AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

13.4.07

Taith Borneo

A dyma ni, 2 ddiwrnod cyfa ers gadael y ty, wedi cyrraedd y dref lle byddwn ni'n dechrau ffilmio fory - rhywle yn Borneo!
4 ohonon ni sydd ar y daith yma – fi wrth gwrs, Haydn y dyn camera eto, ac mae Derek yn ei ol ers yr Amazon. Ond dydi Jonathan ddim efo ni! Mae o wedi cael swydd arall. Ond efo babi ar y ffordd, doedd joban fel hon ddim yn mynd i fod yn hawdd iawn iddo fo nagoedd? Pob lwc i ti Jon, mi fyddai’n meddwl amdanat ti bob tro y bydda i’n bwyta porc. A’r 4ydd aelod tro ‘ma felly? Heulwen Humphreys, oedd yn gneud yr ymchwil ar y gyfres ddwytha. Nes i ei galw hi’n Heulwen Jones yn y llyfr ‘Ar y Lein Eto’, a dwi’n ymddiheuro’n gyhoeddus, iawn, Heulwen? I’r rhai ohonoch chi ddarllenodd yr hanes yn y llyfr, hi oedd efo ni yn Sbaen a Morocco, yr un gafodd ei henwi’n Casablanca gan fois Morocco am iddi yfed y gwesty’n sych o’u cwrw o’r enw Casablanca. Dwi’m yn meddwl geith hi gyfle i yfed fel’na ar y trip yma!

Mae 'na ddau fficsar efo ni hefyd, sydd yn arbenigo mewn gweithio efo cwmniau teledu a ffilm: Susi y cyfieithydd, sy’n dod o Bali, a Ruddy sy’n dod o Jakarta ond yn byw yn Bali bellach. Ac mae'r ddau yn gwenu a chwerthin o hyd – gret!

Yn Jakarta oedden ni neithiwr - mewn gwesty ffantastic - y Sheraton. Ond cyrraedd yn rhy hwyr i gymryd mantais o'r pwll nofio hyfryd, ac roedden ni wedi cael pizza yn maes awyr Singapore felly doedden ni'm isio bwyd. Syth i gwely oedd hi mae arna i ofn. Wel chwarae teg, roedden ni gyd yn nacyrd! (Sy'n f'atgoffa - ges i ffit pan welais i sgript saethu Heulwen: 'Day turns to night and we see M/S of Bethan totally nakerd standing outside the hotel entrance...' Falch o ddeud mai nacyrd/knackered oedd hi'n ei feddwl, nid naked).
Ta waeth, erbyn bore, roedden ni'n llwgu a ges i gawl noodles efo tipyn o chilli ynddo fo i frecwast. A dwi newydd gael cinio reit boeth hefyd. Maen nhw'n hael efo'u chillis yma - ond diaw, mae'n flasus.
Mae pawb yn glen iawn hyd yma, yn gwenu arnon ni a’n cyfarch yn llawen – a’r iaith yn swnio’n llawer haws nag o’n i wedi meddwl. A deud y gwir, mae 'na dros 300 o ieithoedd gwahanol yma, ond yr un swyddogol, a'r un mae pawb yn galu ei siarad ydi Bahasa Indonesia. Mae'n cael ei sgwennu’n union fel ein hieithoedd ni yn Ewrop – a ffonetig iawn, fel y gymraeg. Felly mae ‘Sampai Jumpa’ – sef ta ta, yn cael ei ddeud yn union fel’na,wel, fel sampai jwmpa ta. Neu fel ‘standy jumper’ fel deudodd Derek – haws iddo fo ei gofio wedyn. ‘Terima kasih’ ydi diolch a dwi’n cofio hwnnw drwy feddwl am ddiolch i Teri, mam hogan o’r enw Casi. Tydi dysgu ieithoedd yn hawdd, dwch?

Reit, mynd i ddad-bacio rwan. Mwy toc. Sampai jumpa.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan