AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

6.7.07

Wedi cyrraedd!!

Wedi cyrraedd Libreville, prifddinas Gabon yn ddiogel. Heb weld llawer eto - dim ond y maes awyr a'r gwesty, ond mae'r gwesty jest dros y ffordd o'r maes awyr a'r gwesty reit ar lan y môr. Es i am badl ar ôl cyrraedd ac mae'n hyfryd o gynnes ond doedd 'na neb yn nofio yn unlle felly nes i benderfynu aros tan 'fory ar ôl siarad efo rhywun i weld os ydi o'n ddiogel (iechyd a diogelwch wedi suddo i mewn i fy isymwybod...)Wel, mi fysa'n goblyn o beth taswn i'n boddi yn syth ar ôl cyrraedd yn bysa?

Feibs da i'r lle ma; pawb yn glên a `chilled` a neb ar frys. Diolch byth, achos mae Heulwen a fi yn nacyrd. Bu`n daith hir a blinedig rhwng bob dim. Stori hir.
Gobeithio cael lluniau i chi ryw ben - heb ddadbacio eto.
Wil a Guy yn cyrraedd fory efo Susie - heb ei chyfarfod hi eto. Edrych ymlaen - dynes a hanner mae'n debyg.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan