Pekanbaru
Yn Pekanbaru ydan ni gyda llaw, ac erbyn dallt, nid rhywle yn Borneo mae fan'no ond yn Sumatra. Ylwch, dwi 'di blino, dwi 'di drysu'n rhacs. Ond dydi o'm yn bell o Singapore - jest i'r chwith ar y map. A chanolfan olew Indonesia ydi o, 'a pleasant, well-kept place but has little of interest to the traveller' yn ol llyfr Lonely Planet. O. Wel, gawn ni weld ynde. Ond ro'n i wedi sylwi fod y gwesty ma'n dawel iawn. A gesiwch be - mae hi'n bwrw glaw. Mae hi'n y 30au, ond mi nath hi gawod jest rwan. A ddoe, yn Singapore, roedd hi'n tresio bwrw, melt a tharannau a bob dim. Wrth fy modd -mi fydda i'n licio storm. Ond doedd Haydn a Derek ddim mor siwr - gawson nhw eu taro gan fellten tra'n ffilmio ryw dro - yng Nghymru!
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Hafan