AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

13.12.06

Y Galapagos

Helo eto. Ddrwg gen i am yr oedi, ond dwi’m wedi cael cyfle i sgwennu gair ers cyrraedd y Galapagos. A dwi’m yn siwr os gai gyfle i yrru hwn cyn gadael chwaith, beryg mai o’r gwesty yn Quito gewch chi hwn yn y diwedd.(DYDD MAWRTH -YM MAES AWYR GUAYACIL YDW I FEL MAE'N DIGWYDD - CROESI BYSEDD Y BYDD Y LLUNIAU'N GWEITHIO!)

Dwi’n mynd i weithio am yn ol, gan mai heddiw, nos Lun Rhagfyr 11eg sydd fwya ffres yn y cof. A hynny am ein bod ni newydd gael y daith waetha erioed. Wnai byth, byth gwyno am yr A470 eto. A wnai byth anghofio’r daith deirawr (oedd i fod yn ddwyawr) ar gwch o Puerto Ayora ar ynys Santa Cruz i ynys Isabella. Doedd hi ddim yn gwch fawr iawn, ond roedd ‘na ddwy injan fawr bwerus, swnllyd a myglyd ar y cefn. Dychmygwch fod a dau foto beic yn eich clust dde am deirawr a chithau mewn cwdyn plastig (roedd ‘na blastig reit rownd y cwch, sbario i ni wlychu) sy’n llawn o ffiwms petrol wirioneddol gryf a ffiaidd, tra’n cael eich taflu i fyny ac i lawr ar donnau gwyllt, enfawr, sy’n gwneud i’ch dannedd chi ysgwyd, eich cefn a’ch pen ol i waldio’r darn pren caled sydd i fod yn sedd, a’ch stumog i daro’ch corn gwddw bob dau neu dri eiliad. Roedd o’n anioddefol ar ol pum munud, heb son am deirawr. A finna wedi meddwl sgwennu rhywbeth yn ystod y daith; mi fyswn i wedi chwydu ar ol dau funud. Mi wnes i drio defnyddio’r amser i feddwl am blot llyfr dwi fod i’w sgwennu, ond allwn i’m meddwl, hyd yn oed. Nid am bethau cymhleth, o leia. Roedd fy mrens mewn magimix (Kenwood os ydach chi ar ei hol hi yn y byd offer cegin).

Ac yn waeth na hynny, roedd hi wedi tywyllu ar ol rhyw ddwyawr, a doedd y gyrrwr ddim yn rhoi golau ar y cwch o gwbl. Nabod y ffordd mae’n debyg, ond be tase ‘na forfil yn digwydd pasio? Welson ni un yn gynharach, ond erbyn dod yn agosach, dim ond gweddillion morfil oedd o, llwyth o gnawd wedi ei glymu’n sownd yn rhaffau rhwyd bysgota fawr. Roedd hi’n olygfa drist a deud y lleia, ac yn drewi hefyd, drewi’n echrydus, felly wnaethon ni ddim oedi, ac yn ol a ni i gael ein waldio gan y tonnau.

Ond erbyn cyrraedd y gwesty – Casa de Marita, roedden ni’n hapusach. Lle braf, llawn golau reit ar lan y mor, lle mae’r perchennog wastad yn gwisgo gwyn – i fatsio ei wallt hir, gwyn, a’i wraig wastad yn gwisgo du – oes, mae ganddi wallt du. Ac roedd y swper – pysgodyn wrth gwrs – yn hyfryd.

Trio cofio be arall oedd wedi digwydd heddiw, achos mae ‘na gymaint yn digwydd mor gyflym, mae’r bore fel tase fo wythnos yn ol. A bore ‘ma, snorclo ger Ynys Seymour ro’n i, efo dyn camera dan dwr – Ricardo. Americanes o’r enw Valerie oedd i fod i wneud ond roedd hi’n diodde ar ol bwyta rhywbeth neithiwr ac isio chwydu bob munud. Mi wnes i feddwl ella y dylai hi chwydu’n y mor er mwyn denu siarcod ond wnes i’m deud hynny. Does gan bobl sal fawr o hiwmor nagoes?

Ta waeth, weles i siarc beth bynnag (Tiberon en Espanol – un hammerhead meddai Ricardo), a llwyth o bysgod difyr a diarth eraill, a chael modd i fyw yn chwarae o gwmpas yn y dwr. A dwi’m yn meddwl mod i’n edrych yn rhy dew ac erchyll yn y siwt wlyb (weles i beth o’r ffilm dan dwr wedyn). Nid f’un i nes i ei gwisgo’n y diwedd (hen a braidd yn dyllog) ond un cwmni Fernando, ein fficsar yn y Galapagos. A dyna i chi ddyn bach rhyfedd. Digon annwyl, ond rhyfedd ac nid yn rhy drefnus. Wnai mo’ch diflasu chi efo’r manylion ond ar adegau rydan ni wedi bod isio’i grogi o. e.e yng Nghanolfan Charles Darwin ddoe, lle roedden ni wedi gofyn iddo drefnu cyfweliad efo un o’r gwyddonwyr ers wythnosau. Daeth yn amlwg nad oedd o wedi cysylltu efo nhw o gwbl. Gawson ni gyfweliad efo merch oedd yn arbenigo mewn crwbanod yn y diwedd, ond dim diolch iddo fo.

Ac ar y ffordd yn ol o’r snorclo mi gafodd Fernando alwad ffon gan bennaeth y ganolfan – Cymro o’r Fenni o’r enw Gerald Watkins! Ges i sgwrs efo fo dros y ffon; tase’r creadur wedi cael gwybod gan Fernando ein bod ni o gwmpas y lle, mi fyddai o wedi rhoi sgwrs i ni’n syth ac roedd o’n amlwg jest a drysu isio’n cyfarfod ni (‘I still watch Wales playing rugby..’) ond dim ond chwarter awr oedd ganddon ni i ddal y cwch erchyll ‘na. Oes, mae isio gras weithiau.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan