Y diwrnod hiraf eto
Bore 'ma, roedden ni wedi trefnu bod pawb yn cael galwad i'w deffro am 4.30 y bore (ffordd neis o wneud i Fernando ein fficsar godi mewn pryd am unwaith), ond aeth f'un i i ffwrdd am chwarter i dri. Iechyd, ges i sioc. Mi gymrodd oes i mi ddod o hyd i'r golau heb son am y ffon. A dyma fi'n meddwl bod y gwesty wedi gneud camgymeriad ac wedi deffro pawb am 2.45. Ond wedyn dyma fi'n meddwl falle mai dyna pryd roedden ni fod i godi wedi'r cwbl (ro'n i'n dal yn hanner cysgu doeddwn?). Felly mi ffoniais i Jonathan - oedd yn cysgu'n sownd, y creadur. Wp a deis.
A pham roedden ni'n codi mor hurt o gynnar? Am mai heddiw oedd Y Diwrnod Mawr yng nghalendr Belem - y diwrnod pan mae na filiwn o Gatholigion o bob cwr o Brasil yn heidio yma i orymdeithio drwy'r strydoedd efo cerflun o Nossa Senhora de Nazare (Mair, mam Iesu Grist). Weles i rioed gymaint o bobl o'r blaen yn fy myw, a'r rhan fwya'n cerdded a rhedeg y 10km yn droednoeth, ac yn gwthio a gwasgu er mwyn cael gweld y cerflun bychan, bach 'ma oedd yn cael ei lusgo ar fath o stondin drom gan gannoedd o bobl chwyslyd, ecstatig yn tynnu rhaffau. Ar ol awr neu ddwy o gerdded yn y gwres tanbaid, ynghanol cyrff chwyslyd eraill fel bod dim modd i awel eich cyffwrdd, roedd 'na rai'n llewygu ac yn cael eu cludo ar stretchers yn syth. Roedd 'na rai'n crio bwcedi dim ond o weld y cerflun o bell, eraill yn socian am eu bod nhw wedi twyallt poteli o dwr dros eu pennau. Cyn pen dim, roedd y traed noeth, poenus yn gorfod cerdded dros filoedd o boteli plastig. A dwi'n amau os oedd rheiny'n cael eu ailgylchu. Pam na fydden nhw wedi defnyddio peipen dros bawb dwch?
Roedden ni wedi llwyddo i ddod yn agos iawn at y cerflun ar y dechrau (dyna pam roedden ni wedi codi'n gynnar wedi'r cwbl), ond y funud ddechreuon nhw orymdeithio, aeth y lle'n bananas, a doedd ganddon ni'm gobaith mwnci aros efo'n gilydd mewn un criw. Ar un adeg, ro'n i'n amau'n gryf mod i unai'n mynd i golli mraich i'r dde neu'r ces efo lens sbar ddrudfawr i'r chwith. Roedd o fel bod ar 'rac' yn union. Llwyddodd Jonathan a finna i wthio'n ffordd i ganol y don am sbel, ac wrth basio'r dociau, dyma'r tan gwyllt ma'n dechrau uwch ein pennau ni. Roedd o mor swnllyd, roedd o'n brifo, ond doedden ni methu dianc nagoedden?
Mi gawson ni hyd i'r lleill rhyw awr yn ddiweddarach, a gwylio'r dorf o'r pafin - a fan'no, mewn gwasgfa hurt y llwyddodd lleidr i stwffio'i law i fag Jonathan a dwyn ei dictaphone. Mi welodd Derek leidr arall yn cael ei ddal a'i waldio'n rhacs. Fues i rioed mor falch o adael gormydaith. Ro'n i'n meddwl bod y busnes efo Santa Teresa yn Avila, Sbaen yn hurt, ond roedd Belem yn bedlam go iawn. A phan welwch chi'r gyfres flwyddyn nesa, mi fyddwch chi'n synnu a rhyfeddu - dwi'n addo.
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Hafan