AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

8.7.07

Awww!


Yn y brif farchnad, pan aeth y lleill i fyny rhyw risiau i wneud ‘topshot’, mi wnes i eistedd jest o flaen y stondin yma, a do’n i methu credu fy lygaid. Roedd y ferch ma’n siafio – fydda i byth y cofio be ydi ‘eyebrows’ yn Gymraeg – sourcils yn Ffrangeg – nid aeliau ydyn nhw naci? Ia? Amrannau ydi ‘eyelids’ a blew amrannau ydi ‘eyelashes’. Felly ia, aeliau ydyn nhw. Ac roedd y ferch ma’n eu siafio efo razor blade – yr un un i bawb – ac yna’n paentio stwff lliwio gwallt yn ddu i wneud aeliau eitha geometraidd a rhyfedd yr olwg. Wedi i’r liw ‘gymryd’, roedd gan y genod aeliau cwbl ddi-flew, od iawn yr olwg. Ax erbyn sbio, roedd o’n amlwg yn beth poblogaidd iawn i’w wneud. Ffasiwn...dwn i’m.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan