wrth ei bodd efo’r bag ceilliau byffalo o Brasil.
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Hafan