AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

25.4.07

Guto, Helen ac Osian



Ac o'r diwedd, llwyddo i gyfarfod Guto (Gruffydd ab Owain), ei wraig Helen a'u mab Osian - sy'n mynd i fod yn chwaraewr rygbi, garantîd. Pryd o fwyd da a llwyth o chwerthin cyn mynd ar awyren arall (wedi colli cownt faint o awyrennau fuon ni arnyn nhw tro 'ma). Ac roedd yr awyren yn llawn felly dim cyfle i gael gorwedd ar bedair sedd tro 'ma. O wel. Fel'na mae hi weithia.
Angen golchi a sychu dillad cyn y trip nesa rwan - Kenya ac Uganda. Mai 14. Cofiwch am y blog!

Singapore


Gan fod ganddon ni naw awr i'w lladd yn Singapore (ar ôl codi am 4.30 a hedfan o Pontianak i Jakarta, ac yna o Jakarta i Singapore), mi benderfynon ni fynd i'r ddinas. Aeth y lleill i siopa. Eistedd mewn caffi'n darllen fues i ac yna cyfarfod y lleill yn Raffles i gael Singapore Sling. Yn un peth, roedd hi'n beblwydd ar Derek, ac yn ail, fydd Haydn na Derek yn Ar y Leinio eto - criw lleol fydd ganddon ni yn yr Affrig. Felly roedd angen ffarwelio mewn steil.

Machlud i orffen


Ffarwelio efo Pontianak (a Kalimentan)



Roedd y criw yma'n byw mewn tai ar stilts ar lan yr afon. A dyma'r tai bach.

Sylwch pwy sy'n gwisgo helmed a phwy sydd ddim

Cacennau efo Wiwi



A Derek yn sglaffio'r un siocled - dim syniad pam ei fod o'n gam, sori!

Y cychod


Dwi adre, a dyma ddechrau gyrru'r lluniau fethais i eu gyrru. Golygfa ben bore o'r afon yn Pontianak.

A Heulwen yn cael woblar...


23.4.07

Blwmin technoleg

DWI'M YN COELIO HYN! Mae modem y laptop wedi chwythu neu fethu neu rywbeth a dwi'n gorfod sgwennu hwn ar gyfrifiadur o oes yr arth a'r blaidd yn 'business centre' y gwesty. Mae o mor araf does na'm pwynt i mi drio gyrru lluniau neu mi fyddai yma drwy'r nos. Ga damia! A finna efo lluniau gwych o Heulwen yn cael woblar wrth fynd ar gwch am y tro cynta yn ei byw (ac mae'r hogan yn byw yn Aberdyfi!!), a Derek yn stwffio'i hun efo cacen siocled mewn rhyw siop gacennau ryfedd fuon ni'n ffilmio ynddi oedd efo cacennau lliw neon - a blas ffiaidd iawn; a machlud haul anhygoel heno
ac ati ac ati.
O wel. Mi wnai eu postio pan fydda i adre ar fy nghyfrifiadur fy hun - sy'n apple - nid y rwtsh Microsoft 'ma!
Rydan ni wedi gorffen ffilmio ac mae'r lleill eisoes wedi mynd i'w gwelyau achos dan ni'n gorfod codi am 5 eto bore fory i gyrraedd y maes awyr. 3 awr o hongian o gwmpas ym maes awyr Jakarta wedyn (nid y lle mwya difyr yn y byd. Dwi'n siwr bod Jakarta'n ddifyr ond dydi'r maes awyr ddim) ac yna NAW AWR ym maes awyr Singapore! Mae'n bosib iawn yr awn ni i ganol y ddinas i gyth, a dwi eisoes wedi hanner trefnu i gael Singapore Sling efo Cymro o'r enw Guto (ab Owain) fethon ni ei weld yno'r tro dwytha - er ein bod ni'n gwylio gem Iwerddon v Cymru yn yr un dafarn Wyddelig!
Reit, nos da, dwi angen fy biwti sleep ar ol ffaffian yr holl efo'r bali laptop 'na.
Ac mi fydd 'na goblyn o olwg arnon ni gyd ar ol y daith erchyll sydd o'n blaenau ni.
Na, dydi'r teithio 'ma ddim yn fel i gyd!

22.4.07

Pysgotwyr Samarinda


Anghofies i gynnwys y llun yma efo rhai Samarinda.
Roedd yr hen foi yn dipyn o ges a'r un ifanc yn gwbod yn iawn ei fod o'n edrych
yn 'cool'...

Ar y ffordd i Balikpapan


Roedd yr haul yn machlud wrth i ni deithio am faes awyr Balikpapan.
Ac erbyn heddiw, rydan ni wedi cyrraedd Pontianak ar ochr arall yr ynys (via Jakarta eto). Mae'r glaw yn disgyn unwaith eto ac rydan ni'n croesi'n bysedd y bydd o wedi rhoi'r gorau iddi erbyn i ni ddechrau ffilmio bore fory - am 5.30!
Mae Heulwen wedi gofyn i Ruddy brynu ambarels rhag ofn. Chwi o ychydig ffydd...

Trist iawn


Felly mae'n debyg bod pobl Asia, fel yr Affrig isio croen goleuach. Dwi'n cofio bod nwyddau fel hyn ar gael yn Nigeria pan ro'n i'n byw yno - a doedd y stwff yn gneud dim lles o gwbl i'r croen.
Ond dyna fo, mi rydan ninna bobl wyn y talu ffortiwn i gael croen tywyllach hefyd. Tydi dynoliaeth yn hurt?

Orang utans


Ac wedyn aethon ni draw i ganolfan sy'n hyfforddi orang utans i fyw yn y gwyllt.
Mae'r rhan fwya wedi bod yn anifeiliaid anwes anghyfreithlon ac angen eu dysgu sut i fod yn orang utans go iawn eto. Roedd ganddyn nhw reolau caeth iawn am bobl o'r tu allan yn mynd yn rhy agos felly mae arna i ofn mai dyma'r llun gorau sydd gen i - angen zoom gwell ar y camera debyg.
Mi ges i fynd yn llawer agosach ond roedden ni'n rhy brysur yn ffilmio i feddwl am gymryd snaps ar y pryd, sori! Ond mae gan Haydn luniau da iawn ar gyfer y rhaglen - a hwnnw sydd bwysica'n y pen draw ynde?
Ac mi fedra i ddeud eu bod nhw'n anifeiliaid anhygoel - clyfar, difyr. Waw. Mi fyswn i'n derbyn job yn gofalu am orang utans yn syth!

Crocodeils


Mi fuon ni mewn fferm grocodeils lle roedd 'na slaffs o bethau mawr fel hwn.
Ond ges i gydio mewn un bach - eto! Nwyddau o groen crocodeil ar werth yn y siop, a'r peth sy'n gwerthu fwya mae'n debyg ydi pidyn crocodeil...£35 yr un.
Naddo, nes i'm prynu'r un.
Ond mi ges i flasu kebabs crocodeil - a blasus iawn oedden nhw hefyd.

20.4.07

O ia, dyma ran o'r ddefod 'lanhau'


Na, do'n i ddim yn siwr iawn be oedd yn digwydd chwaith!

Crocs ac orang utans

Mi fyddwn ni'n aros efo'r orang utans heno felly go brin y bydda i'n gallu blogio o fan'no. Gewch chi eu hanes nhw a'r fferm grocodeils ymhen rhyw 48 awr felly. Am wn i. Does na'm byd yn sicr yn y byd 'ma. Sampai jumpa.

Tu mewn y ty hir

Y cerfiwr cyfredol

top y grisiau

Dwi isio grisiau fel rhain


Ro'n i'n meddwl mai dim ond addurn oedd rhain ac yn defnyddio'r grisiau normal rydan ni wedi afer efo nhw - ond rhain roedd y Dayaks yn eu defnyddio gan amla erbyn sylwi.
A cwpl yn caru sydd ar y top.

Plant Dayak

Cael fy 'nglanhau'



A ti ddigon o'i angen o meddai Haydn. Y fath hyfdra.

Pwy sy'n deud bod smocio'n ddrwg i chi?



Roedd y boi yma'n 130 oed! Ac yn chwarae'r drwm rel boi.

Y Dayaks



Wedi 7 awr ar hyd ffyrdd erchyll oedd yn dyllau i gyd, a hynny mewn storm o fellt a glaw trwm, roedden ni’n disgwyl pethe mawr o dy hir y Dayaks. Roedden ni wedi dod a’n rhwydi mosgito a’n bwyd ein hunain – roedd ‘na fag o bysgod wedi bod yn yn sloshian yn y cefn yr holl ffordd. Roedden ni wedi cael gwybod mai jyngl oedd o a bod angen mynd allan i ganol y deiliach a’r pryfaid i bi-pi. Felly gawson ni dipyn o siom i weld bod y lle yn drydan i gyd, bod gan bawb ei stafell ei hun a bod ‘na dai bach a CHAWODYDD yno! Do’n i’m hyd yn oed wedi trafferthu i ddod a sebon efo fi. Roedd y siom yn fwy fyth pan frysiodd 4 neu 5 o hen ferched bach i mewn i drio’n perswadio i brynu eu nwyddau ethnic...o wel. Fel’na mae hi weithia. Ond gawson ni ein siomi ar yr ochr orau bore ‘ma.
Roedd ‘na seremoni a dawnsio, a ges i dipyn o sioc. Mi fydd raid i chi wylio’r rhaglen i weld be'n union ddigwyddodd ond dyma chydig o luniau yn y cyfamser:

Anadlu i mewn


Ges i gynnig trio gneud fy sarong fy hun. Ia, ia, mae’n cymryd 20 diwrnod i ddynes brofiadol nyddu digon o ddefnydd i wneud un. Jest cyfle arall i ngweld i’n gneud idiot ohonof fi fy hun oedd o yn y bon. Ac ro’n i wedi sylwi’n syth pa mor denau oedd y ddynes ac na fyddai na lawer o le i mi yn y contrapshyn yna.

Aroglau hyfryd yn y stryd

Gwylliaid Aberdyfi



Heulwen yn poeni bod 'fumes' traffic y ddinas yn amharu arni...hi oedd yr unig un gyda llaw.

Samarinda


Ia, methiant fu trio gneud dim efo’r ffon lloeren. Doedden ni methu cael digon o signal i wneud galwad ffon heb son am gysylltu a’r we o gartref y Dayaks. Ta waeth, rydan ni’n ol mewn gwesty rwan, sydd yn wi-fi, ond dim ond ar y llawr cynta felly mae ‘na bobl yn fy mwydro i’n rhacs tra dwi’n sgwennu hwn.

Reit ta, be dan ni wedi’i neud ers cyrraedd Borneo? Dysgu mai Kalimentan ydi enw’r lle yn un peth. Mae’r darn (dwy ran o dair) o ynys Borneo sydd yn Indonesia yn cael ei nabod fel Kalimentan gan y brodorion ers blynyddoedd lawer, a Sarawak a Malaysia ac ati ydi’r gweddill, felly welwch chi mo’r enw Borneo ar unrhyw fap rwan – run map da beth bynnag. Felly dyna hynna.

Mae’r Kalimentiaid yn amlwg wedi arfer efo twristiaid. Mae'n nhw’n dal yn glen iawn, ond jest ddim mor anhygoel o gyfeillgar a busneslyd a pobl Sumatra.
Ond maen nhw'n gyrru’n llawer callach fan hyn, diolch byth. Mater o raid efo’r holl law debyg.

18.4.07

Borneo/Kalimantan

Wedi teithio DRWY'R DYDD ddoe, rydan ni wedi cyrraedd! Dim lluniau sori (meysydd awyr a'r tu mewn i wahanol geir ddim yn ddifyr iawn)ond mynd i drio defnyddio'r ffon lloeren heno o longhouse llwyh y Dayaks yn y jyngl! Os dio'n gweithio, gret, os di o ddim, mi fydd raid i chi aros diwrnod arall.
6 y bore fan hyn - mynd am frecwast rwan. Hwyl!

17.4.07

Parot wedi dychryn

Plesio'r hogia'


Roedd yr hogia wedi dechra teimlo allan ohoni gan fod pawb isio lluniau o Heulwen a finna o hyd. Ond sbiwch - genod ysgol isio'u llunie efo nhw!

Bukit tinggi

A dyna’r ffilmio yn Sumatra wedi dod i ben. Angen codi tua 4 bore fory er mwyn hedfan yn ol i Jakarta er mwyn hedfan ymlaen i Borneo. Ond dwi angen deud wrthach chi am helyntion ddoe. Mae ‘na gymaint yn digwydd, dwi’n anghofio. Reit, yn gynta, aethon ni i Ddyffryn Harau – tlws iawn, creigiau dramatig, rhaedrau hirion, pentrefi bychain gwledig ond stondinau hyll, bler a’r sw gwaetha welais i erioed – crocodeil mewn pwll fawr mwy na bath ac arth mewn caets llawn o’i faw a chaniau cwrw.

Gweld cannoedd o gaeau reis ar y ffordd a Haydn isio i mi gerdded heibio i un yn y pellter.Yn anffodus, roedd y llwybr yn diflannu chwarter ffordd a bu’n rhaid i mi gamu mewn i ffos. Peth nesa, roedd y boi ‘ma’n cynnig i mi ymuno ag o’n y llaid i gynaeafu’r reis. Wel, nes i’m meddwl naddo? Mewn a fi – dwi byth yn gwrthod profiad newydd. Ond roedd y bali mwd yn ddyfnach nag o’n i wedi meddwl – dros fy mhen gliniau i, ac yn ludiog was bach – fel trio cerdded drwy bast papur wal wedi’i gymysgu efo UHU. Ac roedd ‘na bethau’n crafu yna was bach – mae nghoese i’n sgriffiadau i gyd rwan.



I bentre Limbuku wedyn – sy’n enwog am rasus hwyaid – ond nid yr adeg yma o’r flwyddyn. Felly ges i weld dynes yn gneud brics allan o glai a chael cynnig arni fy hun – felly ro’n i’n blwmin budr eto! Argol, nes i fwynhau nghawod y noson honno.

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur arall a dwi wedi blino a deud y lleia. Fy ffilmio i’n gyrru o dan arwydd ‘Croeso i Bukittingi’ yn gynta. Ro’n i’n y car wrth gwrs, a do’n i methu dallt pam fod y criw wedi gosod eu hunain ar ochr arall yr arwydd, lle roedd o’n deud ‘diolch am ddod a brysiwch eto.’ Mi symudon nhw ar gyfer take 2 wrth gwrs.

I’r farchnad wedyn, a gweld effaith daeargryn fu yma 6 wythnos yn ol – rhesi o dai a siopau wedi chwalu’n rhacs. Maen nhw’n digwydd yma’n aml – a be sy’n od ydi mai tai brics sy’n disgyn – mae’r hen dai pren traddodiadol yn iawn. Mi fuon ni mewn yn un o’r rheiny pnawn ‘ma – o fy nuw. Dyna be oedd profiad – trio ffilmio cyfweliad efo dynes y ty. Roedd hi’n mynnu ateb yn hurt o gryno, a’i chwaer yn mynnu porthi, a mwy a mwy o deulu a ffrindiau yn galw mewn i weld be oedd yn digwydd. Ac wrth gwrs, mae hi mor anodd egluro bod angen gneud yr un peth YN UNION drosodd a throsodd efo’r busnes teledu ‘ma. Wedyn ro’n i fod i fwyta llwyth o fwyd – a finna ddim ond newydd gael llond bol o ginio. Roedd o’n neis iawn, ond do’n i jest ddim isio bwyd! Ges i daith rownd y ty wedyn – a methu peidio a rhowlio chwerthin pan welaid i bosteri Boyzone a’r Backstreet Boys uwch ben ei gwely hi.



Mae’r tai pren ma’n wirioneddol smart – y toeau ar siap cyrn byffalo am mai byffalo enillodd ryw frwydr i’r bobl’ma ganrifoedd yn ol. Beryg y byddai hi’n anodd i ni yng Nghymru wneud to ar siap draig. Ond colli wnaeth draig Cymru yn erbyn draig Lloegr ia ddim? O, dwi’m yn cofio rwan.



Angen ail bacio yn barod ar gyfer teithio eto fory rwan. Dwi wedi mwynhau Sumatra’n arw. Lle difyr iawn, iawn, a bechod na chawson ni fwy o amser yma, ond dyna natur Ar y Lein i chi – rhuthro o un lle i’r llall. Blog o Borneo nesa. Sampai jumpa.

15.4.07

problem

Mae gen i lwyth o luniau a hanesion i chi, ond dydi'r cyfrifiadur yn y gwesty newydd 'ma ddim yn licio fy memory stick i. Maen nhw'n deud y bydd adnoddau laptop yn gweithio erbyn nos fory. Felly nos da - dwi 'di gwastraffu digon o amer yn trio gneud hwn a dwi'n codi ymhen 5 awr a hanner!

Eliffantod

Mi ddechreuodd heddiw yn dda, yn arbennig o dda, er gwaetha’r ffaith ein bod ni wedi gorfod codi am 5.30 er mwyn pacIo’r ceir erbyn 6.00. Ac er gwaetha’r ffaith nad oedd Heulwen na finna wedi dallt bod yr hogia’n cael brecwast a ninna’n meddwl mai pecynnau ar y ffordd oedd ‘na i ni. Felly naddo, chawson ni’m brecwast – a dwi’n licio mrecwast.
Be oedd yn dda oedd be ddigwyddodd wedyn, sef ein hymweliad a chanolfan hyfforddi eliffantod. Ia, go iawn – maen nhw’n magu’r eliffantod ‘ma a’u dysgu sut i neud bob math o bethe fel eu bod nhw’n gallu cyd-fyw’n hapus efo pobl wedyn –h.y. bod pobol yn gweld bod ‘na werth iddyn nhw, nad jest lympia mawr trwsgl sy’n malu pethe ydyn nhw. Gewch chi fwy o fanylion call ar y rhaglen ac yn y llyfr, dw’n rhy flinedig i egluro’n iawn rwan. Ond ydyn, maen nhw’n cael eu dysgu i chwarae pel-droed hefyd. A cherdded dros blanciau main. A ges i gyfle i’w molchi nhw – a mynd ar gefn un. Nid ar un o’r seddi saff ‘na ar gyfer twristiaid, o na, ar ei gefn o go iawn. Dwi’n gallu clywed y ferch sy’n gofalu am iechyd a diogelwch yn cymryd ei gwynt o fan’ma...ond sbiwch, aeth y dyn camera ar ei ben o wedyn hefyd – efo’r camera!



Ond roedd o’n chwysu was bach.

Ges i fodd i fyw beth bynnag, joio go iawn. Bore hyfryd.
A dyma lun ar gyfer mam Heulwen oedd wedi deud rywbeth am faint pen ol ei merch. Ydi hyn yn profi rhywbeth?



Nes i eitha mwynhau’r daith drwy goedwigoedd ar hyd ffyrdd cul, troellog hefyd, nes iddi fynd yn hwyr – a thywyll. Bob tro roedden ni’n gofyn pa mor bell oedden ni o’r gwesty – ‘one hour’ oedd yr ateb, ond roedd hi’n dal yn ‘one hour’ dair a phedair awr yn ddiweddarach. A’r cwbl roedd Heulwen a finna wedi cael i’w fwyta drwy’r dydd oedd cwpwl o groissants a bananas!
A bu’n rhaid i ni newid gwesty am fod y gwesty roedden ni fod ynddo’n rhy bell – ac mi gafodd y penderfyniad hwnnw ei wneud 18km o’r gwesty gwreiddiol... Ond doedd y ffordd ddim yn wych: tyllau, pob math o gerbydau eraill – rhai heb olau.
Es i ar fy mhen i‘r gawod cyn disgwyl i’r bag gyrraedd. Do’n i’n dal yn fwd a chachu eliffantod i gyd! Roedd ‘na ambell dyrden anferthol wedi waldio yn erbyn fy nghoesau i’n yr afon ‘na. Nid mod i’n cwyno – dal i fwynhau, ond argol, mi fydd swper yn braf. A ngwely. A dan ni’n cael brecwast am 6.00 fory. Yyyyyy.

14.4.07

Henaint

O ia, ges i sycsan heddiw. Rhywun yn gofyn os oedd Heulwen yn ferch i mi. BEEEEE?!
Mae hi'n 26! Ydw i'n edrych yn ddigon hen i fod yn fam i ferch 26?! Wedyn dyma Haydn yn meddwl am y peth a phwyntio allan bod y peth yn bosib...gan mod i'n 45. Ia,ond!A phun bynnag, dydan ni'm byd tebyg.

Hmm...


Mae gen i hymdingars o luniau o'r plant lleol yn neidio i mewn i'r afon, ond gan fod rhai ohonyn nhw'n noeth, dwi'm yn siwr os ydw i i fod i'w dangos nhw ar y we. Tydi o'n goblyn o beth bod cymdeithas wedi mynd mor ych a fi dwch? Taswn i'n gallu addasu neu dorri lluniau y pen yma, swn i'n eu dangos i chi, ond alla i ddim.Bosib y gall rhywun yn Telesgop eu haddasu ar fy rhan i? Gawn ni weld. Felly dyma lun o fywyd ar lan yr afon am y tro.

Adeilad hyfryd arall - mosg

Tydi o'n gorjys!

Un o'r adeiladau hyfryd

Un i Jonathan



Ydw, dwi'n trio bob dim. Ac roedd hwn yn union fel yfed gwair. A neis iawn oedd o hefyd!

Pili pala



Roedd hwn yr un maint a fy llaw i - wir yr.

Pekanbaru - hyfryd!

A dyna ni, y diwrnod cynta o ffilmio wedi dod i ben, a chlincar o ddiwrnod oedd o hefyd. Nai fod yn onest efo chi, dwi’n casau’r ffaff a’r hassl o gyrraedd y llefydd ‘ma, ond unwaith dwi yno – dwi’n mwynhau, bobol bach.
Dydi Pekanbaru ddim yn le twristaidd o gwbl – dim golwg o’r un hyd yma, a hynny oherwydd mai olew sy’n dod a phres i mewn, nid twristiaeth. Ond diaw, am le difyr. A phobl hyfryd, wirioneddol glen ac annwyl. Maen nhw’n deud bod pawb yn Indonesia fel’na, ond dydi’r rhain ddim wedi arfer efo wynebau Ewropeaidd, felly rydan ni wedi cael ein trin fel VIPs ymhobman – mewn tai bwyta, y farchnad, bob man. Naci, nid fel VIPs, nid dyna ydi o – jest pobl gwrtais ond a’r diddordeb rhyfedda ynoch chi. Sbiwch ar y wynebau ‘ma i weld be dwi’n feddwl...oedd, roedd Heulwen wedi cymryd aty nhw hefyd.