AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

29.5.07

Pysgota ar Lyn Fictoria

Ia, dwi'n gwybod mai yn Kenya mae hyn, ond byddwch yn ddiolchgar bod 'na luniau yma o gwbl! Dwi'n dechrau drysu...

Rhywun yn cofio llong y Nyanza ar Lyn Fictoria?

Roedd 'na rywbeth yn deud wrthan ni ei bod hi'n mynd i fwrw glaw...

Wnes i ganwio i lawr y rapids yma? Wnes i ddiawl!

Canwio ar yr afon Nil

Yr uchafbwynt i mi yn Uganda hyd yma ydi canwio ar yr afon Nîl yn ardal Jinja. Ia, fan’ma mae hi’n dechrau, ac yn nadreddu ei ffordd drwy Uganda, Sudan a’r Aifft am 6650km cyn cyrraedd Môr y Canoldir (afon hiraf y byd gyda llaw, os ydach chi’n un am gwisiau tafarn). Ond nes i ddim canwio’n bell iawn – anodd efo camera. Do, dwi wedi canwio o’r blaen, ond dwi’m wedi gwneud stwff dwr gwyn ers deng mlynedd felly ro’n i’n eitha nerfus. Ond roedd fy hyfforddwr, Wil Clark (o Hull yn wreiddiol) yn athro da iawn a chyn pen dim ro’n i’n ‘fferi gleidio’ a ‘thorri mewn ac allan’ o ddwr gwyn heb broblem yn y byd. Iawn, doedden nhw ddim yn rapids mawr iawn, ond mae’r rapids ar y Nîl yn anferthol, y lle gorau yn byd i rafftio meddan nhw, ond mae mynd lawr mewn caiac bychan yn fater cwbl wahanol! Ac mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld os wnes i lwyddo i rowlio.



Doedd Guy erioed wedi canwio yn ei fyw ac roedd o ar dân isio rhoi cynnig arni. A sbiwch ‘cool’ mae o’n edrych yn ei gêr canwio.
A sbiwch y golwg oedd arna i. Roedd ‘na luniau gwaeth o lawer, ond dwi wedi eu dileu nhw’n o handi. Dydi’r siacedi achub ‘na ddim wedi eu gwneud ar gyfer merched efo bronnau golew a dwi’n gwingo o feddwl sut olwg fydd arna i ar y rhaglen deledu. Mi nath Catrin adael i mi wybod bod angen stwffio fy hun ‘yn ôl i mewn’, chwrae teg iddi. O wel. O leia do’n i’m yn disgyn i mewn dragwyddol – ddim fel Guy druan!



Do’n i ddim wedi sylweddoli bod Uganda’n gymaint o fecca i ganwyr a rafftwyr, rhaid cyfadde, ond mae ‘na ‘sîn’ bacpacio cryf yma. Mae Jinja yn ‘party town’ go iawn ar gyfer pobl ifanc o bedwar ban byd. Ond merched welais i yno fwya. Criwiau ohonyn nhw sy’n dod ar yr ‘Overland Trucks’ sy’n cael eu hysbysebu yn ein papurau Sul. Pam merched, dwi’m yn siwr. Ai am ei bod hi’n fwy diogel i ferched deithio mewn criwiau ar wyliau wedi eu trefnu fel’na? Neu ydi merched wedi dechrau teithio mwy na dynion mwya sydyn? Neu ai dynion Uganda sy’n eu denu? Beryg bod y bois sy’n eu harwain mewn canws, rafftiau ac ar feic yn cael gwledd...

Iawn, felly boed yn ferch neu fachgen – neu’n rywun h^yn, os dach chi ffansio rafftio i lawr afon gradd 5, am 30km o’r afon Nîl, gan fynd drwy 12 rapid mawr go iawn, ar drip sy’n para drwy’r dydd, gyda bwyd a diod ar y ffordd, mae’n costio rhyw $95 am y diwrnod. Mae canwio’n costio rhywbeth tebyg am ddiwrnod. Ebost: rafting@starcom.co.ug
Ac mi allwch chi fwcio’r canwio a lle i aros ar yr un cyfeiriad.

Mwy o blant bach del

Mwy o Uganda

Roedden ni wedi cyfarfod rhai o griw Overland Trucks (twristiaid o bob man sy’n hapus i’w ryffio hi) pan aethon ni i weld prosiect ‘Soft Power Education’, sef elusen sy’n adeiladu a phaentio ysgolion lleol. Mae rhai o’r Overlanders yn rhoi diwrnod neu ddau i helpu, eraill yn aros am bythefnos neu fwy, ond mae pawb yn cyfrannu arian. Maen nhw’n paentio’r ysgolion yn liwiau llachar hyfryd – dewis yr ysgolion eu hunain, ac yna’n paentio visual aids ar y waliau – sy’n cael eu gorchuddio â defnydd yn ystod arholiadau!

Roedd ‘na blant yn y dosbarth a hithau’n ddydd Sadwrn, ond dydi hynny ddim yn arferol. Mae’r Frenhines Elizabeth i fod i ddod i Uganda eleni felly maen nhw wedi ail drefnu arholiadau’r haf i gyd – sy’n golygu bod yn rhaid i’r rhain fynd drwy’r cwricwlwm yn llawer cynt nag arfer. Ydi Liz yn sylweddoli faint o drafferth mae’n ei greu?! Mae hanner y tagfeydd traffig rydan ni wedi bod ynddyn nhw wedi eu creu oherwydd eu bod nhw’n ail osod y ffyrdd y bydd hi’n teithio ar eu hyd nhw! Ond dwi bron yn siwr i mi ddarllen yn y papurau adre nad ydi’r daith yn bendant yn mynd i ddigwydd oherwydd pryderon am ddiogelwch ac ati. Tase hi’n ei ohirio, mi fyddai pobl a llywodraeth Uganda braidd yn flin, dybiwn i...

Mi fues i’n trafod cwmniau ‘Blwyddyn Gap’ efo Shaz, Saesnes sy’n cyd-redeg y prosiect. Mae ‘na rai ohonyn nhw’n codi rhyw dair mil o bunnoedd ar bobl ifanc (wel, eu rhieni) er mwyn iddyn nhw gael ‘gwirfoddoli’ am dri mis bach. Be fedar y person 18 oed arferol ei ddysgu i bobl sydd ddim ond ychydig fisoedd yn iau na nhw? Mewn tri mis?! Ac mae ‘na lot o’r cwmniau ‘ma’n dan din iawn ac yn gwneud yr elw rhyfedda ar draul rheini sydd ddim isio i Jessica bach fod i ffwrdd yn rhy hir. Maen nhw’n defnyddio Soft Power yn aml, ond ddim yn fodlon rhannu’r elw, er bod y bobl ifanc yn aros efo Soft Power am 3 wythnos ar y tro! Byddwch yn ofalus rieni...mi fyddai’n haws ac yn llawer iawn rhatach i chi jest cysylltu efo cwmniau fel Soft Power yn uniongyrchol. Ac mi fydden nhw’n gneud llawer mwy o les i’r trydydd byd a nhw eu hunain tasen nhw’n gwneud VSO am ddwy flynedd wedi iddyn nhw ddysgu sgil go iawn! A dyna fy mhregeth drosodd.

Sbiwch del oedd y plantos o gwmpas yr ysgol. Mae gen i tua 50 o luniau ohonyn nhw – methu peidio.


O ia, methu peidio a sylwi ar y poster yma yn stafell y prifathro. Gneud i fechgyn swnio fel angenfilod tydi? Ond mae Wil yn fy sicrhau bod dynion yr Affrig yn ei chael hi'n anodd i reoli eu chwantau. Yhy...

Uganda - y ffin

Rydan ni yn Uganda ers dyddiau rwan, gwlad sy’n fwy enwog am Idi Amin na dim arall mae’n siwr. Fis Ionawr 1971 mi gipiodd o’r awennau tra roedd y prif weinidog ar y pryd allan o’r wlad, a dyna ddechrau wyth mlynedd o uffern: mi gafodd 300,000 o bobl eu lladd, yn aml mewn ffyrdd brwnt iawn, gyda gordd neu bolion haearn, neu drwy gael eu harteithio i farwolaeth mewn carchardai a gorsafoedd heddlu ar hyd a lled y wlad. Os ydach chi wedi gweld y ffilm ‘The Last King of Scotland’ mi fydd yr hanes yn frres yn eich meddyliau. Mi wariodd o bres y wlad fel ffwl, rhoi 90 diwrnod i’r bobl Asiaidd oedd yn y wlad i adael gyda dim byd ond y dillad ar eu cefnau – a gwario’r biliwn o ddoleri y bu’n rhaid i’r rheiny ei adael ar ôl. Wedyn mi giciodd o’r Prydeinwyr allan a chymryd y busnesau te ac ati oddi arnyn nhwythau hefyd – a gwario’r cwbl lot eto ar deganau i’r ‘hogia’. Yn y cyfamser, roedd economi’r wlad yn deilchion, ffatrioedd ac ysbytai wedi cau, y ffyrdd yn rhacs, y dinasoedd wedi troi’n domeni sbwriel, a’r cyfoeth o fywyd gwyllt wedi cael ei chwalu’n ddim gan filwyr efo machine guns am y cig, y croen a’r eifori.

Wedi dechrau rhyfel hurt yn erbyn Tanzania - a cholli, mi ddihangodd Idi Amin i Libya at Gaddafi, ond mi gafodd ei daflu allan gan hwnnw’n y diwedd a gorfod dianc i Saudi Arabia, ac mi fu farw yn fan’no yn 2003.

Mae pethau wedi gwella’n arw yma ers hynny ac mae’r diwydiant ymwelwyr yn ôl ar ei draed. Ond roedd hi’n anodd credu hynny wrth i ni groesi’r ffin. Mi fuon ni’n aros i gael y stwff ffilmio drwadd am BUMP AWR! Roedd hi’n tywallt y glaw, pob man yn fwd, ceir a lorris mawr petrol ar draws ei gilydd ym mhob man, plant wirioneddol dlawd a charpiog yr olwg yn ein poenydio am bres/bisgedi/unrhyw beth, pobl yn gweiddi arna i am fynd y ffordd anghywir i’r ty bach, yna’n gweiddi arna i eto ‘Don’t you know you must pay?!’ cyn i mi gyrraedd yn ddigon agos i weld y blwmin arwydd – a doedd gen i’m pres Ugandan beth bynnag! Doedd ‘na neb yn gweiddi yn Kenya...
Mi wnes i drio cymryd lluniau o hyn i gyd ond mi ddoth ‘na ddynes ar fy ôl i a gwneud i mi ddileu’r cwbl. Ond mi gymres i hwn nes mlaen – pan oedd pethau wedi tawelu a’r glaw wedi peidio – a ninna’n DAL YNO!

A dyma foi bach rois i weddill ein bisgedi iddo fo, y creadur.

Aeth Wil, Catrin a fi i ddisgwyl mewn caffi tra roedd Guy a Geoffrey ein gyrrwr/fficsar Ugandan yn trio delio efo’r biwrocratiaid. Roedd y blinder yn dechrau troi’n hysteria dros ein paneidiau o ‘chai masala’....

Roedd ‘na dai bach yn fanno ond doedden ni’m yn cael mynd i’r ‘Ladies Room’, rhaid oedd mynd rownd y cefn i’r lle dynion. Iawn, mi wnes i ufuddhau’n dawel. Twll yn y llawr mewn cwt bach tywyll a drws oedd ddim yn cau’n iawn oedd yn fan’no. Iawn, dwi ‘di hen arfer ac wedi bod mewn tai bach llawer gwaeth. Ond pan driodd Catrin fynd yno wedyn, roedd ‘na foi yn chwydu ei gyts allan yno. Awr yn ddiweddarach, mi driodd hi eto – ond roedd hi’n ôl o fewn eiliadau. Clamp o ddynes fawr oedd yno tro ‘ma, gyda’r drws yn llydan agored a hithau’n gwneud y synau rhyfedda. Dyma wyneb Catrin pan ddaeth hi’n ôl.



Yn y diwedd, mi benderfynodd Guy y dylen ni gyd adael mewn tacsi a gadael y gêr efo Geoffrey iddo fo gael sortio popeth allan, gan mai dyna oedd ei job o. A dyna’r daith waetha eto: dros 3 awr o daith gyda 4 ohonon ni a’r gyrrwr a’n bagiau i gyd mewn car oedd mor isel, bob tro roedd o’n mynd trwy dwll roedden ni’n tolcio’n tinau, ac roedd pob crafiad o’r exhaust yn crafu’n coccyx ninnau. Ac roedd y ffordd yn llawn tyllau, credwch fi. Roedd Catrin, Wil a fi’n sownd yn ein gilydd a’n bagiau yn y cefn, Guy yn griddfan mewn poen am fod na’m lle i’w goesau ynta chwaith efo dau fag yn y blaen. A doedd Catrin byth wedi bod i’r ty bach!

Roedd cyrraedd y gwesty yn ryddhad a deud y lleia, a’r enw - The Haven – mor addas. Ac ew, dyna le smart, reit ar lan yr afon Nîl – sbiwch ar yr olygfa allan o ffenest fy chalet bychan i. (Sori -dim llun am y tro!) Ben bore oedd hyn, a’r niwl yn corddi uwchben rhaeadr y ‘Dead Dutchman’. Rhaeadr beryglus iawn, fel y sylweddolodd y gwr o’r Iseldiroedd.

Almaenwr sydd wedi adeiladu’r ‘Haven’ ers tua blwyddyn a hanner. Eco-lodge ydi o, mae touau’r cytiau bychain crwn traddodiadol fymryn bach yn wahanol am fod ‘na bant yno i ddal dwr glaw a hwnnw sy’n caelei ddefnyddio i olchi a molchi. Mae’r lle’n solar panels i gyd hefyd – i gynhesu’r dwr. Ond mae’r pwer yn brin. Er dirfawr siom a sioc i ni gyd, dim ond rhwng 6.30 a tua 10.00 mae ‘na drydan – bali niwsans pan mae ganddoch chi fatris a laptops a chamerau i’w charjio! Felly rydan ni wedi bod yn charjio batris y camera’n y car wrth fynd. Ia, drwy’r peth tanio sigarets.

Ond...





Ond a ninnau wedi codi am chwech, roedd hi’n oer was bach, a doedd Guy ddim yn hapus. Ac roedden ni’n blastar o lwch o’r car o’n blaenau ni. Na, tydi o ddim yn fêl i gyd!

Ro’n i’n meddwl ar un adeg ein bod ni wedi mynd yn rhy bell efo’r rheino gwyn yma. Roedd Guy isio i’n landrofyr ni fod yr ochr draw, fel bod y rheino rhwng y camera a ni – sef fi a Duke. Ond roedd o wedi bod yn cysgu nes i ni gyrraedd, a phan yrrodd Duke a finnau heibio iddo fo, mi gododd ar ei draed a dechrau dod tuag aton ni...o dîar. Ond mi stopiodd yn fan’na diolch byth. Gyda llaw, dydyn nhw ddim yn wyn, fwy nag ydi’r rheinos du yn ddu. Llwyd ydi’r ddau fath. Mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i gael gwybod be ydi’r gwahaniaeth, onibai eich bod chi’n swots ac yn mynnu gwneud eich ymchwil eich hunain yn y cyfamser wrth gwrs. SORI - LLUN RHEINO WEDI MYND I'R LLE ANGHYWIR - OND TYFF - RHY NACYRD I'W BLWMIN SYMUD RWAN!

Dyma oedd fy nghyfle ola i allu deud mod i wedi gweld y ‘pump mawr’- dim ond llew a llewpart oedd ar ôl. Ac unwaith eto, mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld os ydw i’n gallu prynu’r crys T ‘The BIg Five’ gyda balchder. Ond dyma i chi lun sy’n rhoi rhyw fath o syniad i chi. Oedden, roedden ni’n agos iawn – at ddwy lewes a 4 neu 5 o rai bach – a Catrin sbotiodd nhw!

Ac ar y ffordd i’r gwesty neithiwr, roedd yr haul yn machlud...mae unrhyw ffwl yn gallu cymryd llun da o fachlud haul yn Kenya, mae o jest mor anhygoel.

Roedd ‘na yrrwr newydd wedi bod efo ni ers deuddydd, sef Milton, un o lwyth y Masai. Dach chi’n gallu eu nabod nhw oherwydd eu bod nhw mor dal a thenau. Ond mae Milton wedi magu bol ers gadael yr hen ffordd o fyw a setlo yn Nairobi efo gwraig a’i fusnes ei hun. Roedd o’n gymeriad a hanner, ac mi wnes i gymryd ato fo’n arw. Ro’n i’n drist iawn o’i weld o’n troi’n ôl am Nairobi heddiw. Ond tristach fyth oedd ei glywed o’n deud ei fod o’n eitha sicr na fydd unrhyw Masai yn dal i fyw yn yr hen ffordd draddodiadol, nomadig ymhen deng mlynedd. Maen nhw eisoes yn gwisgo dillad gorllewinol wrth grwydro’r wlad efo’u gwartheg, ac mae ffiniau a ffensus yn golygu nad ydyn nhw’n gallu crwydro fel ers talwm. Fydd ganddyn nhw ddim dewis ond setlo i lawr fel pawb arall – a dod a’r dillad traddodiadol allan i ddawnsio ar gyfer twristiaid, mwn. Dwi’n gweld mwy a mwy o hyn wrth deithio’r byd ‘ma ac mae’n fy nhristau’n arw o feddwl y bydd PAWB yn y byd toc yn gwisgo’r un fath (fel ni), yn byw yn yr un ffordd, yn bwyta’r un pethau, yn gwylio’r un rhaglenni teledu ac i gyd yn siarad Saesneg, ac mai dim ond sioe ar gyfer twristiaid fydd yr hen draddodiadau. Efallai bod bywyd gwyllt dan warchae, ond hyd y gwela i, mae diwylliant gwahanol bobloedd yn beryg o fynd yn fwy prin nag anifeiliaid toc. Mae’r World Wildlife Fund ac ati wedi gwneud gwyrthiau chwarae teg, ond be am World People Fund?

Mwy o Kenya




Sori – roeddech chi fod i gael hwn ddydd Gwener dwytha!
Cythraul y We...

Rydan ni bron a chyrraedd y ffin rhwng Kenya ac Uganda, ac os oedd y We yn araf yn Kenya, does wybod sut siap fydd arno yn Uganda! Rydan ni wedi cyrraedd Kericho, lle mae hi’n bwrw glaw bob pnawn ac yn oer iawn yn y boreau – ac rydan ni fod yn y car am 6.45 bore fory...yyyy. Ffilmio’r diwydiant te fyddwn ni ac mi gewch chi’r hanes hwnnw nes mlaen.

Ond lluniau Parc Llyn Nakuru sydd gen i chi fan’ma. Dydi o ddim yn barc mawr iawn, ond mae ‘na gyfoeth o fywyd gwyllt yma. A fan hyn mae’r flamingos pinc sy’n gwneud i’r llyn edrych fel tase rhywun wedi tywallt eisin pinc ar hyd yr ochrau. Reit syfrdanol tydi? Ac roedd y criw ‘ma’n mynnu mod i’n mynd reit atyn nhw i drio eu cael nhw i hedfan – argol, ro’n i’n teimlo’n euog. Ro’n i’n meddwl nad oedden ni fod i amharu ar y bywyd gwyllt!

A dwi wedi cynnwys y llun yma o Wil a Catrin jest am ei fod o’n glincar o lun. Os allwch chi feddwl am gapsiwn iddo fo, gadewch i mi wybod, ond does gen i ddim gwobr i’w roi. Sticer ‘Ffermio’ i’r car efallai? Does ganddon ni dim sticeri Ar y Lein...

23.5.07

Y lloches plant


Tydi o’n annwyl? Roedd o a’i gyfeillion yn gyfrifol am un o’r profiadau mwya emosiynol i mi eu cael yn dilyn y llinellau ‘ma. Dwi’m wedi teimlo fel’na ers amgueddfa Chornobyl yn yt Wcrain, lle fethes i wneud darn i gamera, ro’n i wedi ypsetio gymaint.

Yn Lloches plant Naivasha roedden ni, casgliad o adeiladau sy’n ddormitoris a stafelloedd ysgol i fechgyn rhwng 5 ac 17 oed. Gan fod AIDS yn broblem mor fawr yma, roedd y rhan fwya wedi colli eu rhieni i’r afiechyd creulon hwnnw, eraill wedi cael eu taflu ar y stryd am eu bod nhw unai’n anystywallt neu eu rhieni methu fforddio eu cadw. Cyn dod i’r lloches, cysgu ar y stryd mewn sachau fydden nhw ac yn byw ar sbarion o finiau tai bwyta.

Ond rwan, mae ganddyn nhw welyau go iawn i gysgu ynddyn nhw, gwisg ysgol mae ganddyn nhw feddwl y byd ohonyn nhw, sgidiau go iawn, a llond eu boliau o fwyd. Maen nhw’n glanhau’r lle eu hunain, yn dysgu coginio eu hunain, yn garddio a gofalu am y ddwy fuwch, yr ieir a’r gwyddau.


Mi fuon ni yno drwy’r pnawn, yn eu gweld yn dysgu, chwarae, gwneud gwaith coed, bob dim, ac ar y diwedd, mi gawson ni gyngerdd ganddyn nhw – caneuon ac acrobatics. A myn coblyn, mwya sydyn, dyma fi’n dechrau crio. Ro’n i’n trio gwneud darn i gamera ac roedd y dagrau’n tywallt i lawr fy wyneb i. Dwi’m yn siwr ai’r canu oedd o, neu gweld eu wynebau nhw, mor falch o’r hyn roedden nhw’n gallu ei wneud. Ond ro’n i newydd fod yn siarad efo un o’r hogiau 17 oed. Mi fydd o’n gorfod gadael pan fydd o’n 18 oed, a thrio gwneud bywyd iddo fo’i hun tu allan. ‘Oes gen ti ofn?’ gofynais. Oes, meddai gan sbio ar ei sgidiau. Efallai mai dyna nath o.

Mi fyddai’r lloches yn falch o unrhyw gymorth ariannol neu roddion o unrhyw fath, felly dyma’r wefan: ncshelter.org, yr ebost: nvskid@kenyaweb.com, a’r cyfeiriad ydi Naivasha Children Shelter, PO BOx 1187, Naivasha, 20117, Kenya.

A nagoes, does na’m merched yno – dydi’r rheiny ddim yn cael eu taflu ar y stryd i’r un graddau – mae merched yn golygu llafur am ddim...



A ges i a Catrin gadwen yr un yn anrheg ganddyn nhw. Ydyn, mae fy llygaid yn dal yn goch.

Naivasha


Be oedd hynna am fysus? Eich bod chi’n aros am oes am un, ac yna dwsinau’n cyrraedd yr un pryd? Wel mae hi’r un fath efo blog Ar y Lein, ylwch.

Roedd ddoe yn ddiwrnod llawn iawn, iawn. Dwi yn Naivasha bellach (ers dwy noson a deud y gwir – cyfle i olchi dillad o’r diwedd, diolch i’r nefoedd, roedd hi’n dechrau mynd yn brin arna i), ac yn y bore, mi fuon ni yn fferm flodau Olij Rozen. Dim ond un fferm fechan ynghanol ugeiniau o rai mawr ydi fan’no, mae ‘na dros 500,000 o bobl yn dibynnu ar y diwydiant blodau yn yr ardal yma. Dach chi’n gwybod y blodau hyfryd dach chi’n eu gweld yn Tescos ac M&S ac ati? Wel, beryg mai o Kenya maen nhw wedi dod – mae ‘na 13 awyren 747 yn llawn blodau yn gadael Nairobi bob wythnos. Mae’r blodau gafodd eu pigo gan y merched yma yn cyrraedd ocsiynau Ewrop (yr Iseldiroedd gan amla) yr un diwrnod. Ond fel arfer, y ‘dynion yn y canol’ sy’n gwneud y pres...

Wedi stopio yn ngwesty La Belle am ginio (oedd yn llawn ex-pats, mae ‘na rai cannoedd o gwmpas Llyn Naivasha), mi redodd criw o ddynion tuag aton ni, isio i ni brynu cardiau wnaethpwyd â llaw, a phethau allan o soapstone ac ati. A diaw, roedd ‘na rai siap wyau yno, yn dangos map y byd efo’r cyhydedd yn amlwg arnyn nhw. Jest y peth i ni, meddan ni, ond myn coblyn, roedd Prydain i gyd dan yr enw England! Sori bois, medda fi, alla i ddim prynu hwnna, dydi Cymru ddim arno fo.


A chyn pen dim roedd un ohonyn nhw wedi rhedeg i chwilio am nodwydd a dod yn ei ôl efo’r wy yma...ia, efo Wales ymhell i fyny ym môr y Gogledd. Mi fu’n rhaid i ni ei brynu wedyn. Mi gafodd Catrin un hefyd – efo Cymru yn Denmarc.

22.5.07

Treetops


Dyma’r enwog Treetops. Ro’n i’n gweld y lle’n debyg i rywle fyddai’r Addams Family yn byw (o’r tu allan beth bynnag) ond roed hi dipyn gwell tu mewn. Elfennol iawn cofiwch, ond rydan ni gyd wedi dod i nabod ein gilydd yn dda iawn ar ôl rhannu’r un ty bach a chawod oer (nid ar yr un pryd).



Dyma’r balconi



A dyma’r olygfa



Mi welson ni lwyth o anifeiliaid yn llymeitian ac ymladd wrth y pwll dwr ond dydi fy zoom i ddim yn dda iawn. Felly dim pwynt dangos y lluniau hynny i chi. Bydd raid i chi aros tan y rhaglen deledu – zoom llawer iawn gwell gan Guy!

Sweetwaters

Y lle gorau i aros o ddigon oedd Sweetwaters – a’r drytaf mae’n siwr. Dyma du mewn fy mhabell...

A dyma rai o’r anifeiliad welson ni...




Ydyn, mae rheinos duon yn beryglus iawn fel arfer, ond un dof ydi hwn – wedi colli ei fam yn 6 mis oed, a methu gneud efo rheinos eraill ers cael ei fagu gan bobl. Oedd, roedd gallu cyffwrdd anifail fel’na yn brofiad....

Llwyth y Kikyu



Gawson ni arddangosfa o draddodiadau a dawnsfeydd llwyth y Kikuyu jest o dan lawnt gwesty crand Outspan. Na, chydig iawn sy’n dal i fyw a gwisgo fel’ma.
Ond maen nhw’n dal i enwaedu – a dyma ddawns enwaedu (sylwer ar yr hylif cochaidd ar y llawr). Mae’n digwydd i fechgyn pan maen nhw tua 18-19 (er mwyn iddyn nhw deimlo’r poen o ddifri), ac er ei fod o’n anghyfreithlon i’w wneud o i ferched, mae tua 10% yn dal i’w wneud o am fod merched eraill yn tynnu arnyn nhw nad ydyn nhw wedi aeddfedu eto os nad ydyn nhw wedi cael eu henwaedu.

Mwy o'r criw!


Oes! Ma na fwy!

Dyma Duke y gyrrwr – gafodd fab yr un diwrnod yn union ac y cyrhaeddodd fy ngor-nith, Cadi Fflur (ydi, mae fy chwaer fach yn nain...)



Rebecca, ffrind wnes i ym marchnad Meru. Mae merched y farchnad yn aml yn gymêrs.

Kenya

Iawn ta, mewn gwesty efo cysylltiadau â’r we eto a dwi’n gobeithio ein bod ni wedi ffendio ffordd o yrru’r lluniau ma’n gynt. Os na, mi fyddai wedi drysu!
I ddechre, dyma luniau o’r tîm: Catrin yn trio dangos ei bod hi’n gallu gneud mwy na dim ond cyfarwyddo...



Guy y dyn camera. (Mae o wastad ar y ffôn) A ddeudis i’n do, genod?



A Wil y dyn sain wedi ei wasgu i gefn y landrofyr efo’r gêr i gyd. Rydan ni’n cael coblyn o hwyl efo fo ac mae o’n cymryd y mic o’n hacenion ni bois bach. Un peth dwi’m yn ei ddallt, mae’r ddau’n deud bod acen Catrin (sy’n dod o Benygroes, sir Gaerfyrddin!) yn haws i’w deall na f’un i!

21.5.07

Plant Meru



Roedd Meru yn dipyn o dwll a bod yn onest (lot o bobl off eu pennau ar stwff o'r enw Mira) ond roedd y plant yn hyfryd!

19.5.07

Golff a'r Prif weinidog

Dwi'n gyrru hwn o westy Outspan, lle roedden ni fod i aros am ddwy noson, ond am fod y Prif Weinidog isio chwarae golff ac isio'r lle i gyd iddo fo'i hun, rydan ni'n aros yn Tree Tops yn lle. Ia, lle roedd y Frenhines yn aros pan glywodd hi ei bod hi'n frenhines, lle enwog iawn, ac wedi ei foderneiddio ers y 1950au. Ond roedd raid iddyn nhw - mi losgodd y lle gwreiddiol ac wedyn mi gafodd ei wasgu'n fflat gan eliffant. Mae o dipyn mwy rwan ond yn dal yn elfennol iawn - golchi ngwallt mewn dwr oer, oer neithiwr (ac mae hi'n oer yma gyda llaw - angen fleece...), a'r 4 ohonon ni'n boleit iawn yn rhannu'r un ty bach heb wneud gormod o swn. Waliau fel papur yma!
Ac ro'n i wedi gobeithio cael golchi nillad rwan ein bod ni'n yr un gwesty am ddwy noson. Laundry service yn Treetops? Go brin! Bu'n rhaid bodloni ar olchi par o sannau yn y sinc.Felly does na'm posib mynd ar y we wrth reswm.
Ond lle digon difyr - tasech chi ar wyliau a heb weld cantamil o byffalos a digon o eliffantod a rheinos du yn barod! Dros swper, roedd y staff yn brysio mewn i ddeud 'Elephants at the watering hole!' - pawb arall yn codi'n syth a brysio i'r platfform i'w gwylio. Ni'n 4 wedi blino gormod ac wedi mynd braidd yn blase yn barod a mwy o isio bwyd, sori... Chwarae teg roedden ni fyny'n gweithio ers 6 y bore ac roedd hi'n 8.45 erbyn hyn! A ninna wedi bod i base camp Mt Kenya! Wel, nid ar droed, ond mae mynd a landrofyr i fyny fanna'n blino chi hefyd - dyna be oedd siwrne! Lwcus ein bod ni wedi blino cymaint deud gwir achos dach chi'n clywed y synau rhyfedda yn Tree Tops.
Dim lluniau sori - jest bachu ar 5 munud i sgwennu hwn ydw i - angen 20m i yrru llun!
Ond llwyth i'w ddeud - daliwch i alw mewn i'r blog - fydd o werth o un o'r dyddie 'ma!

18.5.07

mewn pabell

Sori - cymryd oes i yrru lluniau - gewch fi fwy nes mlaen.
Ond diaw, mae gen i luniau! Wedi gweld pen ol rheino du neithiwr, ges i roi mwytha i un dof bore 'ma. Annwyl oedd o cofiwch.
Ond ches i fawr o gwsg neithiwr - roedd y synau rhyfedda allan yna.
Mi glywodd Catrin synau hyd yn oed yn fwy rhyfeddol yn gynharach - nes iddi ddallt mai Wil oedd o...ddeudis i ei fod o'n ges yndo?
Gorfod mynd eto rwan - Treetops nesa - dim clem os fydd na we yn fanno - ond llewod ella! O na, newydd gofio, popeth heblaw llewod sy fanno. Am fod y llewod yn bwyta bob dim, bu'n rhaid eu symud!

17.5.07

Sut i ddod o hyd i rheino du

Ieeee!!

O'r diwedd! Gwesty lle mae 'na we! Ond mae'n araf uffernol felly bosib y bydd raid i chi aros tan bore fory am y lluniau. Gawn ni weld.
Reit ta, hyd yma, mae Kenya wedi bod yn brofiad a hanner ac yn goblyn o hwyl.
Mae Guy y Sais sydd bellach yn byw yn Kenya, sydd yn ddyn camera yn foi hyfryd a phisyn (ond yn briod...tydyn nhw gyd).
Mae Wil y dyn camera yn Kenyan go iawn efo'r synnwyr digrifwch rhyfedda.
Ac mae Catrin yn wych, yn barod am unrhywbeth a ddim yn fflapio o gwbl!
Ac mae Duke y gyrrwr yn fonheddwr. (Ro'n i'n meddwl mai Juke oedd ei enw o - ond acen Guy oedd hynny. Mae 'na lot o Saeson yn deud 'j' yn lle 'd' does?)

Rydan ni'n aros mewn pebyll heno - ond mae 'na bebyll a phebyll ac mae'r rhain yn foethus a deud y lleia. Ond mae hi wedi stormio a glawio o ddifri heddiw felly mae hi braidd yn oer - dwi'n gwisgo fy fleece yn sgwennu hwn!
Newydd fod ar saffari yn chwilio am rheino du (anifeiliad prin iawn iawn) - a do, mi welais i ben ôl un - ond welodd run o'r lleill - na'r camera - mohono fo. Welais i eliffant a thrio cymryd llun ond y cwbl dach chi'n ei weld ydi coed. Pwy fysa'n meddwl bod anifail mor fawr a llwyd yn gallu cuddio cystal mewn coed bychain gwyrdd.

Digon am rwan - mynd i yrru hwn fel bod na RWBATH ar y blog 'ma!

15.5.07

Y ddamwain awyren yn Cameroun

Noson hyfryd o gwsg, ond y papurau lleol bore 'ma yn sobri rhywun braidd. Mi fu'r wlad yn gweddio ddoe dros y 114 o bobl gafodd eu lladd ar yr awyren Kenya airways 10 diwrnod yn ôl. Ond be sy'n taro rhywun ydi'r teuluoedd fynnodd fynd i leoliad y ddamwain - mi fuon nhw'n crio yno a hel llond eu dwylo o bridd a deiliach er mwyn gallu mynd a nhw adre efo nhw. Mae dychmygu'r olygfa yn boenus a deud y lleia.
Sori - dim mwy i'w ddeud ar hyn o bryd.
Mae'r landrofyr wedi ei bacio ac i ffwrdd a ni.

14.5.07

Nairobi

Catrin a finna wedi cyrraedd yn ddiogel. Wedi mynd drwy customs Heathrow efo'r ger i gyd yn anhygoel o sydyn am unwaith! Ac am mod i'n hynod flinedig yn cerdded ar yr awyren ac wedi mynd yn hen law bellach, nes i neidio mewn i rhes o 4 sedd wag jest cyn take off - cyn i neb arall gael cyfle- a chael cysgu fel taswn i ar wely am 3 awr dda!
Roedd Catrin wedi neidio i res arall hefyd ond mi ddoth 'na foi i eistedd ar y pen. C'est la vie, Catrin...

Y criw sydd ganddon ni yma yn gret - cyfarfod nhw'n iawn am 8 bore fory i ddechra teithio yn y landrover anferthol am y cyhydedd.
Uffernol o oer yn Nairobi heno - a dim mosgitos - hyd yma.
Gwesty wirioneddol neis. Nid yn grand, jest hyfryd - a gwely 4 poster - a jacuzzi.
Dim cyfle i gymryd lluniau sori. Nid eich bod chi isio ngweld i mewn jacuzzi.
Reit - gwely.

Bosib y bydd hi'n araf

Ho hym. Dwi'n ffidlan ar y cyfrifiadur am mod i'n aros am y tacsi. Mae'n dod am 1.00 y bore ac mae hi tua 12.10 rwan. Dwi wedi pacio a chael bath a mynd a Del at fy rhieni a gwagu'r rhewgell a rhoi'r bin allan. Ond dwi'n siwr mod i wedi anghofio rhywbeth. Dwi'n gwybod nad oes gen i basport - mae hwnnw gan Catrin y cynhyrchydd (ia, oes, un gwahanol eto - dwi'n mynd drwyddyn nhw fel pys am ryw reswm. Ond ufflon o hogan iawn ydi Catrin). Mae fy mhasports yn symud o un lle i'r llall fel dwnimbe er mwyn cael gwahanol visas ac ati. Ia, fy mhasports ddeudis i. Mae gen i ddau. Ac roedd 'na jôc yn y llyfr brynais i i Daniel fy nai 9 oed: 'Mae dy fam di mor dew mae ganddi ddau basport'. Roedd Dan yn meddwl bod hynna'n ddoniol iawn am ryw reswm. Do'n i ddim.

Ta waeth, isio'ch rhybuddio o'n i: mae'n debyg bod cysylltiadau'r we yn araf iawn iawn yn Kenya ac Uganda. Ac os ydyn nhw'n araf mi fydda i'n cael trafferth gyrru lluniau. Felly bosib mai dim ond un neu ddau gewch chi. Mae geiriau'n haws o lawer diolch byth.

Tan toc ta.

11.5.07

Pacio ar gyfer Kenya


Naddo, dwi'm wedi cychwyn eto, dwi ddim ond ar ganol pacio - eto.
Ond jest isio atgoffa fy hun be ydi fy mhaswyrd ac ati.
Wedi cael gwybod y bydda i'n gadael y ty am 3.00 fore Llun er mwyn hedfan o Heathrow i Nairobi.
Aros yn Nairobi nos Lun yna symud ymlaen i rhywle o'r enw y Pig and Whistle ym Meru. Y?
Na, dydi o'm yn swnio'n Affricanidd iawn nacdi?
Ta waeth, mi fyddai'n cael mynd ar saffari ar y daith yma - a dwi rioed wedi bod ar saffari go iawn o'r blaen.
Aros yn Tree Tops hefyd!
Oes, mae 'na byrcs i'r joban, rhaid cyfadde.

A dyma i chi lun o ddau o'r cymeriadau fydda i'n eu colli'n ofnadwy tra dwi i ffwrdd - Del fy nghi a Robin fy nai 2 oed.
3 wythnos hebddyn nhw...WAAAAAA!