AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

5.2.07

Nythod adar



Nythod go iawn ydyn nhw, wir yr. Yn dda at yr iau ac amrywiol bethau eraill mae'n debyg. A dydyn nhw'm yn rhad chwaith. Rhain yn rhyw ddeugain punt y pecyn! Ond roedd y ginseng yn gallu costio miloedd.
A dyna ni, y blog ola o Singapore. Cychwyn adre bore fory.
Sumatra fydd nesa - ryw dro ddechrau Ebrill.
Tan hynny, hwyl!

Cynhwysion Singapore sling



Do, mi ges i un o'r rhain. Wel, hanner un - ches i'm amser i'w orffen o, a fiw i chi glecio rwbath fel'na.
Efo'r holl alcohol 'na, roedd fy mhen i'n troi fel roedd hi!

Dwi'n licio'u steil nhw




Ia, arwyddion ar dai bach ydyn nhw. Da 'de!

4.2.07

Changi



Profiad i sobri rhywun oedd ymweld ag amgueddfa Carchar Changi, lle bu'r Siapaneaid yn hynod greulon efo carcharion rhyfel o Brydain ac Awstralia a phobl gyffredin Singapore yn y 1940au. Dwi'm yn siwr os oes 'na hawlfraint ar y llun yma, ond dyma fo beth bynnag. Roedd y dyn sgerbydaidd yn pwyso 11 stôn cyn Changi, ac ar ôl 3 blynedd a hanner yno, roedd o'n pwyso dim ond 4. Cafodd pobl eu harteithio a'u dienyddio (torri eu pennau efo cleddyf), ond roedd y rhai oedd ar ôl yn llwyddo i gadw eu hunain i fynd drwy berfformio dramau, gwneud offerynau allan o ddeunyddiau sgrap, a hyd yn oed sefydlu prifysgol, le roedd unrhyw un oedd ag unrhyw wybodaeth arbenigol ar unrhyw bwnc yn rhoi darlithoedd i'r gweddill.
Mae'r hanes yn ddirdynnol, ac mae 'na lawer gormod ohono i'w sgriblo'n sydyn mewn blog fel hyn. Gwyliwch y rhaglen pan gaiff hi ei darlledu.

Ar nodyn hapusach (gobeithio) dan ni'n mynd i chwilio am far Gwyddelig i wylio Cymru v Iwerddon rwan. Hwyl.

Mwy o'r deml


Teml Hinduaidd



Nôl i Little India heddiw a ffilmio yn y deml yma. Ro'n i wedi bod yno o'r blaen, yn ystod gwyl Thaipusam, ond roedd o'n edrych gymaint llai tro 'ma, a hynny am fod 'na fawr neb o gwmpas, ond roedd 'na filoedd yno yn ystod yr wyl!

3.2.07

Ar ddiwedd nos



Mi fuon ni'n gweithio'n galed ddoe. Mae'n rhaid ymlacio rhywsut, does?

Celfyddyd



Mi wnes i ddotio at y rhain. Mae 'na gerfluniau o bob math o gwmpas y lle yma. Dydi'r pres mawr sy'n cael ei neud yma ddim yn cael ei gyfyngu i adeiladu swyddfeydd newydd.

Jonathan



A'r gwrthwyneb.

Haydn



Haydn yn llwyddo i fwyta ei 'chilli crab' gyda steil ac urddas.

I fyny'r afon





Dwy ochr o'r ddinas o 'junk' ar yr afon.

2.2.07

Bosib mod i angen gwisgo mwy o golur

Fedar pawb ddim bod yn Maria Callas


Mae’n hanner nos rwan, ac rydan ni newydd fwynhau pryd o bethau digon od ar Smith Street yn Chinatown – wy hynafol iawn (roedd y gwynwy yn biws-ddu a’r melyn yn las) efo tafelli sunsur yn un peth – oedd yn brofiad, ond dwi’m ar dân isio un arall. Ond roedd y skate yn hyfryd.
Roedden ni yn y stryd honno am ein bod ni wedi gweld a ffilmio perfformiad byr o Opera Tsieniaidd. Gawson ni weld Annie, un o’r ddwy ferch oedd yn perfformio yn gorffen rhoi ei cholur a’i phenwisg ymlaen (proses gymrodd dros ddwyawr iddi), ac yna gwrando ar ei chyfaill yn egluro hanes a chyfrinachau’r grefft. Aeth hynny mlaen braidd yn hir, ac roedd ‘na olwg digon diamynedd ar yr hogia ar ôl sbel. Wedyn dyma nhw’n dechrau canu. Doedd llais yr hogan arall ddim yn ddrwg, ond pan ddechreuodd Annie, ro’n i’n hynod falch bod yr hogia’n y cefn a finna methu sbio arnyn nhw. Dwi’n gwbod fod cymeriadau merched yn draddodiadol i fod i ganu mewn rhyw ffordd hurt o uchel a gwichlyd, ond doedd gan Annie druan ddim llais. Roedd hi’n edrych yn ddel a’i hystumiau a’i dawnsio’n hyfryd, ond roedd gwrando arni’n canu’n artaith. Roedd hi’n swnio’n union fel cath, bechod.
O wel, roedd o’n brofiad.

jest i brofi mod i'n deud y gwir

Little India


Ac mae’r ardal yma’n lân a thaclus fel pob man arall. Mae’r bobl wedi cael eu dysgu dros y blynyddoedd na chawn nhw daflu sbwriel. Mae’r ddirwy am wneud hynny’n gallu bod yn $1000 (3 doler Singaporaidd i’r bunt – gwnewch eich syms), a na, does ‘na neb yn taflu gwm cnoi yma – dwi eto i weld neb yn cnoi’r stwff, felly mae’r palmentydd yn hollol, gwbl lân. Hyd yn oed yn y stondinau lleia, mae’r bylbs golau yn rai ‘gwyrdd’, ac mae pob dim yn cael ei ailgylchu. Maen ‘na stondinau sydd hyd yn oed yn talu pobl am eu scrap, eu papur a’u carbod. Ac mae ‘na fois yn malu ac ailwneud peiriannau electronig yn y stryd – fel yr hen foi yma. Wyneb da ganddo fo does? O, a does ‘na fawr ddim traffig yn Singapore am fod ‘na gymaint o dreth ar fod yn berchen car. Beryg fod y ffaith fod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac effeithiol yn help hefyd.


A dyma Murali yn dangos i mi sut i’w fwyta - wysg ei ochr eto, ga drapia. Blwmin technoleg. Roedd o'n iawn ddoe!
Ta waeth, roedd hi gymaint haws ei fwyta efo’r dwylo. Mae o’n chwip o ieithydd, a’i Gymraeg yn dechra dod rêl boi. Mi fydda i wrth fy modd os gaiff o dwristiaid o Gymru yn y dyfodol, a rhoi hartan iddyn nhw efo’i ‘Bore da, nos da a tisio paned?’

Yn ‘Little India’ roedden ni – sy’n ardal wirioneddol ddifyr o’r ddinas. Fama mae’r llefydd Backpackers (hostel ar gyfer teithwyr ar fyjet), ac mae gen i hiraeth am aros mewn llefydd fel’na. Dyna fy newis cynta i bob tro y bydda i’n teithio, am eich bod chi’n cyfarfod cymaint o bobl ddifyr ac yn cymdeithasu efo nhw ac ati. Dydi hynna ddim yn digwydd mewn gwesty 5 seren – mae pawb yn tueddu i gadw at eu hunain, braidd. Ond dwi’m yn cwyno – mae’n handi iawn cael all mod cons a stafell i chi’ch hun pan dach chi’n gweithio!

Mae ‘na stondinau di ri yma, sy’n gwerthu saris a geriach y crefydd Hindu, a llwyth o stondinau bwyd, efo llysiau na welais i mo’u bath erioed o’r blaen. Ges i flasu jack fruit – sy’n eitha neis, hyd yn oed os ydi o’n edrych yn amhosib o fawr a hyll cyn ei dorri. Mae o ddwywaith maint pêl rygbi.

Gormod o fwyd

Mae’n 5 y pnawn a dan ni gyd yn barod am ein gwelyau. Y tywydd ydi’r prif reswm dwi’n meddwl. Mae Murali ein fficsar yn deud ein bod ni’n lwcus, nad ydi hi hanner mor boeth a chlos ag arfer, ac mae ‘na awel, sy’n beth anghyffredin iawn am yr adeg yma o’r flwyddyn. Ond roedd hi’n boeth iawn amser cinio. A gawson ni bryd Indiaidd – Punjabi. Neis iawn, tipyn ysgafnach na’r bwyd Indiaidd rydan ni’n ei gael adre, ond roedden ni’n dal isio cysgu ar ôl y kebabs, y cyrri cimwch mewn coconyt (yn llythrennol mewn coconyt) a rwbath efo bean curd a rhyw fath o puree spinach – a’r diod llassi efo mango. Dydan ni’m angen chwarter hynna ganol dydd, ond mae’r bwrdd twristiaeth wedi trefnu’r prydau ‘ma i gyd i ni – ac yn talu amdanyn nhw hefyd – felly mae’n anodd gwrthod.

Ges i pata i frecwast – rhyw fath o grempog digon blasus efo saws cyrri ar wahân. Dyma fo’r boi yn eu gwneud nhw. Ac mae o'n mynnu mynd ar ei ochr am ryw reswm, sori!

1.2.07

Ond hwn oedd y gwaetha...



Roedd hwn yn wironeddol boenus i'w wylio.
Gwyl anhygoel. Lliwgar, hwyliog (wir yr!) ac un o'r pethau mwya rhyfeddol i mi eu gweld erioed. A phan dynnon nhw'n bachau allan - doedden nhw'n dal ddim yn gwaedu!
Ond roedd eu tynnu nhw'n brifo, does na'm dwywaith.
Maen nhw'n deud bod y tyllau'n cau o fewn dim.
Lwcus, neu mi fysa hwn yn cael trafferth yfed ei goffi bore fory...


Un o'r bois caletaf. Roedd o'n dawnsio er gwaetha'r metal yn ei fol - a'r tangerines. Ac roedd o wedi bod yn cerdded rownd y dre fel'na ers oriau!

Gwyl Thaipusam



Mae'r diwrnod cynta 'ma wedi bod yn gwbl anhygoel! Ar ol swper hyfryd bron yn syth ar ol cyrraedd, i'n gwelyau'n syth wedyn a chodi rhwng 3 a 3.30 (dibynnu ar yr unigolyn)er mwyn bod yn barod i fynd i un o'r temlau Hinduaidd am 4 y bore. Cyrraedd fan'no a myn coblyn...i gyfeiliant drymiau, symbalau a phibau, ac mewn cymylau o incense, cantamil o bobl yn cael bachau a sgiwars hirion wedi eu stwffio i mewn i'w cyrff. Rhai'n fodlon efo chydig o ffrwythau ar fachau fel hwn, eraill yn cario cawelli (Kavadi) sy'n pwyso hyd at 45-50 kilo. A dydi'r tyllau ddim yn gwaedu. Oherwydd y llwch gwyn oedd yn cael ei daenu drostyn nhw? Neu ffydd? Neu'r ffaith eu bod nhw wedi bod yn lysieuwyr cyn y ddefod ac wedi bod yn llwgu eu hunain? Dwn i'm - roedd gan bawb eglurhad gwahanol. Ond un peth sy'n ffaith - roedd o'n brifo!