AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

13.4.07

y glaw...

O diar. Mae glaw Singapore wedi cyrraedd fan'ma. Mae hi wedi bod yn tywallt ers oriau rwan. Mi wnes i drio cymryd llun ohono fo ond a) ro'n i'n gwlychu gormod, a b)mae'n anodd iawn cymryd llun da o'r glaw. Felly mi fydd yn rhaid ichi fy nghredu i: mae 'na gymaint o ddwr mae'r ffyrdd fel afonydd; mae'r mellt yn rai dramatig a deud y lleia ac mae ambell daran yn clecio gymaint dach chi'n neidio troedfedd i'r awyr. Wel, 6 modfedd ta.
Os fydd hi'n dal i lawio fel hyn fory, beryg na fyddwn ni'n gallu ffilmio rhyw lawer. Ddim tu allan beth bynnag. Ho hym. Ond mae Ruddy'n deud ei fod o'n berffaith siwr y bydd hi'n haul ac awyr las bore fory. Gawn ni wybod yno fuan achos dan ni fod i ddringo i ben y gwesty i ffilmio'r olygfa panoramig am 7.30 y bore.
A dwi wedi cael gwybod y bydda i'n chwarae pel-droed efo eliffantod y diwrnod canlynol. Hy...fedran nhw'm chwarae rygbi felly?

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan