AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

11.10.06

Ar gefn byffalos

Dydd Llun Hydref 9fed
Wedi cael diwrnod hyfryd heddiw er gwaetha'r ffaith ein bod ni wedi gorfod codi am 4.30 ETO! Ond roedd y fferi i ynys Ilha do Marajo yn gadael am 6, felly doedd 'na fawr o ddewis. Yn ystod y daith o deirawr dros yr Amazon, mi benderfynon ni gael paned. Ond y broblem efo coffi yn Brasil ydi bod nifer fawr o lefydd yn ei werthu efo siwgr ynddo fo'n barod - tunnell o'r stwff. Roedd o'n afiach. Do'n i ddim yn synnu clywed bod clefyd y siwgr yn broblem fawr yma.
Cyfarfod Michael, Americanwr o Mississippi ar y fferi. Mi briododd a merch o Brasil yn 2000, ac mae'n siwr mai jest cyd-ddigwyddiad hapus oedd o bod ei thad yn un o berchnogion tir mwya'r wlad. Rwan mae Michael yn byw efo hi yn Belem efo morynion ac ati ac yn ffermio gwartheg, byffalo a physgod ar yr ynys - ar fferm o 8,500 hectar - tua 20,000 acer os 'di'n syms i'n iawn; 'a moderate size farm by Brazilian standards,' meddai o. Ond dydi o'm yn gwneud llawer o 'ffermio' go iawn, mae ganddo reolwyr a llwyth o weithwyr, felly mae o'n gallu gadael y fferm i redeg ei hun fwy na heb, a hel y pres i gyd i mewn heb faeddu ei ddwylo. Braf ar rai.Ond roedd o'n hen foi iawn, ac roedd ei wraig yn glen iawn, er ei bod hi'n sal mor - neu sal afon yn yr achos yma. Roedd 'na donnau go fawr ac roedd hi'n anodd meddwl mai ar afon oedden ni achos doedden ni jest ddim yn gallu gweld yr ochrau. Ro'n i'n gwbod bod yr Amazon yn llydan ond mae'n rhaid bod yn ei chanol hi i ddallt pa mor llydan ydi hynny.
Wedi glanio, dyma gychwyn yn hapus am dref Soure yn ein bws mini, oedd yn golygu dal fferi bychan arall, ond ychydig filltiroedd cyn y porthladd, roedd yn rhaid stopio. Roedd 'na rywbeth oedd yn edrych fel coeden wedi disgyn ar ganol y ffordd. Ond naci wir, llwyth o goed bychain oedden nhw - a motobeics. Protest yn erbyn y maer lleol oedd o! Erbyn dallt, roedd cymdeithas y gyrrwyr tacsi moto beics arferol (sydd wastad yn gwisgo festiau oren) yn flin am fod cwmni arall wedi cael dechrau cwmni arall (mewn festiau glas) heb dalu trethi na gorfod cael y trwydddedau cywir. Roedd 'na gega'n mynd mlaen rhwng y teithwyr blin a'r protestwyr ond dim byd cas. Roedd pawb yn rhyfeddol o gall a rhesymol, ond roedd nifer o bobl ar feics yn gallu mynd ddrwadd drwy godi'r beics ar eu pennau. Mi fyddai wedi bod yn anodd iawn i ni wneud hynny efo bws mini. Ond dwi'n meddwl bod ein presenoldeb ni wedi bod o help - nid yn unig roedd y ferch o'r bwrdd twristiaeth lleol efo ni ac ar y ffon efo'r pwysigion yn syth, ond roedd y ffaith ein bod ni'n ffilmio'r cwbl yn siwr o fod o help i gadw trefn. A phan ddoth yr heddlu'n y diwedd - roedden nhw ar gefn motobeics y bois efo festiau glas! Wp a deis. Ond llwyddwyd i gael trefn ar bethe ac mi lwyddon ni i ddal fferi chydig hwyrach i'r ynys. Gewch chi'r stori'n llawn ar y rhaglen deledu - neu yn y llyfr. Mae 'na rywbeth yn deud wrtha i y bydd 'na lawer gormod o stwff ganddon ni i'w gynnwys mewn rhaglen hanner awr.
Aethon ni'n syth i'r gwesty - sy'n hyfryd. pwll nofio, cwrt tennis, bob dim, ond ydan ni'n mynd i gael cyfle i'w defnyddio nhw? Go brin. Cinio a chawod sydyn - roedden ni gyd yn chwys boetsh yn y gwres llethol - ond roedd y lleill yn gallu newid eu dillad a finna'n gorfod aros yn yr un rhai er mwyn dilyniant! A nes i lwyddo i sblashio peth o fy stiw pysgod dros fy nghrys... O wel, ymlaen a ni i fferm neu 'fazenda' dynes anhygoel o'r enw Eva. Mae ei theulu hi'n dod o Libanus yn wreiddiol, a'i thad hi oedd y cynta i fagu byffalos ar yr ynys - a rwan mae 'na bedair gwaith mwy o fyffalos na phobl yno ac maen nhw'n ran pwysig o economi'r ynys rhwng y cig, y caws a'r lledr. Mi fu Eva'n ddarlithydd prifysgol ar bethau milfeddygol ac yn wyddonydd ac ati am sbel cyn penderfynu stwffio academia a rhoi'r cwbl i fyny i redeg fazenda 6,600 hectar ( a fferm arall nath hi'm deud be oedd ei faint) a magu byffalos, gwartheg a cheffylau. Roedd hi'n siarad ryw lun o Ffrangeg, felly sgwrsio yn yr iaith honno fuon ni achos dydi fy Mhortiwgaeg i ddim wedi datblygu llawer. Ond doedd hi methu deud 'r', roedd o wastad yn debycach i 'h' felly doedd gen i'm clem am be roedd hi'n son pan driodd hi egluro am wahanal 'hace' o byffalos ac mai 'Hambo' oedd enw ei ffefryn.
Ges i fynd am dro ar gefn un byffalo dof (profiad newydd arall!) a bwydo mangos i rai o'r rhai llai dof. Maen nhw'n nyts am mangos. Ond roedd 'na ryw chwech coeden mango anferthol o gwmpas y ty, ac roedden ni'n gorfod bod yn ofalus rhag ofn i un ddisgyn ar ein pennau ni. Bu bron i'n gyrrwr ni ei chael hi - mi ddisgynodd homar o un drom fodfeddi i ffwrdd ohono. Beryg bod y mangos yn beryclach na'r byffalos.
Ond mae ganddi alligators a mwnciod ac adar gwyllt o bob math (cannoedd o ibis coch hyfryd) ar y ffarm hefyd gan ei bod hi'n gadael i'r rhan fwya aros yn dir gwyllt - yn jyngl go iawn. Mae hi'n ddynes natur a bywyd gwyllt, ac yn gweiddi ar y gyrrwr i stopio bob tro y byddai'n gweld bag neu botel blastig ar ei thir. Mi wnes i gymryd ati'n arw, yn enwedig gan fod ei thy hi a'i ffordd o fyw yn hynod syml er gwaetha'r miliynau sydd ganddi'n y banc.

Dydd Mawrth Hydref 10fed
Gawson ni gysgu'n hwyr heddiw - tan 6.00. A chael diwrnod hyfryd arall yn ffilmio'r heddlu lleol. Maen nhw'n mynd ar patrol ar gefn beics - a byffalos. Gawson ni glincar o sioe ganddyn nhw, hyd yn oed os nath y Colonel neud i ni wylio fidio yn gynta. Dwi'n siwr ei fod o'n fidio difyr iawn ond doedden ni'm yn deall gair nagoedden? Roedd ganddo barots dof hefyd, oedd yn fendigedig. A phan oedd y byffalos wedi nogio, gawson ni fynd i draeth paradwysaidd rhyw 9km i ffwrdd, lle mae modd i gwpl rannu caban ar y traeth am noson am £10 yr un. Peidiwch a mynd i'r Caribi am eich mis mel - dowch i'r Amazon! Wel, os ydach chi'n licio tawelwch a chydig o antur. Bu'n rhaid i ni lusgo'n hunain oddi yno am ein bod ni isio bod yn ol yn Belem heno, ac roedd 'na ddwy fferi i'w dal. Ac awyren i Manaus fory.
Rydan ni'n nacyrd ond yn hapus - a phawb heblaw Jonathan (lwyddodd i beidio a phrynu carped ym Morocco llynedd) wedi bod yn gwario'n wirion yn y siop crefftau lledr byffalo. Maen nhw'n gwneud bagiau allan o geilliau byffalos. Wel, y croen sydd amdanyn nhw. A dwi'n pasa defnyddio f'un i i gadw beiros ar fy nesg. Dwi'm yn gwbod be fydd gwraig Haydn yn ei feddwl o'r bag ysgwydd chwaith...

(Fernando ein fficsar sydd efo Piu Piu y parot. Gewch chi ddyfalu be 'di'r llun arall 'ma).

1 Sylwadau:

  • am 10:00 AM, Blogger Llefenni said…

    Waw! Ar restr nadolig pawb o hyn mlaen "Caill-fag Byffalo plis"!

    Joio'r blogio'n ofnadwy, dal ati, os nad wyt yn disgyn i gysgu wedi'r boreuau cynnar 'na...!

    Hanesion gwych i gadw rhwyn i fynd ar ddiwrnodau oer hydref Cymru fach.

     

Post a Comment

<< Hafan