AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

11.6.07

Cais am help ariannol

Mae arna i ofn bod gweddill y neges yma yn Saesneg.
Ges i wybod am elusen sy'n helpu plant gyda tumours yn ysbyty
Kenyatta, ac maen nhw wedi gyrru'r isod i mi ei roi ar y blog rhag ofn y gallai
rhywun allan fan'na helpu dau achos diweddar iawn:

At Kenyatta hospital it's like this. Anyone who gets admitted gets basic
treatment. There are 1,000 beds and up to 3,000 admissions at any one time.
People are supposed to pay for their treatment. But once you are in, they
can't force to you pay, and though they will often hold patients hostage to
pay the bills, eventually what happens is they kick you out and the ministry
covers all the theatre and bed bills.

However anything that is outsourced from suppliers, (scans, special drugs,
and special implants etc) where Kenyatta would actually have to pay up
front, the patient must raise the monies for those things themselves before
those items/services are procured.

So, sometimes, a kid/patient arrives with a small tumour and gets told to go
get a C.T. scan to assess the tumour, before they can be admitted.
CT scans are outsourced form another hospital (Kenyatta doesn't have that
machine).

Unless they get the C.T. scan, they don't get admitted at all, so they don't
get into the treatment chain.
The scan costs about $75.
They often go away and come back years later with a huge growth and its
either too late or now requires complex re-construction once the tumour is
removed.

The monies we had remaining were intended for those cases where $75 would
get the scan and gain admission to the hospital. Dr Fred, my guy on the wards
(who should be sainted by the way) sends me those cases.

He came to see me last week with 2 cases slightly outside my parameters but
I couldn't turn away and now need some help - as they have now depleted all
the monies I had remaining.


Case one - 12 yr old boy hit by matatu- local bus (we don't cover accidents, only
tumours). Smashed the front of his face so that the jaw and front of face
separated entirely from skull. Came in from Kericho (rural area). Poor.
Surgery needed required small metal plates to join face back to skull.
Plates cost 144,000/= ($2,149). All other costs covered by the hospital.
If he hadn't gotten the plates, then he would likely die.
I gave the go ahead and asked the supplier of the plates to give them to me
with some down payment, and wait for the balance. The surgery went ahead and
the boy is doing fine. I ma now in debt to the plates supplier.
The boy doesn’t look as bad as it actually is – as all the bone has shattered inside with little bruising yet evident. The bone is broken above the nose, across the front and under the eyes, on each side of the jaw, and through the front of the bottom jaw. He will lose the sight in one eye but Dr Fred thinks he will keep the other.


Case 2 - Woman age ?? 35?? (We had said we would only cover kids). Came in 3
years ago with small tumour. Told to get CT scan. Couldn't pay. Came back
three years later with this tumour now huge. When it's removed it will take
half her lower jaw and she would not be able to eat. She has a family. She
is from the bush and they get casual work when they can cutting cane. Cost
for plate is 44,000/= (approx $650). If it isn't removed it will keep on growing.

Total for both is $2,800. Can you or anyone you know contribute?

I have told Dr Fred to go ahead with the woman who is scheduled for next
week. I can probably just cover it all myself, but that will leave the
cupboards bare for future cases.

If you can't help, I understand. I know you are likely doing lots of other
good stuff, and you may even be broke like me.!

Ginger Wilson

Rider/sponsor www.thefirefliesride.com for Leuka. Pls click here to donate.
Enquiries info@gingerink.tv

6.6.07

Cadi Fflur


Ddrwg iawn gen i, ond mae'n RHAID i mi gynnwys y llun yma o fy ngor-nith, merch Leah, merch fy chwaer.
Fe ddaeth i'r byd y bore ro'n i'n cyrraedd Kenya a bu'n rhaid i mi aros 3 wythnos i'w gweld - ond roedd hi'n werth yr aros!

Ac mi fydd y blogio nesaf rhwng Gorffennaf y 6ed a'r 16eg. Y daith olaf ar y cyhydedd!

5.6.07

Beic i bob dim


Ydyn, maen nhw'n llwyddo i gludo'r pethau rhyfedda o un lle i'r llall heb betrol. Drysau, peiriannau gwnio, geifr, tunnell o fananas, bob dim.

A dyna ni am y tro. Roedd Uganda yn wlad wych, ddifyr, gwerth ei gweld. Ond mae'n braf bod adre, credwch fi.

Mi fyddai'n cychwyn am Gabon a Sao Tome fis Gorffennaf. Na, fydda i ddim yn mynd i'r Congo na Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo sydd y tu ôl i'r mynyddoedd welwch chi ar y gorwel yn y llun - braidd yn beryg yno ar hyn o bryd.

Felly cofiwch daro i mewn bryd hynny - ac ymatebwch y diawlied! Dwi'n teimlo weithiau mod i'n sgwennu at neb! Ond dwi'n gwybod bod nifer ohonoch chi'n darllen y blog 'ma, ond ddim eto wedi gweithio allan sut i yrru ymateb. Holwch y plant neu'r wyrion - mi fyddan nhw'n gwybod!

Chimps Kibali


Mi fuon ni'n cerdded drwy'r jyngl am sbel i weld y chimpansîs, ond ges i gric yn fy ngwar yn sbio arnyn nhw'n uchel i fyny yn y coed.
~Mi ddaethon nhw i lawr yn y diwedd, ond dyma'r llun cliria ges i efo nghamera zoom da-i-ddim i. Oes, mae 'na chimp mawr yn fan'na - craffwch!

Ailgylchu


Pan gafodd y gweithwyr vanilla hoe am ginio, mi ddechreuodd rhai chwarae draffts. A sbiwch be ydi'r darnau - ia, hen gaeadau poteli pop! Dwi wrth fy modd efo'r ffordd mae pobl yr Affrig yn ailgylchu a dod o hyd i ffyrdd i ail ddefnyddio pob dim. Mae ganddon ni lawer i'w ddysgu oddi wrthyn nhw.

Hanes Lulu


Pan welais i ein bod ni’n mynd i holi dynes wen sy’n berchen ffarm yma, ro’n i’n disgwyl y gwaetha – snoben gwynfanllyd yn trin y gweithwyr fel baw. Ond ges i sioc. Cyn dod yma, hogan 30 oed yn gwneud dodrefn yn Lloegr oedd Lulu, yn gwneud digon i gael pryd o fwyd bob dydd. Dim ond dod i weld ei hewythr am ei fod o’n wael oedd hi, ond mi fu hwnnw farw’n syth a bu’n rhaid i rywun aros i edrych ar ôl stâd Ndali a thalu’r gweithwyr ac ati. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae hi’n dal yma, yn gweithio fel het ond yn hapus ac wedi llwyddo i droi fferm oedd yn llanast yn fusnes tyfu vanilla llwyddiannus, fferm brynwyd yn wreiddiol gan ei thaid, Major Trevor Price (oes, mae 'na gysylltiad Cymreig yn rhywle). Ges i lond llaw o’r stwff gorau un ganddi, ac mae’r arogl yn fendigedig. Gesiwch pwy fydd yn dechrau gwneud cwstad go iawn a hufen iâ ac ati y funud fyddai adre...

Ond be oedd yn fwy difyr fyth oedd pan gafodd hi alwad ffôn ar ganol cyfweliad i ddeud bod yr heddlu wedi cyrraedd y ty...mae’n debyg fod ‘na ddynion busnes lleol yn trio honni mai nhw pia peth o stad Ndali, ac wedi gyrru llwyth o garcharorion i balu yno ar y slei er mwyn iddyn nhw gael plannu cnydau a thrwy hynny ennill hawl ‘squatters’ (rhywbeth fel’na, mae’n stori hir a chymhleth). Aethon ni yno efo hi, a gweld y carcharorion wrthi a chlywed Lulu’n trio dal pen rheswm efo’r heddlu a’r dynion busnes – sydd ddim yn lleol eu hunain gyda llaw – Indiaid o’r enw Farouk yden nhw. Y tad ydi'r boi yn y welintyns.
Ond maen nhw’n brysur yn trio troi y bobl leol yn erbyn Lulu. Mi gafodd ei rheolwr ei ladd rai blynyddoedd yn ôl ac mae’r rheolwr bach newydd - y dyn ifanc ar y dde - wedi cael ei fygwth sawl tro. Ond mae ei gweithwyr yn gwbl driw iddi ac mae’r ffrae i fod i fynd i’r llys wythnos nesa. Os na chaiff o’i setlo’n fan’no, fe allai pethau fynd yn hyll iawn. Mae’r math yma o beth yn digwydd yn aml mewn gwledydd eraill yn yr Affrig, a dwi wedi gweld â fy llygaid fy hun rwan, pa mor anodd a chymhleth ydi’r cwbl. Ro’n i wedi fy synnu gan Lulu – ei chryfder, ei phenderfyniad a’i hangerdd, a dwi wir yn gobeithio y caiff hi ffermio ei vanilla mewn heddwch. Mi fyddai ei thaid yn falch ohoni. Fyswn i’n gallu gwneud be mae hi’n ei wneud? Na, byth.

Os oes 'na rywun allan fan'na isio archebu peth o vanilla Ndali, dyma rai o'r bobl sy'n delio efo Lulu ym Mhrydain:
Bespoke Foods 020 78194300
Good Food 01597 824720
Goodness Foods 01327 872047
Suma Wholefoods 01422 313840

Y wefan: www.ndali.net
vanilla@ndali.net

Vanilla


Mae merch 38 oed o Loegr o'r enw Lulu Sturdy wedi llwyddo i ffermio vanilla yn llwyddiannus iawn yn Ndali.
A dyma i chi rai o'r gweithwyr wrthi'n mesur a didoli'r vanilla - fydd yn cael ei werthu gan Waitrose cyn bo hir - un o'r vanillas gorau gewch chi meddai rhai o'r chefs gorau un!

Ndali


Dyma i chi ddarn bychan o'r stad. Ydi, mae hi'n hyfryd o wyrdd a ffrwythlon yno. Mi ddywedodd Winston Churchill mai Uganda oedd 'perl yr Affrig.'

Ar y ffordd i Ndali



Pan mae'n bwrw glaw, mae'n bwrw glaw o ddifri, a dyma be ddigwyddodd ar y ffordd i stad Ndali ger Fort Portal. Mi gymerodd oes i ni ddod allan o hwnna! Ac erbyn y pnawn, roedd y mwd wedi sychu'n grimp.

Sgerbydau'r gorffennol


Dyma'r unig beth welson ni oedd yn weddill o gyfnod Idi Amin a'r rhyfel. Roedd o'n rhydu ar ochr y ffordd.

Kampala



O feddwl bod y lle wedi cael ei chwalu'n rhacs yn ystod cyfnod Idi Amin a'r rhyfel cartre fu wedyn, mae'r brifddinas wedi codi'n ôl ar ei thraed gyda steil. Edrych yn smart tydi? Cofiwch chi, mae 'na ddarnau sy'n dal yn hurt bost, yn stondinau lliwgar, prysur, pobl yn cario geifr ac ati ar gefn moto beics. Rydach chi'n dal yn ymwybodol eich bod chi'n yr Affrig! Ac mae'r traffig yn echrydus - llawn ceir ail law o Siapan.
Mae'r bywyd nos yn wych mae'n debyg ond welson ni ddim ohono fo. Roedd y gwesty'n rhy bell o ganol y dre ac roedden ni'n rhy flinedig. Dwi'n difaru rwan, wrth gwrs, ond dyna fo. Aeth Wil y dyn sain allan y noson gurodd tîm pêl-droed Uganda 'Super Eagles' Nigeria, a mwynhau'n arw a dod adre am ddau y bore. Ond mae o'n ifanc ac yn gallu dal ati drannoeth heb gur pen. Nid felly Guy, Catrin na finna - nid bod Catrin yn hen wrth gwrs.
Roedd y dre fel carnifal mae'n debyg - hen wragedd yn gweiddi mewn gorfoledd, 3 neu 4 dyn ar y tro ar gefn beiciau modur (yr un beic modur) yn gyrru drwy'r dre yn chwerthin a gweiddi, pawb yn dawnsio. Mae curo Nigeria iddyn nhw fel Cymru'n curo Lloegr neu Brasil!

O, a mae 'na gaffis soffistigedig iawn yn Kampala. Sbiwch y cappucino ges i...

4.6.07

Percussion Discussion


Ches i’m cyfle i flasu bywyd nos enwog Kampala (pan dach chi’n gweithio, jest isio paned a gwely ydach chi ddiwedd nos) ond mi ges i weld band o’r enw Percussion Discussion, a’u mwynhau’n arw. Roedden nhw’n chwarae cymysgedd o offerynau traddodiadol Affricanaidd, y drymiau croen gafr a thelyn fechan siap bwa, ond efo gitârs a thrwmped hefyd. Wedyn roedd ‘na genod yn dawnsio, yn ysgwyd eu penolau’n amhosib o gyflym fel bod y croen gafr amdanyn nhw’n edrych fel plu. Mi fysen nhw jest y peth ar gyfer y Sesiwn Fawr, a myn coblyn, maen nhw’n mynd i Lundain a Manceinion fis Gorffennaf beth bynnag – bechod na fyddai’r pwyllgor wedi cael gwybod mewn pryd! O wel. Rhywbryd eto efallai.

Cario bananas


Ia, wel...roedd o'n weddol hawdd pan ro'n i'n sefyll yn llonydd. Mae cerdded fel'na yn fater arall.

Croeso plant Uganda


Bob tro y bydden ni'n stopio i ffilmio, mi fyddai plant yn heidio aton ni.
A dyna i chi be ydi gwisg ysgol sy'n codi gwên yn y dosbarth!

Yr afon Nil o'r Haven

Dyma'r olygfa am 6 y bore o fy nghwt bychan i yn 'eco-lodge' yr Haven, ger Jinja.



A dyma, o bosib, y ffordd orau'n y byd o gael cawod - byddai tynnu'r cyrten wedi bod yn bechod...

3.6.07

Ar y ffordd adre

Mi ddylwn i fod adre erbyn amser cinio fory felly gewch chi weddill yr hanes a'r lluniau pan fyddai wedi atgyfodi. Ym maes awyr Nairobi rwan am 6 awr cyn hedfan dros nos i Heathrow.Wedi mwynhau bois bach. Uganda yn wlad a hanner a doedd 10 diwrnod ddim chwarter digon.
Reit, paned...
O ia, llongyfarchiadau i dim pel-droed Uganda am guro Nigeria 2-1 neithiwr! Aeth Kampala'n hurt bost!