AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

8.7.07

Le Couloir de la Mort


Rydan ni wedi gwneud diwrnod a hanner o ffilmio bellach a dydi o ddim wedi bod yn hawdd! Mi ddigwyddodd rhywbeth ar y ffordd yma i’r camera arferol - yr un mawr, trwm. Erbyn i Guy ei weld o neithiwr, doedd o ddim yn bihafio o gwbl. Y gwres o bosib, neu roedd o wedi cael cnoc ar y ffordd. Neu mae o, fel fi, yn dechra teimlo’n hen wedi teithio’r holl. Does wybod, a chawson ni’m gwybod chwaith achos doedd na’m amser i Guy ffidlan efo fo cyn dechrau ffilmio. Lwcus bod ganddon ni ail gamera efo ni, un bychan Sony. Ddim hanner cystal (na mor cool yr olwg a’r tripod. A deud y gwir, mae’n edrych yn pathetic) ond yn iawn mewn argyfwng.
Ac am fod ein hamser ni mor brin yma, roedd hi’n argyfwng neithiwr. Roedden ni isio mynd i ffilmio yn ‘Le Couloir de la Mort’ – cyntedd y meirw, sydd wedi cael yr enw am mai dyna’r stryd lle mae pawb yn mynd i feddwi a bachu, a meddwi nes eu bod nhw’n KO ar hyd lle. Wel, welson ni fawr o gyrff ar lawr, weles i lawer gwaeth yn y Bala ar nos Sadwrn. Ond y maer sydd wedi rhoi ei droed i lawr mae’n debyg, a gofalu fod ‘na lai o bobl yn mynd yno. Dwi’m yn siwr iawn sut.
Mi ddigwyddodd rhywbeth reit ddifyr i ni fel criw, ond dwi’m yn mynd i ddeud be oedd o cyn dod nol, a fydd o ddim yn y rhaglen, felly mi fydd raid i chi aros am y llyfr – allai fod yn barod ddechrau flwyddyn nesa, os gai lonydd!
Cliw bach i chi...gawson ni fraw o weld faint o griw oedd ‘na efo ni neithiwr. Cynrychiolwyr bob dim dan haul – a bodyguards! Roedd ‘na un boi bach yn fy hebrwng at ddrws fy llofft bob tro ro’n i’n neidio mewn i’r lifft! Ond erbyn heddiw, roedd ‘na dipyn llai...ddeudis i fod Susie’n cymryd dim lol yndo.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan