AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

5.6.07

Kampala



O feddwl bod y lle wedi cael ei chwalu'n rhacs yn ystod cyfnod Idi Amin a'r rhyfel cartre fu wedyn, mae'r brifddinas wedi codi'n ôl ar ei thraed gyda steil. Edrych yn smart tydi? Cofiwch chi, mae 'na ddarnau sy'n dal yn hurt bost, yn stondinau lliwgar, prysur, pobl yn cario geifr ac ati ar gefn moto beics. Rydach chi'n dal yn ymwybodol eich bod chi'n yr Affrig! Ac mae'r traffig yn echrydus - llawn ceir ail law o Siapan.
Mae'r bywyd nos yn wych mae'n debyg ond welson ni ddim ohono fo. Roedd y gwesty'n rhy bell o ganol y dre ac roedden ni'n rhy flinedig. Dwi'n difaru rwan, wrth gwrs, ond dyna fo. Aeth Wil y dyn sain allan y noson gurodd tîm pêl-droed Uganda 'Super Eagles' Nigeria, a mwynhau'n arw a dod adre am ddau y bore. Ond mae o'n ifanc ac yn gallu dal ati drannoeth heb gur pen. Nid felly Guy, Catrin na finna - nid bod Catrin yn hen wrth gwrs.
Roedd y dre fel carnifal mae'n debyg - hen wragedd yn gweiddi mewn gorfoledd, 3 neu 4 dyn ar y tro ar gefn beiciau modur (yr un beic modur) yn gyrru drwy'r dre yn chwerthin a gweiddi, pawb yn dawnsio. Mae curo Nigeria iddyn nhw fel Cymru'n curo Lloegr neu Brasil!

O, a mae 'na gaffis soffistigedig iawn yn Kampala. Sbiwch y cappucino ges i...

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan