AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

17.7.07

Adre


A dyna ni, daeth y teithio i ben. Rydan ni gyd wedi cyrraedd adre'n ddiogel ac mi ges i'r croeso rhyfedda gan Del fy ngast fach hyfryd, annwyl!
Ond doedd y diwrnod ola 'na yn Libreville ddim yn hwyl o gwbl. Er nad oedden ni'n teithio tan 10 y nos, roedd Antoine isio i ni fynd a'r bagiau stwff ffilmio yno am 4 am ei fod o'n poeni na fydden nhw'n cael mynd ar yr awyren efo ni. Ond roedd y swyddfa wedi cau. Ond mi gawson ni wybod bod 'na 'overbookings' wedi digwydd ac efallai na fydden NI heb sôn am y bagiau, yn cael mynd ar y bali awyren!
Brysio'n ôl i'r gwesty a stwffio pob dim mewn i gar Antoine. Ond roedden ni hefyd wedi cael gwybod mai dim ond 6 bag fydden ni'n cael mynd efo ni. Hm. Roedd ganddon ni dipyn mwy na hynny. Felly dyma dapio dau bâr o ddau yn sownd yn ei gilydd (wedi gneud hyn o'r blaen droeon) - er nad oedd selotep Antoine yn dda i ddim wrth gwrs! Ond roedd 'na beiriant rhoi plastig am fagiau yn y maes awyr, mi weithiodd hynny'n iawn. Ac mi rois innau ddau fag yn fy mag mawr i, ar ôl trio gwasgaru papurach a stwff meddygol i mewn i gorneli gwag y bagiau eraill. A dyna ni - chwe bag, ac roedd yr excess oedd i'w dalu wedyn yn llawer iawn llai nag oedd o ar y ffordd i mewn! Ond roedd Antoine wedi hen ddiflannu erbyn hynny - heb hyd yn oed ddeud ta ta, y sgrwb, ac roedd Heuwlen a finna'n chwys boetsh.
A lwcus mod i'n hogan gre i godi'r bagiau dwbl ar y peth check-in. Doedd Heulwen druan methu gneud llawer a hithau wedi malu ei llaw mewn damwain car sbel yn ôl. Dyma sut dwi'n delio efo'r holl aros mewn ciwiau...



A dyma Heulwen a finna'n dathlu'r ffaith fod y bagiau i gyd wedi mynd drwadd a ninnau wedi cael ein boarding passes ac yn cael mynd adre o'r diwedd!

Ydi, mae'n bechod bod y daith olaf un wedi bod yn gymaint o smonach, ond dyna fo, mae pethau fel hyn yn 'adeiladu cymeriad', a phwy a wyr, efallai mai hon fydd y rhaglen fwya difyr o'r cwbl o'r herwydd!
Dwi ddim yn gwybod eto pryd gewch chi weld y gyfres, ond mae 'na sôn am fis Hydref eleni. Mi fydda i'n gwneud y gwaith lleisio ddiwedd Medi beth bynnag.
Ac mi fydd y llyfr allan yn fuan wedyn gobeithio. Teitl? Wel, be am 'Ar y Lein Eto Fyth' ?!

15.7.07

Dechrau colli amynedd...


O braf, meddech chi, cael diwrnod arall yn yr haul yn gneud dim byd ond torheulo a nofio'n y pwll. Pa haul! Dyma'r olygfa heddiw. Niwl a sandflies. Pa bwll? Dydi'r pwmp ddim yn gweithio ers wythnos ac mae'r dwr yn wyrdd a llawn pethe ych a fi.
Dwi wedi gorfod clirio fy stafell a rhoi bob dim yn stafell Heulwen er nad ydan ni'n gadael tan 10 heno. A does na'm dwr i fflysho'r toiledau heb son am olchi dwylo!
A dwi wedi bod yn crwydro'r gwesty fel llo coll ers awr yn trio dod o hyd i signal i fynd ar y we. 'Na, chewch chi'm ista fanna, dan ni'n glanhau.' 'Na fanna chwaith.Na fanna.' 'Ydi'r we yn mynd i weithio heddiw?' 'Dwi'm yn gwbod, dydi'r boi IT ddim ma heddiw.' Ac yn sydyn reit, mae'n gweithio. Wedi diffodd y swits oedden nhw. AAAAAAA!!!
Ac maen nhw'n son ella na fydd ein bagiau'n gallu mynd ar yr un awyren a ni. Wedi laru rwan! Mae Bethan yn dechra colli mynedd!
O ia, llun o'r pacio i chi gan nad oes 'na ddim byd newydd i dynnu llun ohono...

14.7.07

Antoine


Dyma Antoine ein fficsar. Dwi'n meddwl bod y creadur yn difaru iddo gytuno i wneud y job yn y lle cynta! Ond roedd angen digon o amynedd efo yntau ar adegau, credwch chi fi. Ond dyn annwyl a digon dymunol. Dwi'n meddwl efallai y byddai Heulwen yn anghytuno gan mai hi oedd yn gorfod delio efo fo fwya!

Heulwen druan


Dim ond y fi oedd yn cael ei bwyta gan fosgitos, roedden nhw'n gadael llonydd i Heulwen, ond mae'n amlwg fod y sandflies wrth eu bodd efo hi. Dim ond hi gafodd ei chnoi'n fyw ddoe, y greadures!

Goodbye Kenyans!


Dyma nhw'n ein gadael bore 'ma. Heulwen a fi'n dal ar ol am ddeuddydd hebddyn nhw. Bw hw. Goodbye Will, Susie and Guy, bon voyage - I waved to the Ethiopian Airways plane from the 3rd floor at 2pm exactly! Oh, and guess what - the sunset is gorgeous tonight...fethon ni gael run call tra roedd y camera ganddon ni.


A dyma be brynodd Guy yn y farchnad bore 'ma. Dyn bach efo camera ar y chwith, ylwch - perffaith!

Y lleill y gadael

Mi fydd criw Kenya yn hedfan adre pnawn 'ma, wedyn dim ond Heulwen a fi fydd ar ol- tan nos Sul. Mae'r camera gawson ni ei fenthyg wedi mynd yn ei ol, a'r bil wedi ei dalu. Mae Heulwen yn trio talu biliau eraill rwan - sydd ddim yn hawdd gan fod y cerdyn credyd yn gwerthod gweithio! Efallai y byddwn ni'n dal yma wythnos nesa...naaaa! Wedi cael digon rwan!

Pysgota


Ro'n i i fod i fynd alan mewn cwch fawr i drio dal barracuda neu marlin yn Sao Tome. Ond dyma'r unig fath o bysgota ges i roi cynnig arni'n y diwedd! Roedd y boi yma'n giamstar, ond ro'n i'n anobeithiol. Ddalies i'm byd. Fel arfer...

Llosgi


Braich Heulwen ydi hon. Gan fod 'na gymaint o smog yn Libreville, dydi'r haul ddim yn ein llosgi o gwbl, ond yn Point Denis, roedd yr awyr yn glir. Wp a deis. Ond doedd Heulwen yn poeni dim - mae hi isio lliw! Ond mi roth hi'r ffactor 50 ymlaen unwaith i ni ddeud 'Heulwen...ti'n mynd braidd yn binc...' Mi ges inna dipyn o liw hefyd, ond wedi bod yn teithio'r cyhydedd ers 10 mis, mae 'na chydig bach mwy o 'base' ar fy mreichiau i na breichiau Heulwen. Nunlle arall y anffodus. Heblaw fy nhraed.

Point Denis



Gan nad oedden ni'n gallu mynd i Sao Tome, aethon ni ar gwch i fan'ma ddoe. Brenin yr ardal oedd Denis (oedd yn cael ei alw'n Dennis neu William gan y Prydeinwyr, does isio gras?)ac mae'n ynys (wel, bron iawn) fechan lle mae pobl gyfoethog Libreville yn picio am y penwythnos i chwarae ar y traeth. Dim ond rhyw hanner awr ar y fferi, llai os oes ganddoch chi eich cwch eich hun. Ac roedd hi'n braf iawn yno. Ddim llawer i'w wneud, cofiwch. Roedd mynd ar yr un jetski yn £180 felly stwffio hynna. A dyma be wnaethon ni yn lle.


A syniad Guy oedd hyn - cael y lleill i daflu dwr drosta i - nes ro'n i'n wlyb domen!
Ro'n i mor wlyb, waeth i mi nofio'n fy nillad ddim - gan ein bod ni i gyd wedi anghofio dod a'n pethe nofio. Ew, nes i fwynhau hynna, ac mi sychodd fy nillad tra roedden ni'n cael cinio (ro'n i wedi dod a'r wisg Affricanaidd efo fi, felly roedd o'n dda i rywbeth wed'r cwbl!)

12.7.07

Les Dawson


Dwi'n deud dim.

Operation Crwban


Nol i r farchnad bysgod bore ma, ac roedden ni fwy neu lai wedi gorffen ffilmio pan welso ni grwban yn cael ei lusgo i fyny’r traeth gerfydd cortyn bels am ei goes/ffliper. Roedd Guy wedi ypsetio’n lan. Mae o’n lysieuwr ers 25 mlynedd ac yn foi anifeiliaid mawr. Roedd o isio prynu’r crwban er mwyn ei ryddhau yn ol i’r mor. Y? Ond geith o ddim ond ei ddal eto, meddan ni. Ond na, roedd o’n daer ac wedi gweithio ei hun i fyny i dipyn o stad. Felly dyma brynu’r crwban am £20 a £1 yr un i 4 boi ei gario at y car.


Ond yn sydyn, dyma bobl swyddogol yr olwg yn dod o rhywle. Yr heddlu. Mae’r crwbanod dan gadwraeth yma (i fod – achos mai dyna ydi ‘protected species’) ac roedden nhw reit gas efo ni er ein bod ni’n trio egluro nad ei brynu i’w fwyta oedden ni! Ond mi wnaethon nhw ein coelio ni’n y diwedd a dod efo ni i’w ryddhau i’r mor.


A dyma fo’n mynd.


A chan fod ei gefn o ata i do’n i methu gweld os oedd ‘na ddagrau yn llygaid Guy wrth ei wylio’n nofio i ffwrdd.

Masg Gabonaidd


Dwi'n hapus iawn rwan. Un peth ro'n i wir isio'i brynu oedd un o fasgiau enwog Gabon (nhw ydi'r meistri). A ges i hwn ddoe. Dwi wrth fy modd efo fo!

O hec, dechra drysu. Dach chi wedi gweld hwn yn barod yndo? Ond mae'n werth ei weld yn agos, felly tyff.

I rieni Heulwen

Yr unig bobl dwi'n GWYBOD sy'n darllen y blog 'ma ydi rhieni Heulwen! Mae hi'n siarad efo nhw ar y ffon ac yn pasio'r ymateb ymlaen i mi. Roedd Mam Jonathan yn un o'r darllenwyr selocaf hefyd erbyn cofio. Mae'r gweddill ohonoch chi'n blwmin anobeithiol am roi ymateb! Oes 'na rywun allan yna'n gwerthfawrogi hwn heblaw rhieni Heulwen?! Felly, yn arbennig i chi, dyma luniau ohoni.

Nacydi, dydi hi'm y licio gwenu mewn lluniau nacdi?!


Ac un arall ohoni o'r cefn, gan ei bod hi'n dal i feddwl bod ganddi ben ol mawr.Que?!

Ensemble Africaine



A rhywbeth arall dwi'n difaru peidio ei gael pan ro'n i'n Nigeria dros 20 mlynedd yn ol ydi gwisg fel hyn. Ond rydan ni wedi prynu defnydd ddoe, yna mynd i weld chwaer yng nghyfraith Pascale (ddaeth yma o'r Congo 8 mis yn ol, ac yn gwneud ei bywoliaeth fel 'taileur'), lle ces i fy mesur am ensemble! Fe ddylai fod y barod erbyn heno - am ddim ond £20! Nid yn cyfri'r defnydd wrth gwrs - a dyma chi hwnnw ac Esperance fu'n fy mesur. Tydi hi'n ddynes dlws?

Ond duw a wyr sut olwg fydd arna i yn y wisg. Dwi'm cweit yr un siap a genod yr Affrig. Maen nhw'n tueddu i fod a phenolau mwy, a llai o frestiau, a finna'r ffordd arall yn llwyr. Hmm...beryg mod i'n mynd i edrych rel drong ar y bocs eto fyth..

Masg a Pascale


Un peth ro'n i wir am ei brynu yma oedd masg. Mae Gabon yn enwog am safon eu masgiau, ac mae hwn yn un da. Dwi'n nabod fy stwff Affricanaidd! Mae'r pethau 'mass produced', newydd sbon, rhad yn hawdd eu cael am tua £5. Mwy os nad ydach chi'n bargeinio. Ond mae hwn yn hyn ac o safon uwch. Un Pounou ydi o medda nhw - nid mod i'n siwr be mae hynny'n ei olygu! Ond mi dalais i £23 amdano fo. Roedd o wedi gofyn am £35. A Pascale ein gyrrwr newydd ydi hwn - sydd o Nigeria yn wreiddiol. Un o'r miloedd sydd wedi dod yma yn anghyfreithlon, ond sy'n cael eu croesawu. Mae hi dipyn haws gwneud bywoliaeth fan hyn nag yn Nigeria.

L'Epicurien

Dyma lle ges i's stecen orau ges i rioed. Au poivre. Efo gwin St Emilion.
Ond ar gyfer ffilmio oedd o. Sbiwch faint oedd raid i mi ei adael ar ol! Roedden ni ar frys i fynd i ffilmio rhywbeth arall. Ro'n i jest a chrio...

Laurel a Hardy


Y ddau efo'r camera bach - sydd ddim yn cael ei ddefnyddio o gwbl bellach, diolch byth. Cael benthyg y Z1 tra byddwn ni yma.

11.7.07

Y Ddraig goch yn Gabon!

Er gwaetha'r ben glin



O ia, anghofies i son - do, mi fu'n rhaid i minnau ddawnsio. A do'n i'm cweit mor sidet a'r llun! Ond roedd batris y camera wedi darfod erbyn i hyn ddigwydd. Dwi reit falch!

A Guy...

A doedd Guy ddim yn impressed iawn efo maint y 2 fatri ddoth efo'r camera Z1.
Yn enwedig gan nad oedden nhw wedi cael eu charjio!

Ond...

Ond doedd pethau ddim yn fel i gyd. Fyddan ni ddim yn gallu symud ymlaen i Sao Tome wedi'r cwbl. Doedd na'm pwynt heb gamera call achos dim ond hyn a hyn o luniau efo'r camera bach all S4C (neu unrhyw sianel arall)eu darlledu. A fan hyn, o leia gawn ni fenthyg y camera Z1 tra rydan ni yma. Do, mi wnaethon ni drio mynd a fo i Sao Tome, ond roedd hi'n amhosib gwneud y gwaith papur mewn pryd. Felly bw hw, chawn ni ddim gweld yr ynys sydd i fod yn nefoedd heb ei difetha. Ydw, dwi'n gyted!
Ond yn hapus hefyd am ein bod ni'n gallu anghofio am broblemau'r bali camera rwan a jest canolbwyntio ar wneud y rhaglen.
Rydan ni gyd yn hapusach. Mi wnes i ofyn i Wil ddoe, be oedd o'n ei feddwl o Gabon hyd yma. 'The fish is nice...' medda fo.

Mbeng Ntame



Noson arbennig neithiwr - llond gwlad o ddawnsio mewn pentre o'r enw Mbeng Ntame, rhyw dri chwarter awr o ganol Libreville. Argol, roedden nhw'n dda, ac yn ifanc ac yn llawn egni. Ac un teulu ydyn nhw - 6 chwaer, 1 wedi priodi Ffrancwr, a phob un wedi cael llwyth o blant (mi wnes i anghofio gofyn faint yn union) ac maen nhw i gyd yn byw efo'i gilydd mewn un 'compound'. Ac yn dawnsio yn yr hen ddull yn gyson, jest er mwyn hwyl ac ar gyfer twristiaid. Ond ar ddechrau pob sioe, maen nhw'n cymryd rhywbeth o'r enw Iboga - planhigyn sy'n gwneud i chi hedfan! Ac wedi i mi roi mymryn bach ar fy nhafod, diaw, roedd 'na rywbeth yn digwydd.


Dim rhyfedd fod rhain yn gallu dawnsio mor wyllt drwy'r nos!






A ces oedd hwn. Roedd pawb yn gwneud eu colur neu eu gwisgoedd yn ol y gweledigaethau roedden nhw wedi eu cael. 'Felly ti wedi gwisgo fel panther...' medda fi (state the obvious, Bethan) 'Je suis un Panthere!' medda fo'n gwbl bendant. Dwi'n amau dim. Roedd ganddo egni a chryfder yr anifail i ddawnsio fel gwnaeth o drwy'r nos.

Mae'n braf yma!


Dwi wedi clywed bod rhywrai yn poeni amdanon ni yma - fel rhieni Heulwen! Ylwch, na, er gwaetha'r trafferthion, rydan ni'n cael amser da, ac yn cael stwff da i'w ddarlledu a dyma i chi chydig o luniau ddylai brofi pa mor braf ydi hi yma.

Radio Emergence




Diwrnod cymysglyd eto ddoe, yn cynnwys profiad eitha brawychus i mi - siarad yn fyw ar y radio - yn Ffrangeg! Ond argol, ges i hwyl. Nid radio arferol mo hwn, ond radio gan bobl ifainc ar gyfer bobl ifainc - ond maen nhw mor dda, mae bron pawb yn gwrando arnyn nhw! Gwirfoddolwyr ydyn nhw i gyd, neb yn derbyn ceiniog am y gwaith, ond gan mai eu babi nhw ydi o, maen nhw'n rhoi gwaith i mewn iddo fo was bach, ac mae'r cyflwynwyr yn wych, yn gallu siarad yn rhugl a llyfn fel pwll y mor ar unrhyw bwnc dan haul ac heb ddarn o bapur o'r blaenau. Mi wnes i ddeud wrthyn nhw bod ieuenctid Cymru yn cwyno am radio eu hunain ers blynyddoedd. Roedden nhw'n cynnig i griw ddod draw yma i weld be maen nhw'n ei wneud ers 2000, ac wedyn fe allen nhw ddod draw i'ch helpu chi i sefydlu radio tebyg yng Nghymru! Chwip o syniad. Be amdani ta jeunesse du Pays de Galles? Ond wrth gwrs, byddai gallu siarad Ffrangeg yn help...
O ia, a dwi wedi addo gyrru CD Gymraeg iddyn nhw.Unrhyw syniadau be ddylwn i ei yrru?
Merci bien a l'equipe de Radio Emergence - vous etes une/un? inspiration! Et je vous enverrai un CD Gallois toute de suite, je vous assure!

10.7.07

F'atgoffa o Del



Da 'de! mae'r traethau'n llawn o fonion pren fel'ma.

Dylanwad Ffrainc


Dyma ddangos i chi pa mor Frengig ydi hi yn y rhan yma o Orllewin yr Affig

Y car


Nid yn unig mae'r camera wedi malu ond mi benderfynodd y car ro'n i'n gyrru ynddo goncio allan hefyd! Dyma nhw'n trio ei drwsio. Mi dreuliais i dipyn o amser yn sgwrsio efo Franklin y gyrrwr felly, boi o Zaire (mae gyrrwyr Gabon i gyd yn dod o wledydd eraill) ond erbyn y pnawn mi ddywedodd nad oedd o isio gweithio efo ni eto. Y? Pam?! Roedd o'n trio deud mod i'n ei wneud o'n sal, fod ei galon o'n rasio bob tro ro'n i'n eistedd wrth ei ochr. Y? Oooo...Ym. Ro'n i'n meddwl mai tynnu coes oedd o, neu drio gwneud esgus. Ti'm hyd yn oed yn gwbod fy enw i! 'Faut pas me moquer!'medda fo. Felly dwi'm yn gwbod wir. Ond dydi o'm efo ni bellach. Fo sy'n y bonet gyda llaw.

Y camera bach bach bach


Dyma Guy druan efo'r camera bach ar y tripod mawr. Na, dydi'r camera mawr ddim yn gweithio - o gwbl. Nada. Rien. Zilch. Rydan ni'n cael benthyg camera rhywun arall am ddiwrnod - am bres golew ac ar yr amod fod 'na gynorthwydd yn dod efo ni - ond rydan ni'n aros am y diawl bach ers awr rwan! Wedyn, mi fyddwn ni'n nol efo'r un bychan yn Sao Tome. Croesi bysedd y bydd y lluniau yn ddigon da i'w darlledu. Argol, tydi rado gymaint haws?