AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

7.7.07

Ar y traeth

Wel myn coblyn, newydd ddarganfod fod y traeth yn wifi! Dwi'n eistedd yma a nhraed yn y tywod yn sbio ar y tonnau o mlaen i, yr haul yn gynes ar fy nghefn a dwi'n gallu sgwennu hwn ar y laptop heb wifrau o fath yn y byd. Dydi technoleg yn beth braf weithiau dwch?
Mae Heulwen yn trafod yr amserlen efo Antoine ein fficsar lleol, a dwi'n cael brec bach. Does na neb yn y mor o hyd ond mae na Ffrancwyr claerwyn yn gorweddian o amgylch y pwllnofio. Ella ai i ymuno efo nhw am sbel!
Ges i noson dda o gwsg i fyny ar lawr ucha'r gwesty ond roedd na barti yng nghyntedd Heulwen druan felly gysgodd hi fawr ddim, bechod! C'est la vie...

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan