AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

5.6.07

Hanes Lulu


Pan welais i ein bod ni’n mynd i holi dynes wen sy’n berchen ffarm yma, ro’n i’n disgwyl y gwaetha – snoben gwynfanllyd yn trin y gweithwyr fel baw. Ond ges i sioc. Cyn dod yma, hogan 30 oed yn gwneud dodrefn yn Lloegr oedd Lulu, yn gwneud digon i gael pryd o fwyd bob dydd. Dim ond dod i weld ei hewythr am ei fod o’n wael oedd hi, ond mi fu hwnnw farw’n syth a bu’n rhaid i rywun aros i edrych ar ôl stâd Ndali a thalu’r gweithwyr ac ati. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n dal yma, yn gweithio fel het ond yn hapus ac wedi llwyddo i droi fferm oedd yn llanast yn fusnes tyfu vanilla llwyddiannus, fferm brynwyd yn wreiddiol gan ei thaid, Major Trevor Price (oes, mae 'na gysylltiad Cymreig yn rhywle). Ges i lond llaw o’r stwff gorau un ganddi, ac mae’r arogl yn fendigedig. Gesiwch pwy fydd yn dechrau gwneud cwstad go iawn a hufen iâ ac ati y funud fyddai adre...

Ond be oedd yn fwy difyr fyth oedd pan gafodd hi alwad ffôn ar ganol cyfweliad i ddeud bod yr heddlu wedi cyrraedd y ty...mae’n debyg fod ‘na ddynion busnes lleol yn trio honni mai nhw pia peth o stad Ndali, ac wedi gyrru llwyth o garcharorion i balu yno ar y slei er mwyn iddyn nhw gael plannu cnydau a thrwy hynny ennill hawl ‘squatters’ (rhywbeth fel’na, mae’n stori hir a chymhleth). Aethon ni yno efo hi, a gweld y carcharorion wrthi a chlywed Lulu’n trio dal pen rheswm efo’r heddlu a’r dynion busnes – sydd ddim yn lleol eu hunain gyda llaw – Indiaid o’r enw Farouk yden nhw. Y tad ydi'r boi yn y welintyns.
Ond maen nhw’n brysur yn trio troi y bobl leol yn erbyn Lulu. Mi gafodd ei rheolwr ei ladd rai blynyddoedd yn ôl ac mae’r rheolwr bach newydd - y dyn ifanc ar y dde - wedi cael ei fygwth sawl tro. Ond mae ei gweithwyr yn gwbl driw iddi ac mae’r ffrae i fod i fynd i’r llys wythnos nesa. Os na chaiff o’i setlo’n fan’no, fe allai pethau fynd yn hyll iawn. Mae’r math yma o beth yn digwydd yn aml mewn gwledydd eraill yn yr Affrig, a dwi wedi gweld â fy llygaid fy hun rwan, pa mor anodd a chymhleth ydi’r cwbl. Ro’n i wedi fy synnu gan Lulu – ei chryfder, ei phenderfyniad a’i hangerdd, a dwi wir yn gobeithio y caiff hi ffermio ei vanilla mewn heddwch. Mi fyddai ei thaid yn falch ohoni. Fyswn i’n gallu gwneud be mae hi’n ei wneud? Na, byth.

Os oes 'na rywun allan fan'na isio archebu peth o vanilla Ndali, dyma rai o'r bobl sy'n delio efo Lulu ym Mhrydain:
Bespoke Foods 020 78194300
Good Food 01597 824720
Goodness Foods 01327 872047
Suma Wholefoods 01422 313840

Y wefan: www.ndali.net
vanilla@ndali.net

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan