AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

8.7.07

Baguettes


Mae dylanwad Ffrainc yn gryf iawn yma o hyd. Beryg iawn mai dyma’r bwyd gorau dwi wedi ei gael ar y cyhydedd a dwi’n eitha siwr mai’r Ffrancwyr sy’n bennaf gyfrifol am hynny. Nhw oedd yn llywodraethu yma tan 1960. Mae pawb yn siarad Ffrangeg yma, a phob arwydd yn uniaith Ffrangeg. Roedd y fficsar reit flin pan ofynais i am y ieithoedd eraill cynhenid. ‘Mais Gabon est un pays Francophone!’ medda fo, fel taswn i newydd regi.

0 Sylwadau:

Post a Comment

<< Hafan