Fedar pawb ddim bod yn Maria Callas
Mae’n hanner nos rwan, ac rydan ni newydd fwynhau pryd o bethau digon od ar Smith Street yn Chinatown – wy hynafol iawn (roedd y gwynwy yn biws-ddu a’r melyn yn las) efo tafelli sunsur yn un peth – oedd yn brofiad, ond dwi’m ar dân isio un arall. Ond roedd y skate yn hyfryd.
Roedden ni yn y stryd honno am ein bod ni wedi gweld a ffilmio perfformiad byr o Opera Tsieniaidd. Gawson ni weld Annie, un o’r ddwy ferch oedd yn perfformio yn gorffen rhoi ei cholur a’i phenwisg ymlaen (proses gymrodd dros ddwyawr iddi), ac yna gwrando ar ei chyfaill yn egluro hanes a chyfrinachau’r grefft. Aeth hynny mlaen braidd yn hir, ac roedd ‘na olwg digon diamynedd ar yr hogia ar ôl sbel. Wedyn dyma nhw’n dechrau canu. Doedd llais yr hogan arall ddim yn ddrwg, ond pan ddechreuodd Annie, ro’n i’n hynod falch bod yr hogia’n y cefn a finna methu sbio arnyn nhw. Dwi’n gwbod fod cymeriadau merched yn draddodiadol i fod i ganu mewn rhyw ffordd hurt o uchel a gwichlyd, ond doedd gan Annie druan ddim llais. Roedd hi’n edrych yn ddel a’i hystumiau a’i dawnsio’n hyfryd, ond roedd gwrando arni’n canu’n artaith. Roedd hi’n swnio’n union fel cath, bechod.
O wel, roedd o’n brofiad.
0 Sylwadau:
Post a Comment
<< Hafan