AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

17.7.07

Adre


A dyna ni, daeth y teithio i ben. Rydan ni gyd wedi cyrraedd adre'n ddiogel ac mi ges i'r croeso rhyfedda gan Del fy ngast fach hyfryd, annwyl!
Ond doedd y diwrnod ola 'na yn Libreville ddim yn hwyl o gwbl. Er nad oedden ni'n teithio tan 10 y nos, roedd Antoine isio i ni fynd a'r bagiau stwff ffilmio yno am 4 am ei fod o'n poeni na fydden nhw'n cael mynd ar yr awyren efo ni. Ond roedd y swyddfa wedi cau. Ond mi gawson ni wybod bod 'na 'overbookings' wedi digwydd ac efallai na fydden NI heb sôn am y bagiau, yn cael mynd ar y bali awyren!
Brysio'n ôl i'r gwesty a stwffio pob dim mewn i gar Antoine. Ond roedden ni hefyd wedi cael gwybod mai dim ond 6 bag fydden ni'n cael mynd efo ni. Hm. Roedd ganddon ni dipyn mwy na hynny. Felly dyma dapio dau bâr o ddau yn sownd yn ei gilydd (wedi gneud hyn o'r blaen droeon) - er nad oedd selotep Antoine yn dda i ddim wrth gwrs! Ond roedd 'na beiriant rhoi plastig am fagiau yn y maes awyr, mi weithiodd hynny'n iawn. Ac mi rois innau ddau fag yn fy mag mawr i, ar ôl trio gwasgaru papurach a stwff meddygol i mewn i gorneli gwag y bagiau eraill. A dyna ni - chwe bag, ac roedd yr excess oedd i'w dalu wedyn yn llawer iawn llai nag oedd o ar y ffordd i mewn! Ond roedd Antoine wedi hen ddiflannu erbyn hynny - heb hyd yn oed ddeud ta ta, y sgrwb, ac roedd Heuwlen a finna'n chwys boetsh.
A lwcus mod i'n hogan gre i godi'r bagiau dwbl ar y peth check-in. Doedd Heulwen druan methu gneud llawer a hithau wedi malu ei llaw mewn damwain car sbel yn ôl. Dyma sut dwi'n delio efo'r holl aros mewn ciwiau...



A dyma Heulwen a finna'n dathlu'r ffaith fod y bagiau i gyd wedi mynd drwadd a ninnau wedi cael ein boarding passes ac yn cael mynd adre o'r diwedd!

Ydi, mae'n bechod bod y daith olaf un wedi bod yn gymaint o smonach, ond dyna fo, mae pethau fel hyn yn 'adeiladu cymeriad', a phwy a wyr, efallai mai hon fydd y rhaglen fwya difyr o'r cwbl o'r herwydd!
Dwi ddim yn gwybod eto pryd gewch chi weld y gyfres, ond mae 'na sôn am fis Hydref eleni. Mi fydda i'n gwneud y gwaith lleisio ddiwedd Medi beth bynnag.
Ac mi fydd y llyfr allan yn fuan wedyn gobeithio. Teitl? Wel, be am 'Ar y Lein Eto Fyth' ?!

2 Sylwadau:

  • am 9:39 PM, Blogger Maesneuadd said…

    Mae "Ar y Lein Eto Fyth" yn teitl dda. Rhaid i ti mynd a sgrifennu hyn, mae'r wyliau wedi gorffen

     
  • am 9:42 PM, Blogger Maesneuadd said…

    Mae "Ar y Lein Eto Fyth" yn teitl dda. Rhaid i ti mynd a sgrifennu hyn, mae'r wyliau wedi gorffen

     

Post a Comment

<< Hafan