AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

13.12.06

Galopio'n y Galapagos



Dydd Mawrth Rhagfyr 12

Mi fuon ni am antur go iawn heddiw, trek i fyny llosgfynydd Sierra Negro ar gefn ceffylau. Dwi’n weddol brofiadol bellach, ac roedd Haydn wedi bod ar gefn ceffyl ym Mheriw rhyw 3 blynedd yn ol, ond y tro dwytha i Jon fod ar gefn un oedd yn Llangrannog ugain mlynedd yn ol (dwi’n siwr ei fod o’n fwy na hynny ond dio’m isio dangos ei oed).

Gan fod yn rhaid i ni gyd ferlota i ben y mynydd, roedd y cwmni yswiriant wedi mynnu ein bod ni i gyd yn mynd a het bwrpasol efo ni. Felly, ar ol rhowlio fy lygaid a chwyno dan fy ngwynt na fyddai neb arall a blwmin helmets, mi wnes i fenthyg un o Abergwynant (lle wrth ymyl Dolgellau oed yn arfer gneud treks tan tua dau fis yn ol)- ond roedd y ddau arall wedi PRYNU rhai newydd sbon danlli iff iw plis! A Jon wedi cael un hynod o swish...

Haydn gafodd y ceffyl calla, yr un oedd isio rhedeg. Roedd Lambada, fy ngheffyl i, a cheffylau Jon a Fernando jest isio bod efo’i gilydd – cyffwrdd ei gilydd – trotian ar draws ei gilydd heb indicetio na dim – ia, roedden nhw’n fodlon trotian weithiau ond dim ond am rhyw funud a hanner ar y tro. Roedd ceffyl Haydn yn enaid mwy annibynnol oedd wrth ei fodd yn carlamu. Rhegi a phiso chwerthin fuon ni’n tri oedd ar y ceffylau oedd isio bod yn ddefaid.

Pan ddaeth hi’n amser i mi gael fy ffilmio ar gefn ceffyl, roedd Lambada’n gwrthod gadael ei ffrindiau. Felly ges i fynd ar un Haydn yn lle. Wel, dyna welliant! Ond ges i, a Haydn a Jon - a pherchennog y ceffyl dipyn o sioc pan ddechreuodd y ceffyl yma garlamu o ddifri ar hyd y caldera (top siap cylch llosgfynydd – y mwya yn y byd heblaw am Kilimanjaro). Roedden nhw wedi gofyn i fi a Xavier y tywysydd garlamu, felly dyna wnaethon ni. Ond wawiiii! Fues i rioed ar gefn ceffyl mor gyflym yn fy myw! Wir rwan, roedd o fel rhywbeth allan o ffilm gowbois, a dwi’n gweddio y bydd o’n y rhaglen achos dwi isio dangos fy hun. Ond mae’n rhaid i mi gyfadde, dwi’n falch bod gen i het...

Roedd Jon wedi deud ‘carlamu cyn belled a’i fod e’n ddiogel’. Ac ro’n i’n teimlo’n berffaith ddiogel. A deud y gwir, ro’n i’n fy nefoedd! Ond ges i Lambada’n ol ar gyfer y daith yn ol i lawr. Zzzzzz.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan