AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

8.7.07

Les Poissons


Roedd hi’n ddau y bore arna i’n mynd i ngwely’n y diwedd, ond roedd Antoine yn dal i fynnu ein bod ni i fod yn barod i gychwyn am 6.45 bore ‘ma. Felly mi godais yn gynnar yn hogan dda jest cyn chwech (er fod y cloc larwm jest a rhoi hartan i mi), cawod sydyn, newid, ac i lawr am frecwast. Ond er eu bod nhw wedi deud bod brecwast yn cychwyn am 6, doedd o ddim bore ‘ma. Es i’n ol i’r llofft i nol y laptop a blogio’r lluniau dwytha ‘na fues i nes gweld y nesa o’r criw toc wedi 6.30.

Ia, os ydach chi wedi sylwi ar amser gyrru’r blog, dwi’n deud y gwir ylwch – ac ydan, mi rydan ni ar yr un amser a chi yn union, peidiwch a gofyn i mi pam, sgen i’m clem.

Ond yn sgil digwyddiadau y Couloir de la Mort neithiwr, mi fethodd un gyrrwr a chodi mewn pryd, felly roedd hi’n agosach at 8 arnon ni’n gadael yn y diwedd – a do, mi gawson ni frecwast yn y diwedd. Croissants bendigedig yma!

I’r farchnad bysgod wedyn, a dyna egluro’r llun uchod. Wedi ei halltu mae’r rheina.

Ond roedd y pethau bach druan yma yn gwbl ffres. Dwi’m yn siwr allwn i fwyta’r rhain. Gwneud i mi feddwl am olygfa’r pysgod aur yn ‘A Fish called Wanda’, braidd.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan