AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

15.12.06

Bron adre

Rydan ni ym maes awyr Amsterdam rwan - am 5 awr!
Coblyn o beth ydi bod mor agos ond eto mor bell.
Rwan ta, i unrhyw un sy'm wedi hedfan ers sbel - cofiwch na chewch chi fynd a hylifau yn eich bagiau llaw ar yr awyren yn yr EU.
A dwi newydd brynu jar o sunsur wedi ei grystaleiddio (Mam yn ei licio fo) a thun o foie gras (na, nid yn wleidyddol gywir, ond dwi rioed wedi ei flasu o'r blaen a meddwl y byddai'n neis at Dolig)- ac roedd rheiny'n gorfod cael eu rhoi mewn bag wedi eu selio er eu bod nhw wedi eu selio'n barod! Tun a jar efo cellophane drosto fo neno'r tad!
Weles i ddynes jest a chrio yn y lle diogelwch - am nad oedd y bocs efo'r botel whisgi ddrud wedi ei selio, roedd hi'n gorfod ei adael ar ol!
Fe gawsoch eich rhybuddio...

Reit, gobeithio eich bod chi wedi mwynhau hanesion Ecuador a'r Galapagos. Mi fyddwn ni'n cychwyn am Indonesia ac ati ddiwedd Ionawr, felly dowch yn ol bryd hynny.

Yn y cyfamser, prynwch gopi o 'Ar y Lein Eto' Gwasg Gwynedd. £7.95 dwi'n meddwl. Anrheg Nadolig hyfryd!

14.12.06

Mwy o luniau o Ecuador a'r Galapagos





Mwy am y galopio

Fi'n carlamu ydi hwn meddai Jon. Dio'm yn edrych yn gyflym iawn nacdi?
Ond mi roedd o, iawn!


Xavier ein tywysydd ar y llosgfynydd. Ei ddymuniad ydi mynd i weld Machu Pichu rhyw ddydd.

Ar y ffordd adre



Diolch byth, gawson ni hedfan yn ol i Santa Cruz, a sbiwch golygfeydd hyfryd. Llwyth o losgfynyddoedd ydi'r Galapagos, ac mae rhai'r pen yma yn fwy newydd na'r gweddill.Ond roedd hi'n awyren fechan iawn, iawn. Mi fu'n rhaid i Fernando aros ar ol i neud lle i'n bagiau ni - ac mi adawodd Almaenwr clen iawn o'r enw Peter/Pico ei ges hynod drwm efo Fernando hefyd. Muchas gracias Fernando und vielen dank Pico!

13.12.06

Adar ffrigad - neu frigate


A chlincar o lun da ohona i!

Galopio'n y Galapagos



Dydd Mawrth Rhagfyr 12

Mi fuon ni am antur go iawn heddiw, trek i fyny llosgfynydd Sierra Negro ar gefn ceffylau. Dwi’n weddol brofiadol bellach, ac roedd Haydn wedi bod ar gefn ceffyl ym Mheriw rhyw 3 blynedd yn ol, ond y tro dwytha i Jon fod ar gefn un oedd yn Llangrannog ugain mlynedd yn ol (dwi’n siwr ei fod o’n fwy na hynny ond dio’m isio dangos ei oed).

Gan fod yn rhaid i ni gyd ferlota i ben y mynydd, roedd y cwmni yswiriant wedi mynnu ein bod ni i gyd yn mynd a het bwrpasol efo ni. Felly, ar ol rhowlio fy lygaid a chwyno dan fy ngwynt na fyddai neb arall a blwmin helmets, mi wnes i fenthyg un o Abergwynant (lle wrth ymyl Dolgellau oed yn arfer gneud treks tan tua dau fis yn ol)- ond roedd y ddau arall wedi PRYNU rhai newydd sbon danlli iff iw plis! A Jon wedi cael un hynod o swish...

Haydn gafodd y ceffyl calla, yr un oedd isio rhedeg. Roedd Lambada, fy ngheffyl i, a cheffylau Jon a Fernando jest isio bod efo’i gilydd – cyffwrdd ei gilydd – trotian ar draws ei gilydd heb indicetio na dim – ia, roedden nhw’n fodlon trotian weithiau ond dim ond am rhyw funud a hanner ar y tro. Roedd ceffyl Haydn yn enaid mwy annibynnol oedd wrth ei fodd yn carlamu. Rhegi a phiso chwerthin fuon ni’n tri oedd ar y ceffylau oedd isio bod yn ddefaid.

Pan ddaeth hi’n amser i mi gael fy ffilmio ar gefn ceffyl, roedd Lambada’n gwrthod gadael ei ffrindiau. Felly ges i fynd ar un Haydn yn lle. Wel, dyna welliant! Ond ges i, a Haydn a Jon - a pherchennog y ceffyl dipyn o sioc pan ddechreuodd y ceffyl yma garlamu o ddifri ar hyd y caldera (top siap cylch llosgfynydd – y mwya yn y byd heblaw am Kilimanjaro). Roedden nhw wedi gofyn i fi a Xavier y tywysydd garlamu, felly dyna wnaethon ni. Ond wawiiii! Fues i rioed ar gefn ceffyl mor gyflym yn fy myw! Wir rwan, roedd o fel rhywbeth allan o ffilm gowbois, a dwi’n gweddio y bydd o’n y rhaglen achos dwi isio dangos fy hun. Ond mae’n rhaid i mi gyfadde, dwi’n falch bod gen i het...

Roedd Jon wedi deud ‘carlamu cyn belled a’i fod e’n ddiogel’. Ac ro’n i’n teimlo’n berffaith ddiogel. A deud y gwir, ro’n i’n fy nefoedd! Ond ges i Lambada’n ol ar gyfer y daith yn ol i lawr. Zzzzzz.

Mae'r hogia'n ddel pan maen nhw'n gwenu


Crwbanod




Y blin, yr ofnus a'r hollol depressed.

Mwy (o) Igwanas

Igwanas


Gawson ni westy hyfryd yn Puerto Ayora, lle newydd sbon danlli, dim ond ar agor ers wythnos: y Solymar (www.hotelsolymar.com.ec). Dim byd crand, dim teledu yn y stafell na dim byd felly, ond glan a chyfforddus efo pwll nofio bychan a hamocs reit o flaen y mor – a llwyth o fywyd gwyllt reit o flaen eich trwyn chi – fel yr iguana yma.
Gyda llaw, dydi pawb ddim yn gallu deud ‘th’ yma, felly mae Bethan yn swnio’n debycach i Besan, a chan fod Gwanas yn swnio’n debyg iawn i Iguanas, mi gafodd un boi ffit o chwerthin o sylweddoli bod fy enw’n swnio’n debyg i ‘Besando Iguanas’ – sef ‘cusannu iguanas’. Hm. Dwi’m yn siwr be i feddwl o hynna.

Y Ddanodd/ y ddannodd?



Cael trafferth efo cawl, hyd yn oed, bechod.


Roedden ni wedi bod yn snorclo y diwrnod blaenorol hefyd, ger ynys Bartolome, lle welson ni’r pengwins bach delia rioed. Ges i fod yn y dwr efo un ohonyn nhw, ond doedd o’m isio aros o gwmpas i chwarae am ryw reswm. Ond roedd ‘na forlo isio chwarae – ond doedd ganddon ni’m camera dan dwr y diwrnod hwnnw, damia! Ar yr ynys honno mae Pinnacle Rock, sy’n ymddangos yn ffilm ‘Master and Commander’ efo Russell Crowe, un o fy hoff actorion. Wel, un o’r rhai dwi’n eu ffansio fwya ta.

A digwydd bod, ges i ffansi at gapten y cwch aeth a ni ar y daith 3 awr i’r ynys – Capten Abraham. Boi du, smart oedd yn amlwg wedi cymryd ffansi ataf finna. Dwi’m yn rhy hen, chi! Dyna be oedd hwyl, fflyrtio tra’n ceisio gyrru cwch – do, ges i dro ar y llyw – ond roedd y lli mor gry, ro’n i’n anobeithiol. Ond mi gafodd o’r myll ar y ffordd nol pan nes i wrthod ei gyfarfod y noson honno. Ro’n i’n difaru mod i wedi gwrthod wrth gwrs, ond roedd hi’n eitha amlwg ei fod o’n foi go beryg efo’r merched a do’n i’m isio action replay o Punta Arenas (darllenwch lyfr ‘Ar y Lein Eto’ – wedyn darllenwch rhwng y linellau). Ac fel roedd hi’n digwydd, mi fyddai Haydn wedi bod ar ei ben ei hun y noson honno, achos rydan ni wedi cael anffawd arall.

Mae gan Jon, ein cynhyrchydd, y ddannodd. Ers dyddiau a deud y gwir, ac roedd y creadur mewn poen go iawn. Felly, wedi mynd heb fwyd am sbel, bu’n rhaid iddo fynd at y deintydd yn y diwedd – tra bu Haydn a finna’n ffilmio crwbanod a chwilio am El Solitario George, neu Lonesome George, crwban hynafol sydd a neb tebyg iddo fo ar ol yn y byd. Fo ydi’r unig un o grwbanod Ynys Pinto sy’n dal yn fyw, bechod, a mae ‘na olwg hynod depressed arno fo. Maen nhw’n trio’i gael o i gael babis efo crwbanesau tebyg, ond er ei fod o’n gneud be mae o i fod i’w wneud, does na’m byd yn digwydd wedyn. Dywedodd Bolivar, cymeriad o foi ddaeth efo ni at y crwbanod, ei fod o’n anffrwythlon. Mae ‘na son am ei ‘glonio’ (efo to bach) fo, ond does wybod.

Ta waeth, son am y deintydd ro’n i. Mae Jon wedi dysgu 3 gair Sbaeneg newydd, sef ‘abrir’ – agor, ‘cerrar’ – cau, a ‘ ‘ - poeri. Ac mae o wedi cael tynnu’r nerf oedd yn pydru dan ei ffiling ac mae o’n well rwan. Wel, weithiau. Mae’n dal i gymryd oes i fwyta ei swper gan mai dim ond hanner ei geg mae o’n ei ddefnyddio.
Ac ar ol talu $150 doler am y driniaeth, mi ddywedodd Che Che, un arall o’n twysyddion ni (ydi, mae’n gymhleth) sy’n wr i ddeintydd, y byddai ei wraig wedi ei wneud o am $20.
MAE'R BLYDI BLOG MA'N GWRTHOD RHOI MWY NA DAU LUN MEWN UNRHYW NEGES RWAN AM RYW RESWM. AAAAAAA!!! OS YDACH CHI WEDI BOD YN TEIMLO MOD I DDIM YN CAEL CYSTAL HWYL YN ECUADOR AG O'N I YN BRASIL - NACI - DWI WRTH FY MODD YMA - Y BALI BLOGIO SY'N FY NGYRRU I'N WIRION!

Sy’n f’atgoffa, os ydach chi am ddod i’r Galapagos ryw dro, ac yn trio gweithio allan faint fydd o’n ei gostio, cofiwch bod pawb fan hyn wedi arfer efo Americanwyr cyfoethog, hael ac yn disgwyl tips. Nid dim ond am fwyd, ond am eu cwmni fel tywysyddion y parc cenedlaethol (chewch chi’m mynd i fawr o nunlle hebddyn nhw), neu fel y chef ar y cwch, neu fel capten. Mae Haydn yn deud y gallen ni fod wedi sbario rhoi tip iddo fo taswn i’m wedi bod yn gymaint o fabi.

Mae’r byd ma’n fach eto. Pwy oedd yng ngofal cyhoeddusrwydd canolfan Darwin ond cyn wraig Capten Abraham. Hogan benfelen wen o Seland Newydd, a’i siap nid yn anhebyg i f’un i. O ho. Dwi’n meddwl bod fan’ma’n le da i ferched nobl sydd unai’n naturiol felyn neu’n esgus eu bod nhw – roedd ‘na griw o ferched ifanc Amazonaidd o’r Iseldiroedd yn y maes awyr, a doedd yr hogia lleol methu tynnu eu llygaid oddi arnyn nhw!

Mwy o luniau Ecuador

Mi fydd Derek y dyn sain yn licio hwn.


Llun o blant Otavalo.
Mae'r boom yn denu plant ond yn dychryn ceffylau am ryw reswm.

Lluniau

Fernando y fficsar - fu'n fficsar hefyd i Steve Irwin yma. Mae o'n deud ein bod ni'n gweithio'n galed, ond fod criw Steve Irwin yn gweithio hyd yn oed yn galetach.


Y cwch o uffern

Y Galapagos

Helo eto. Ddrwg gen i am yr oedi, ond dwi’m wedi cael cyfle i sgwennu gair ers cyrraedd y Galapagos. A dwi’m yn siwr os gai gyfle i yrru hwn cyn gadael chwaith, beryg mai o’r gwesty yn Quito gewch chi hwn yn y diwedd.(DYDD MAWRTH -YM MAES AWYR GUAYACIL YDW I FEL MAE'N DIGWYDD - CROESI BYSEDD Y BYDD Y LLUNIAU'N GWEITHIO!)

Dwi’n mynd i weithio am yn ol, gan mai heddiw, nos Lun Rhagfyr 11eg sydd fwya ffres yn y cof. A hynny am ein bod ni newydd gael y daith waetha erioed. Wnai byth, byth gwyno am yr A470 eto. A wnai byth anghofio’r daith deirawr (oedd i fod yn ddwyawr) ar gwch o Puerto Ayora ar ynys Santa Cruz i ynys Isabella. Doedd hi ddim yn gwch fawr iawn, ond roedd ‘na ddwy injan fawr bwerus, swnllyd a myglyd ar y cefn. Dychmygwch fod a dau foto beic yn eich clust dde am deirawr a chithau mewn cwdyn plastig (roedd ‘na blastig reit rownd y cwch, sbario i ni wlychu) sy’n llawn o ffiwms petrol wirioneddol gryf a ffiaidd, tra’n cael eich taflu i fyny ac i lawr ar donnau gwyllt, enfawr, sy’n gwneud i’ch dannedd chi ysgwyd, eich cefn a’ch pen ol i waldio’r darn pren caled sydd i fod yn sedd, a’ch stumog i daro’ch corn gwddw bob dau neu dri eiliad. Roedd o’n anioddefol ar ol pum munud, heb son am deirawr. A finna wedi meddwl sgwennu rhywbeth yn ystod y daith; mi fyswn i wedi chwydu ar ol dau funud. Mi wnes i drio defnyddio’r amser i feddwl am blot llyfr dwi fod i’w sgwennu, ond allwn i’m meddwl, hyd yn oed. Nid am bethau cymhleth, o leia. Roedd fy mrens mewn magimix (Kenwood os ydach chi ar ei hol hi yn y byd offer cegin).

Ac yn waeth na hynny, roedd hi wedi tywyllu ar ol rhyw ddwyawr, a doedd y gyrrwr ddim yn rhoi golau ar y cwch o gwbl. Nabod y ffordd mae’n debyg, ond be tase ‘na forfil yn digwydd pasio? Welson ni un yn gynharach, ond erbyn dod yn agosach, dim ond gweddillion morfil oedd o, llwyth o gnawd wedi ei glymu’n sownd yn rhaffau rhwyd bysgota fawr. Roedd hi’n olygfa drist a deud y lleia, ac yn drewi hefyd, drewi’n echrydus, felly wnaethon ni ddim oedi, ac yn ol a ni i gael ein waldio gan y tonnau.

Ond erbyn cyrraedd y gwesty – Casa de Marita, roedden ni’n hapusach. Lle braf, llawn golau reit ar lan y mor, lle mae’r perchennog wastad yn gwisgo gwyn – i fatsio ei wallt hir, gwyn, a’i wraig wastad yn gwisgo du – oes, mae ganddi wallt du. Ac roedd y swper – pysgodyn wrth gwrs – yn hyfryd.

Trio cofio be arall oedd wedi digwydd heddiw, achos mae ‘na gymaint yn digwydd mor gyflym, mae’r bore fel tase fo wythnos yn ol. A bore ‘ma, snorclo ger Ynys Seymour ro’n i, efo dyn camera dan dwr – Ricardo. Americanes o’r enw Valerie oedd i fod i wneud ond roedd hi’n diodde ar ol bwyta rhywbeth neithiwr ac isio chwydu bob munud. Mi wnes i feddwl ella y dylai hi chwydu’n y mor er mwyn denu siarcod ond wnes i’m deud hynny. Does gan bobl sal fawr o hiwmor nagoes?

Ta waeth, weles i siarc beth bynnag (Tiberon en Espanol – un hammerhead meddai Ricardo), a llwyth o bysgod difyr a diarth eraill, a chael modd i fyw yn chwarae o gwmpas yn y dwr. A dwi’m yn meddwl mod i’n edrych yn rhy dew ac erchyll yn y siwt wlyb (weles i beth o’r ffilm dan dwr wedyn). Nid f’un i nes i ei gwisgo’n y diwedd (hen a braidd yn dyllog) ond un cwmni Fernando, ein fficsar yn y Galapagos. A dyna i chi ddyn bach rhyfedd. Digon annwyl, ond rhyfedd ac nid yn rhy drefnus. Wnai mo’ch diflasu chi efo’r manylion ond ar adegau rydan ni wedi bod isio’i grogi o. e.e yng Nghanolfan Charles Darwin ddoe, lle roedden ni wedi gofyn iddo drefnu cyfweliad efo un o’r gwyddonwyr ers wythnosau. Daeth yn amlwg nad oedd o wedi cysylltu efo nhw o gwbl. Gawson ni gyfweliad efo merch oedd yn arbenigo mewn crwbanod yn y diwedd, ond dim diolch iddo fo.

Ac ar y ffordd yn ol o’r snorclo mi gafodd Fernando alwad ffon gan bennaeth y ganolfan – Cymro o’r Fenni o’r enw Gerald Watkins! Ges i sgwrs efo fo dros y ffon; tase’r creadur wedi cael gwybod gan Fernando ein bod ni o gwmpas y lle, mi fyddai o wedi rhoi sgwrs i ni’n syth ac roedd o’n amlwg jest a drysu isio’n cyfarfod ni (‘I still watch Wales playing rugby..’) ond dim ond chwarter awr oedd ganddon ni i ddal y cwch erchyll ‘na. Oes, mae isio gras weithiau.

9.12.06

Marchnad Otavalo

A'r bois a'u hetiau:





Y shamans o wlan fydd ar fy wal i yn rhywle - a'r gwr a'i wehyddodd ar y dde.

Plant ysgol Otavalo


Uchafbwynt y daith i mi hyd yma oedd ymweliad ag ysgol gynradd ger Otavalo.
Bydd raid i chi wylio’r gyfres i wybod pam achos does gen i’m mynedd deud rwan.
Ond mae’n lun da tydi? Gyda llaw, maen nhw’n gymysgedd o ferched a bechgyn ac mae’n anodd iawn deud y gwahaniaeth gan fod gan y bechgyn wallt hir hefyd.

Dwi’m yn cofio pa ddiwrnod ydi hi bellach. Mae pethau felly’n digwydd yn aml ar drip fel hwn.
Mae gen i newyddion da – rydan ni wedi cael trefn ar y sefyllfa batris. Wnai mo’ch diflasu chi efo’r manylion, achos switsio i fwrdd ro’n i bob tro roedd y peth yn codi beth bynnag, a bod yn dawel ffyddiog y byddai bob dim yn iawn. Dim pwynt mynd i fflap nagoes?
A rwan, diolch yn bennaf i ffrind tad Ricardo sy’n drydanwr wedi ymddeol, mae modd i ni ffilmio yn y Galapagos. A fydd dim rhaid crwydro blwmin Ecuador eto yn chwilio am transformers a chebls.. (lun o Jon yn dathlu uchod)

Rydan ni’n ol yn Quito fawr, brysur bellach, a’r Hilton sy’n union yr un fath a phob Hilton arall – dwi’n hynod ddiolchgar bod ganddyn nhw cytsal system ar gyfer y we fyd-eang, ond rhowch i mi’r hacienda unrhyw adeg.

Bore cynnar eto fory – bydd Hugo’n mynd a ni i’r maes awyr am 6.30. Eisoes wedi ffarwelio efo Ricardo (druan bach – roedd Jon a Haydn yn ei alw’n Fernando dragwyddol) a rhaid cyfadde, ro’n i wedi cael llond bol ohono fo erbyn y diwedd. Siarad? Doedd o’m yn stopio, a hynny ar dop ei lais. A finna wedi arfer byw mewn ty bach tawel iawn iawn, ac yn mynd yn embarasd mewn ty bwyta pan fydd pawb arall yn gwgu ar y boi swnllyd sydd ar yr un bwrdd a fi. Ond fy mai i ydi hynny, ac mi fuodd o’n help mawr i ni efo bob dim, felly gracias Ricardo.
Er ei fod o wedi gweiddi ar dop ei lais pan sonies i am Nain: ‘You have a grandmother who is still alive?!’ fel taswn i’n Nain fy hun...

8.12.06

Yr hacienda


Yr wy a'r diploma


Fi'n yfed y stwff sinamon ar y chiva

Lluniau!


Mae'r bali peth 'ma'n gwrthod gadael imi roi mwy na 2 lun ar y tro, felly dyma
drio eto mewn neges arall(mae isio gras):

Ecuador - o'r diwedd!


Dydd Mawrth Rhagfyr 5ed.

Croeso’n ol i’r blog – ar gyfrifiadur sydd ddim yn perthyn i mi a dyna pam dwi’m yn gallu rhoi to bach ar ddim – rhag ofn eich bod chi’n meddwl mod i ddim yn deall y pethau ‘ma (ond mae’n esgus reit dda ar gyfer yr adegau pan dwi’m yn hollol siwr, rhaid cyfadde).

Dwi yn Quito, prifddinas Ecuador, ers naw bore ‘ma ac mae hi rwan yn 8.45 a dwi’n barod am fy ngwely. Pah, babi di-egni di-stamina fe’ch clywaf yn gweiddi. Isio bet?!
Ro’n i wedi bod yn teithio ers 29 awr via Caerdydd, Amsterdam, Bonaire (rhywle yn y Caribi sy’n perthyn i’r Iseldiroedd) a Guayacil i chi gael dallt, ac wedyn, ar ol brecwast, aethon ni’n syth i ffilmio – a newydd stopio am saith heno ydan ni. Ro’n i fod i ddawnsio salsa nes mlaen, ond stwffio fo. Roedd hi’n anodd sefyll heb son am ddawnsio.

A dim ond tri ohonon ni sydd tro ‘ma; Haydn ar y camera, Jonathan yn rhyw drio cyfuno sain efo cynhyrchu a chyfarwyddo, a fi. Methu fforddio Derek tro ‘ma! Dydi gwneud cyfres fel hon ddim yn rhad fel y gallwch chi ddychmygu, felly rydan ni’n gorfod torri’n ol hynny fedrwn ni. Ond rydan ni’n gneud bob dim fedrwn ni i drio cael Derek yn ol ar gyfer Indonesia a’r Affrig. Wel, bob dim heblaw llwgu.

A bod yn onest, mae ‘na bedwerydd efo ni, sef Ricardo y fficsar lleol. Un da ydi o hefyd, a hynod glen. Ac mae ganddon ni Hugo sy’n gyrru’r bws mini ac mae o’n crwydro ar droed efo ni pan fydd o’n berffaith, gwbl siwr bod y fan y saff. Achos dydi Quito ddim yn le mor ddiogel a hynny. Yn enwedig heno a hithau’n wyl dathlu ail-adeiladu’r ddinas gan y Sbaenwyr wedi i’r Incas ei dinistrio hi’n rhacs am ei bod hi’n well ganddyn nhw wneud hynny na gadael i’r Sbaenwyr gael eu dwylo ar Quito. Mae hi’n goblyn o wyl, ac mae ‘na yfed yn mynd mlaen was bach. Mae’n debyg y bydd ‘na gannoedd yn ymladd, yn brifo, a cholli bob ceiniog o’u heiddo i ladron – rhai efo cyllyll – rhai efo gynnau. Hm. Na, dio’m yn le i fod allan yn chwil ar eich pen eich hun. Nid mewn rhai rhannau o’r ddinas beth bynnag. Ond os dach chi’n gwbod lle i beidio mynd, rydach chi reit ddiogel yma.

Y sioc gynta gawson ni oedd y ddiffyg ocsigen. Mae hi’n uchel yma – 2850 m, felly mae’r rhan fwya o bobl yn diodde rhai o symptomau salwch ‘altitude’ am y diwrnod cynta – neu ddau. Roedd fy mhen i‘n teimlo’n rhyfedd, rhaid i mi ddeud, fel tase rhywun wedi stwffio mhenglog i efo gwlan cotwm a galwyn o ddwr, ond efallai mai diffyg cwsg oedd yn gyfrifol am hynny. A phan aethon ni fyny i dop un o’r bryniau a brysio i fyny ac i lawr yr elltydd yn ffilmio’n fan’no, doedd yr ysgyfaint ddim yn hapus a deud y lleia.

Rhan mawr o’r dathliadau ydi mynd rownd a rownd y ddinas mewn chivas, sef math o fws sy’n debycach i lori, efo band pres yn eistedd ar y to a phobl oddi mewn ac ar gefn y lori yn canu a gweiddi a chwibanu, tra’n rhannu poteli o ddiod feddwol. Aguardiente oedd un a canelazo oedd y llall, a ges i flasu’r ddau. Roedd yr agua’n ddigon tebyg i fodca, a’r canelazo ddim byd tebyg i unrhyw beth flasais i o’r blaen. Mae’n llawn sinamon a siwgr (ac alcohol wrth gwrs) ond doedd Ricardo ddim yn meddwl llawer o’r stwff oedd ar ein chiva ni am ei fod o’n rhy oer, mae o i fod yn gynnes fel paned o goffi.

Ches i’m gormod ohono fo wir yr, a hynny am ddau reswm – roedd gen i waith i’w wneud a geiriau i’w cofio, a dydi alcohol ac altitude ddim yn bartneriaid da iawn. Ond dydi bod mewn chiva ddim yn syniad da iawn pan dach chi’n sobor, ac ar ol yr ugain munud cynta do’n i ddim yn gweld yt atyniad o gwbl.
Dychmygwch llond loris o bobl meddw yn mynd rownd a rownd rhywle fel Caerdydd neu Fangor, yn gweiddi pethau fel ‘Viva Bangor’ i gyfeiliant trympedau. Pawb at y peth y bo dicini.

Gawson ni ginio bendigedig mewn ty bwyta o’r enw La Ronda wedyn (amseru gwych achos mi ddechreuodd dywallt y glaw a tharannu a bob dim – ond roedd y chivas yn dal i fynd...). A’r cwrs cyntaf oedd Ceviche, math o gawl oer sy’n cael ei wneud efo cimychiaid, nionod, tomatos, chillis, coriander ac ati, wedyn dach chi’n malu a thaenu chydig o greision banana, popcorn ac india corn a garlleg wedi eu rhostio drosto fo. Swnio’n od dwi’n gwbod, ond ew, roedd o’n dda! Mi ddoth ‘na fand pres arall i berfformio fan’no tra roedden ni’n bwyta, a dyma bron pawb yn codi ar eu traed i ddawnsio. Mae arna i ofn na chododd y garfan Gymreig. Roedden ni isio bwyd ac roedden ni wedi blino, reit! Ges i ddwy fefusen mewn siocled i bwdin (bwyd sy’n gwneud i chi deimlo’n wirioneddol ddrwg os dach chi’n dallt be sgen i), ac wedyn roedd gen i ddigon o egni i gymryd ugeiniau o luniau o’r haul yn machlud dros Quito o ben bryn El Panecillo – y dorth fechan. Mae ‘na gerflun anferthol o La Virgen de Quito sy’n debyg i angel ar dop y bryn, a llwyth o oleuadau Nadoligaidd – ac ambell gi blin a pheryg yr olwg. Maen nhw’n licio chwyrnu arnoch chi os dach chi’n mynd yn rhy agos at eu coed ‘nhw’. Ac er mod i wedi cael fy mhigiad rabies, es i ddim yn rhy agos.

Dwi wedi blino gormod i sgwennu mwy rwan. Buenas noches!


Dydd Mercher Rhagfyr 6ed.

Wedi methu gyrru hwnna neithiwr oherwydd nam technegol, a dwi’m yn gwbod os fydd modd gyrru dim o’r gwesty arall heno chwaith, ond dwi’n dal i sgriblan rhag ofn. Gwesty neis oedd yr Hilton hefyd, ddim yn rhy grand, ond ges i sioc pan dries i chwythu nhrwyn yn y ty bach – mae ‘na arogl rhosod ar y papur ty bach.

Ro’n i’n gorfod codi am 4.30 bore ma am ein bod ni isio ffilmio’r wawr yn codi dros Quito. Ac fel arfer, welson ni fawr o wawr oherwydd cymylau, ond duwcs, roedd o reit neis ‘run fath. A myn coblyn, roedd ‘na bobl yn dal i bartio ers neithiwr, a swn y salsa yn waldio ar draws y dyffryn a hithau’n 5.30 y bore. Mae’n siwr bod ‘na gymdogion wedi laru, ond dyna fo, dim ond unwaith y flwyddyn maen nhw’n dathlu ail-godi Quito. Ges inna neffro am 2.30 gan goblyn o swn y tu allan i’r gwesty – a chan ddynes gnociodd ar fy nrws i’n chwilio am ryw Miss Armstrong. Roedd fy ymateb i’n eitha cryf a bod yn onest.

Roedd’na rai wedi gor-bartio o ddifri. Mi basion ni foi oedd yn cysgu ar ganol y palmant am chwech y bore, a ryw foi arall oedd yn eistedd a’i ben yn ei ddwylo a llyn o chwd oren wrth ei draed. Hyfryd.

Ar ol brecwast, dyma drio gweithio allan pam fod batris y camera heb ail-jarjio yn llofft Haydn neithiwr: mae’r teclyn charjio batris wedi malu. Rydan ni’n gweithio ar y sefyllfa. Mae ganddon ni ddigon o fatris ar gyfer y deuddydd nesa ond mi fydd RAID cael ateb i’r sefyllfa cyn cychwyn am y Galapagos achos go brin fod ‘na siop drydan yn fan’no. Ac yn anffodus, gan ei bod hi’n wyl, doedd ‘na run siop ar agor yn Quito heddiw chwaith. Hei di ho.

Ymlaen a ni am y cyhydedd a rhywle o’r enw y Mitad del Mundo (canol y byd), lle mae ‘na gaffis a siopau ac amgueddfa ac ati wedi eu codi ar hyd llinell y cyhydedd. Ches i fawr o amser i sbio’n iawn ar gynnwys yr amgueddfa, dim ond amser i fynd i dop y twr yn y lifft oedd gen i, am fod Haydn isio ngweld i ar y top. Ond roedd o’n edrych reit ddifyr, yn dangos gwisgoedd o thraddodiadau gwahanol lwythi cynhenid yr ardal. O wel. Es la vida.

Roedd y man bachu twristiaid arall sydd ar y llinell yn hynod o ddifyr, sef Museo Solar Inti Nan. Mi gawson ni ddigon o amser fan’no, ac mi ges i fodd i fyw yno am fod y lle’n llawn gemau bach difyr sydd yn profi gwahanol bethau am y cyhydedd. Efallai mai ‘con’ llwyr ydyn nhw cofiwch, ond dim bwys, roedd o’n hwyl. e.e: sinc sy’n sefyll yn unon ar y llinell – ac mae’r dwr yn mynd yn syth i lawr y twll, nid yn troi o gwbl. Ond mae’n rhaid i chi dynnu’r plwg yn araf iawn er mwyn i hynny ddigwydd...ond fy ffefryn i oedd yr wy. Roeddech chi’n gorfod trio gosod wy ar ben hoelen. Nac’di, dydi o ddim yn hawdd, ac roedd y boi’n trio deud bod y ffaith bod yr wy yn union ar y cyhydedd yn golygu bod disgyrchiant a’r magned dan ein traed a’r ffaith bod yr un faint o bwysedd ar bob ochr i’r llinell (dal efo fi?) yn golygu mai dim ond ar y cyhydedd mae modd gwneud hyn. Triwch chi o adre i weld ynde. Pun bynnag, roedd gwneud i’r bali wy aros ar yr hoelen yn gythgiam o anodd – ac er fod Jonathan yn gweiddi ‘Na, paid practiso!’ mi wnes i fynnu yndo – a llwyddo i wneud i’r wy sefyll! Wei hei! Ond o’n i’n gallu ailadrodd y gamp ar gamera? Nago’n debyg iawn. Ond roedd bos y lle wedi ngweld i’n llwyddo felly mi ges i ddiploma bychan i gofnodi fy nghamp, chwarae teg iddo fo. Wele’r llun sy’n profi’r ffaith! Mi fu Jonathan yn trio am oes wedyn. A nagoes, does ganddo fo run diploma. Ha!

Mi welson ni dipyn mwy o bethau difyr yno, ond bydd raid i chi wylio’r gyfres (neu ddarllen y llyfr o’r gyfres os na fydd lle i’r eitem) er mwyn cael gwybod be oedd rheiny.

Ar y ffordd i Otavalo drwy’r mynyddoedd a’r glaw rwan. Hasta la vista!


Dydd Iau.

Rydan ni’n aros mewn hacienda rwan, sef hen blasdy oedd yn arfer bod yn fferm fawr, a bobol bach dyma be ydi hacienda. Mae o’n fendigedig, y math o le rydach chi wedi ei weld mewn ffilmiau am Mecsico ryw ganrif neu ddwy yn ol, yn hen ac yn bren i gyd a llefydd tan yr un maint a fy stafell fyw i adre yn Rhydymain. Byddai Simon Bolivar, y boi driodd gael annibynniaeth i wledydd De America nol yn 18? Yn aros yma ar ei ffordd i Bolivia. A stafell rhif 1 fyddai o’n aros ynddi, clamp o stafell fawr hyfryd. A pwy gafodd aros yn fan’no? Ia, Jonathan. Ond dwi’m yn cwyno, mae stafell 5 yn fawr a moethus hefyd, efo lle tan a bob dim. A mae ‘na dan ynddo rwan, achos dydi hi ddim yn gynnes yma. Does na’m ffasiwn beth a gwres canolog mewn adeilad fel hwn, a credwchneu beidio, dydi hi ddim yn gynnes yn y rhan yma o Ecuador yr adeg yma o’r flwyddyn. Mi fuodd hi’n tresio bwrw drwy’r nos neithiwr, ac mae hi wrthi eto heno. Mae’r boreau’n tueddu i fod yn braf yma, ond erbyn y pnawn, mae’r cymylau duon yn dod dros yr Andes a dach chi’n hynod falch eich bod chi wedi stwffio eich cot law i waelod eich bag. Mae Haydn wedi dod a vests thermal efo fo ac mae o’n hynod smyg am y peth.

Mae bywyd fymryn yn anodd o hyd oherwydd batris y camera. Mae Ricardo a Hugo y gyrrwr wedi mynd yn ol i Quito ers pnawn ‘ma i drio dod o hyd i drydanwr/camera/ unrhywbeth achos dim ond hanner batri sydd ganddon ni ar ol. A dan ni’m wedi ffilmio marchand Otavalo eto. Wel, ddim llawer.

Erbyn i ni gyrraedd yno pnawn ma roedd pawb yn pacio fyny – ac yn cario’r llwythi rhyfedda ar eu cefnau. Ond mi lwyddodd Jonathan a Haydn i gael eu conio er hynny. Roedden nhw isio hetiau, a dwi wedi addo prynu un i Twm Morys hefyd, ond bob tro ro’n i’n dod o hyd i un ro’n i’n meddwl fyddai’n plesio Twm, roedd Haydn yn penderfynu mai hwnnw roedd o ei isio! Dwi wedi penderfynu gadael un Twm tan fory achos dwi’n yn hollol siwr os o’n i wedi dewis yr un iawn. A dwi’m yn gwbod pa mor fawr ydi ei ben o chwaith. Ond dwi’m yn gallu gyrru tecst iddo fo i ofyn achos dydi’n ffonau symudol ni ddim yn gweithio yma. A wnes i’m meddwl gyrru ebost mewn pryd. Wel, mi fydd raid iddo fo dderbyn be mae o’n ei gael a dyna fo.

Mi fuon ni’n gwylio gwehyddion wrth eu gwaith yng ngweithdy ‘El Condor’ ar ol cinio, a iechyd, mae ‘na waith yn mynd i mewn i’r gwahanol fatiau, bagiau ac ati. Mae’n cymryd 4 diwrnod i Jose y gwr wneud un mat gweddol fychan, ond gweithio yn yr hen ffordd draddodiaol mae o, yn eistedd ar ei ben ol ar y llawr. Mae’r rhan fwya o bobl wedi symud ymlaen at beiriannau mawr crand rwan, ond dydyn nhw’m cystal a’r stwff sy’n caelei wneud a llaw. Felly mi brynais i ddarn oedd wedi bod yn galw arna i ers meitin: un o wahanol fathau o goch yn dangos tri shaman. Mi ddylai fod jest y peth ar gyfer y llofft sbar. Ac mi ges i domen o sgarffiau a bagiau bychain hefyd – ddylai fod yn anrhegion Nadolig neis iawn i ambell nith neu fam. O, a gyda llaw, roedd Mam wrth ei bodd efo’r bag ceilliau byffalo o Brasil.