AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

3.7.07

Y daith olaf ar gychwyn

Wel, mae bob dim yn barod ar gyfer y daith nesaf. Heblaw am y ffaith mod i byth wedi dechrau pacio.
Mi fydd Heulwen a finna'n teithio i Lundain nos Iau yma (Gorff 5ed) am ein bod ni'n gorfod checio mewn am 4 y bore ar y 6ed. O, hyfryd... Mi fyddwn ni wedyn yn hedfan i Libreville, Gabon via Paris, tra bod y criw ffilmio yn hedfan o Kenya ac yn aros noson yn Addis Ababa cyn ein cyfarfod ni ar y 7fed. Ydi, cymhleth tydi? Tydi pob dim.

Does gen i ddim syniad sut fydd y we yn gweithio yn Gabon na Sao Tomé, a dyna pam dwi'n gyrru hwn rwan, rhag ofn!

Rioed wedi clywed am Gabon? Wel, gwlad fechan (iawn) ar arfordir Gorllewin yr Affrig ydi hi, ar y cyhydedd wrth reswm. Y Ffrancwyr fu'n llywodraethu yno tan 1960, felly efallai mai dyna pam eu bod nhw'n yfed mwy o siampên na bron neb. Pwy fysa'n meddwl ynde? Mi gai ambell wydraid, siawns. A chyfle i ddefnyddio fy Ffrangeg eto.

Wedi gwneud pob math o bethau yn fanno, mi fyddwn ni'n symud ymlaen i Sao Tomé ar Orffennaf yr 11eg. Ynys fechan 330 milltir sgwar efo dim ond tua 150,000 o bobl yn byw arni. Y Portiwgeaid fu'n rheoli fan hyn am gyfnod, felly ia, beryg mai Portiwgaeg fydd y Lingua Franca - iaith dwi wedi ei chael yn hynod anodd i'w dysgu yn y gorffennol. O wel. Maen nhw'n deud ei bod hi'n ynys arbennig o hardd, felly dwi'n edrych ymlaen yn arw - er gwaetha'r siom na fydda i'n cael nofio scuba yno wedi'r cwbl! O wel, dwi ddim mewn sefyllfa i gwyno debyg, a finna wedi cael fy nhalu i deithio rownd y byd deirgwaith.

Gobeithio'n arw y cai rannu mhrofiadau a lluniau efo chi cyn dod adre. Croesi bysedd felly...

1 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan