A dyna’r ffilmio yn Sumatra wedi dod i ben. Angen codi tua 4 bore fory er mwyn hedfan yn ol i Jakarta er mwyn hedfan ymlaen i Borneo. Ond dwi angen deud wrthach chi am helyntion ddoe. Mae ‘na gymaint yn digwydd, dwi’n anghofio. Reit, yn gynta, aethon ni i Ddyffryn Harau – tlws iawn, creigiau dramatig, rhaedrau hirion, pentrefi bychain gwledig ond stondinau hyll, bler a’r sw gwaetha welais i erioed – crocodeil mewn pwll fawr mwy na bath ac arth mewn caets llawn o’i faw a chaniau cwrw.
Gweld cannoedd o gaeau reis ar y ffordd a Haydn isio i mi gerdded heibio i un yn y pellter.Yn anffodus, roedd y llwybr yn diflannu chwarter ffordd a bu’n rhaid i mi gamu mewn i ffos. Peth nesa, roedd y boi ‘ma’n cynnig i mi ymuno ag o’n y llaid i gynaeafu’r reis. Wel, nes i’m meddwl naddo? Mewn a fi – dwi byth yn gwrthod profiad newydd. Ond roedd y bali mwd yn ddyfnach nag o’n i wedi meddwl – dros fy mhen gliniau i, ac yn ludiog was bach – fel trio cerdded drwy bast papur wal wedi’i gymysgu efo UHU. Ac roedd ‘na bethau’n crafu yna was bach – mae nghoese i’n sgriffiadau i gyd rwan.
I bentre Limbuku wedyn – sy’n enwog am rasus hwyaid – ond nid yr adeg yma o’r flwyddyn. Felly ges i weld dynes yn gneud brics allan o glai a chael cynnig arni fy hun – felly ro’n i’n blwmin budr eto! Argol, nes i fwynhau nghawod y noson honno.
Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod prysur arall a dwi wedi blino a deud y lleia. Fy ffilmio i’n gyrru o dan arwydd ‘Croeso i Bukittingi’ yn gynta. Ro’n i’n y car wrth gwrs, a do’n i methu dallt pam fod y criw wedi gosod eu hunain ar ochr arall yr arwydd, lle roedd o’n deud ‘diolch am ddod a brysiwch eto.’ Mi symudon nhw ar gyfer take 2 wrth gwrs.
I’r farchnad wedyn, a gweld effaith daeargryn fu yma 6 wythnos yn ol – rhesi o dai a siopau wedi chwalu’n rhacs. Maen nhw’n digwydd yma’n aml – a be sy’n od ydi mai tai brics sy’n disgyn – mae’r hen dai pren traddodiadol yn iawn. Mi fuon ni mewn yn un o’r rheiny pnawn ‘ma – o fy nuw. Dyna be oedd profiad – trio ffilmio cyfweliad efo dynes y ty. Roedd hi’n mynnu ateb yn hurt o gryno, a’i chwaer yn mynnu porthi, a mwy a mwy o deulu a ffrindiau yn galw mewn i weld be oedd yn digwydd. Ac wrth gwrs, mae hi mor anodd egluro bod angen gneud yr un peth YN UNION drosodd a throsodd efo’r busnes teledu ‘ma. Wedyn ro’n i fod i fwyta llwyth o fwyd – a finna ddim ond newydd gael llond bol o ginio. Roedd o’n neis iawn, ond do’n i jest ddim isio bwyd! Ges i daith rownd y ty wedyn – a methu peidio a rhowlio chwerthin pan welaid i bosteri Boyzone a’r Backstreet Boys uwch ben ei gwely hi.
Mae’r tai pren ma’n wirioneddol smart – y toeau ar siap cyrn byffalo am mai byffalo enillodd ryw frwydr i’r bobl’ma ganrifoedd yn ol. Beryg y byddai hi’n anodd i ni yng Nghymru wneud to ar siap draig. Ond colli wnaeth draig Cymru yn erbyn draig Lloegr ia ddim? O, dwi’m yn cofio rwan.
Angen ail bacio yn barod ar gyfer teithio eto fory rwan. Dwi wedi mwynhau Sumatra’n arw. Lle difyr iawn, iawn, a bechod na chawson ni fwy o amser yma, ond dyna natur Ar y Lein i chi – rhuthro o un lle i’r llall. Blog o Borneo nesa. Sampai jumpa.