AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

8.7.07

Gwena Heulwen!


Heulwen yn barod i sglaffio siocled a siampen. Wel, naci props i mi oedden nhw mewn gwirionedd. Wyddoch chi bod Sao Tome yn enwog am wneud rhyw siocled ‘byd enwog’? Na finna chwaith. Ond mae ffrindiau Heulwen yn Abertawe wedi clywed amdano medda hi. Yhy. Hogan Galaxy ydw i, sori. Ta waeth, syndod oedd deall hefyd bod ‘na fwy o yfed siampen (y pen) yn Gabon nac unrhyw wlad arall yn y byd. Oes, mae ‘na bres yma –ond dim ond gan ganran fechan o’r boblogaeth wrth gwrs. ‘Gwena, Heulwen,’ medda fi, ond sbiwch gwen ges i. Ond pan gymrodd hi lun ohona i wedyn, do’n i faw gwell nag o’n? Ond ro’n i wedi blino.


Ond ddim gymaint a hon yn y cefndir chwaith.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan