AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

8.7.07

Dawnswraig



Mae'r gwesty ma'n un poblogaidd ar gyfer priodasau, a iechyd, maen nhw'n gwybod sut i gynnal priodasau! Drymwyr, cor o ferched mewn gwyn a melyn yn hebrwng y cwpwl priod drwy'r drws, a swn was bach. Mae'r par priod o flaen rhain yn rhywle...

Mynd am reci fuon ni ddoe, ac mi gymrais i'r un yma o un o'r merched lleol oedd ar ei ffordd i ddawnsio mewn ffair. Roedd y colur yn cymryd rhwng 30 munud ac awr i'w wneud, ac roedd 'na griw ohonyn nhw - chwiorydd i gyd. A dyma lun ohonyn nhw efo Susie (mae'n lun sal iawn ohoni, gai un gwell nes mlaen, ond hi ydi'n rheolwr lleoliad ni, sy'n cymryd dim lol gan neb!).

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan