AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

31.1.07

Cyrraedd Singapore

Rydan ni wedi cyrraedd yn ddiogel ar ol oriau meithion o deithio. Mae mhen i'n troi oherwydd diffyg cwsg.8.15 y bore ydi hi amser Cymru, ond 4.15 y pnawn amser Singapore, a dwi wedi bod yn teithio non stop ers 10 bore ddoe (amser Cymru). Fel arfer, fi gafodd y sedd ganol rhwng y ddau foi (Jonathan a Haydn)- mae'n digwydd bob tro! Wedyn mae 'na lai o le does? A finna efo coes glec sy'n cyffio ar ddim. Dwi'n mynd yn rhy hen i hyn...
Ond mi fedrai argymell Singapore Airlines. Bwyd neis o ystyried mai bwyd awyren ydi o, y staff yn glen ac yn gwenu drwy'r adeg. Dewis anhygoel o ffilmiau. Nes i wylio tair i gyd - achos do'n i methu cysgu!
Gwesty hyfryd, llofft yn sbio lawr dros yr harbwr (neu ddarn ohono fo)a mai'n 29 gradd yma.
Wedi trefnu cael swper efo'r fficsar am 7, wedyn ffilmio pobl yn 'piercio' ei hunain am 4 y bore...gewch chi'r hanes - a lluniau.
Hwyl!

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan