AR Y LEIN - Y CYHYDEDD

17.10.06

Obrigado Brasil

Ac ar y pnawn olaf un, mi gafodd Haydn wledd o adar o bob math, yn cynnwys cryn hanner dwsin o'r mwnciod yma. Dwi'n meddwl mai rhywbeth fel 'guariba' ddywedodd Rambo oedd enw'r brid, ond maen nhw'n bethau swil ar y naw fel arfer. Fel y gwelwch chi, doedd hwn ddim.

Mae pawb wedi mynd i'w gwelyau yn gynnar am ein bod ni'n gorfod bod yn barod i fynd yn ol i Manaus ar y fferi am 5.30 y bore, ac mae 'na daith o ryw ddiwrnod o hanner o'n blaenau ni. Dyna un darn o'r teithio 'ma sy'n boen go iawn- y teithio ei hun. Mae'r cyrraedd yn gret.

Mae Brasil wedi bod yn hyfryd - felly cofiwch ystyried yr Amazon yn hytrach na Rio y tro nesa y bydd y traed yn cosi.
Mae angen bod yn eitha heini i ddod i Ariau am fod 'na gymaint o bali grisiau serth i'w dringo, ac mae angen digon o ddillad llac, ysgafn rhag i chi doddi. Roedd hi'n 38 gradd yma - a hithau'n dywyll bitsh - ar y noson gynta. Ac mae hi mor drymaidd, mae'r camera wedi bod yn chwarae i fyny yn y boreau efo golau coch yn fflachio a neges 'humidity report' er fod Haydn wedi bod yn ei gadw allan ar y balconi yn hytrach nac yn y lllofft efo'r A/C.

Ond cafwyd bob dim yn y diwedd (heblaw'r haul yn codi) ac mi ddylai fod yn raglen dda iawn. A deud y gwir, mi fydd Jonathan druan a llawer gormod o ddeunydd, felly welwch chi mo hanner y pethau sydd wedi bod yn y blog 'ma.

Diolch am ddarllen, diolch am ymateb, a welwn ni chi eto fis Rhagfyr.

16.10.06

Diwrnod olaf o ffilmio

Am yr ail ddiwrnod yn olynol, cododd y criw yn hynod gynnar er mwyn ffilmio'r wawr dros y dwr. Methiant fu'r diwrnod cynta (gormod o gymylau), felly dyma drio eto heddiw. Roedden ni gyd yn barod i fynd am 5.15- yn nacyrd a sigledig, ond yn barod.
A sbiwch be gawson ni. Blwmin cymylau.

Ond ar ol brecwast, yn ol a ni ar y dwr i chwilio am y dolffins pinc sy'n byw yn y rhan yma o'r Rio Negro. Mae 'na gerfluniau erchyll ohonyn nhw ar hyd y gwesty ma, ond do'n i wir ddim yn credu eu bod nhw'n binc go iawn - ond maen nhw - ylwch. A'u cynffonau'n binc llwyr.

Mae pobol yn cael ymuno efo'r boi yma i'w bwydo nhw, ond do'n i ddim yn cael. 'Run ohonan ni. Ia, iechyd a diogelwch. Am fod 'na afiechydon yn yr afon yn rhywle, dydan ni ddim yn cael rhoi bawd troed ynddo fo. Neu mi fydd y cwmni yswiriant yn flin. Rydan ni wedi gorfod gwylio cannoedd o bobl yn nofio yn yr afon, gan orfod aros ar y traeth yn chwysu!

Mae'r hogia wedi aros allan rhywle ar yr afon am awren arall er mwyn ffilmio adar, ond dwi wedi cael dod yn ol i'r gwesty diolch byth. Cyfle i roi'r bra ar y ffan eto. Ydyn, maen nhw'n chwysu! Ond roedden ni angen lluniau o fywyd gwyllt, achos hyd yma y cwbl sydd ganddon ni ar wahan i'r Cayman ydi cwpwl o barots ac un moth. A hynny mewn ardal sydd ag un rhan o bump o rywogaethau gwahanol y byd o anifeiliaid ac adar. Ia, ond mae'r diawlied yn symud yn gyflym.

Roedd hi'n amlwg dros frecwast ei bod hi'n bryd dod adre. Rydan ni wedi bod yn mwynhau'r wledd ddyddiol o ffrwythau ecsotig yn arw, ond pan welson ni Haydn yn bwyta tost heddiw...'Hm. Tost,' meddai Jonathan. Ac aethon ni gyd am y teclyn gwneud tost.

Del iawn


Un o'r pethau hyllaf i mi eu gweld erioed. Dwi'm yn siwr be ydi o chwaith - rhyw fath o 'turtle'. Ac roedd o'n fawr - tua'r un maint a mochyn daear.

Ymlacio


Mae'n hanfodol eich bod yn gallu ymlacio tra'n teithio. Dyma ddull Haydn y dyn camera:










A dyma ddull Derek y dyn sain:
A dyma Jonathan.
















Mi ddoth yn diwedd!

Llun arall

Yn y jyngl

A dyna ni, dim ond un diwrnod o ffilmio sydd ar ol. Ond rydan ni wedi gorffen (wel, bron) efo bang. Rydan ni mewn gwesty rhyfedd iawn o'r enw Ariau Amazon Towers, sydd yn anodd iawn ei ddisgrifio - ond dychmygwch Glan-llyn ar stilts. Maen nhw wedi codi dwsinau o dyrrau pren sy'n cyrraedd topiau'r coed fel eich bod chi ynghanol y mwnciod a'r adar. Wedyn mae 'na fath o bontydd pren yn cysylltu'r cwbl - 5 milltir ohonyn nhw. Dydi o ddim yn le i bobl sydd ag ofn uchder. Ond os ydach chi'n mwynhau gweld mwnciod yn dwyn eich bananas amser brecwast neu ambell barot enfysaidd yn hedfan heibio'r balconi, mae'n hyfryd. Wel, ar wahan i'r elfen fymryn yn 'tacky' sydd i'r lle. Mae 'na dros 300 o lofftydd yma, ac maen nhw i gyd yn llawn ar hyn o bryd, yn bennaf am fod 'na gwmni ffilmiau ar ganol gwneud ffilm fawr am gyfnod y rwber ac mae'r actorion, yr extras a'r criw i gyd yn aros yma. Ond mae 'na griw mawr o Ddenmarc yma hefyd (clen iawn) ac Americanwyr a bobol o Venezuela - bob man dan haul.

Y gweithgareddau sy'n gneud y lle'n arbennig - mi fuon ni'n canwio ar hyd afon fechan yn chwilio am Caymans (ia, math o grocodeil) y noson gynta. A cyn i ni ddallt yn iawn be oedd yn digwydd, roedd y bois wedi dal un mawr - a ges i gydio ynddo fo! Roedd Jonathan (ein cynhyrchydd cydwybodol sy'n gorfod meddwl am 'iechyd a diogelwch' dragwyddol) yn cael haint, 'Haydn, ddim yn rhy agos nawr...Derek, step back a bit...please? Ym...ti'n siwr ddylet ti neud 'na Bethan?'

A heddiw, gawson ni gyd (wel, bron, mae gan yr hen Jon ffobia am nadroedd chwarae teg) gydio mewn boa constrictor - oedd yn hoffi'r camera'n arw.

Ac wedyn ges i ddysgu sut i fyw yn y jyngl taswn i'n mynd ar goll - ac roedd Fernando eisoes wedi deud wrtha i mai Rambo oedden nhw'n galw fy athro. Ro'n i wedi cymryd mai joc oedd hynny ac yn disgwyl hen ddyn bach tenau, eiddil. Ond sbiwch - dyma Rambo!
Argol, nes i fwynhau fy hun.

Ymlaen wedyn i bentre o Indiaid lleol fu'n canu a dawnsio a gwerthu mwclis a jest malu awyr yn gyffredinol efo ni. Pobl wirioneddol hyfryd, ac i gyd yn fychan, fach. Roedd y merched yn hynod hardd ond y dynion fel rhyw Toby jugs bach boliog. Ac roedd y plant yn gesus a hanner - dyma i chi un gafodd afael yn offer sain Derek - sydd wedi cael clwy gollwng pethau'n ddiweddar. Roedd o yn y canw neithiwr yn trio cydio'n y transmitter meic radio, ond roedd ei ddwylo mor chwyslyd, mi neidiodd y bali peth i'r afon - ac mi gollodd y mwclis roedd o wedi ei brynu i lawr y goedwig heno - ond mi ddringodd Rambo i lawr i'w nol o - mae'r dyn yn galu gneud bob dim. Swoon.
A dyma i chi'r genod a fi.
Os gai gyfle, mi gewch chi flogsan arall fory, ond os na fydd hynny'n bosib, mi fydda i'n blogio eto o Ecuador a'r Galapagos ryw dro fis Rhagfyr. Cofiwch daro i mewn bryd hynny!

14.10.06

Y Favelas a'r Rio Negro

Roedd hi mor glos heddiw, roedd crysau T pawb wedi dechrau newid lliw mewn dim. Mae hi wastad yn waeth yn y bore achos does na'm awel.
Roedd y gyrrwr yn meddwl ei bod hi'n o leia 38 gradd heddiw, a'r humidity yn 100%, be bynnag mae hynny'n ei feddwl.
Ffilmio'n strydoedd Manaus fuon ni gynta, lle gwelais i'r sgidie 'killer heels' 'na. Ond weles i bar o fwtsias bach pinc delia rioed hefyd, jest y peth i fy nith fach sydd bron yn 5, ond doedd gen i'm pres. Dim ond £10 oedden nhw - a lle gewch chi sgidie am y pris yna yng Nghymru? Ond doedd gan neb arall ddigon o bres ar y pryd chwaith. Dwi'n cicio fy hun, a dyna ddysgu gwers i mi. Di'r pwrs yn dda i affliw o ddim adre.
I'r 'favelas' wedyn, sef y trefi 'shanti', neu'r slyms. Mae 'na rai i'w cael dros Brasil i gyd am fod traean o'r boblogaeth yn wirioneddol dlawd, a nifer fawr o'r rheiny wedi codi tai allan o breniach o bob math - unrhyw beth allan nhw gael gafael arno - ac mewn mannau gwlyb fel sydd ym Manaus, wedi eu codi yn llythrennol ar stilts. Roedd y budreddi a'r llygod mawr oddi tanyn nhw yn amlwg o'r ffordd fawr. Ond unwaith i ni groesi'r pontydd culion i'w canol nhw, gawson ni dipyn o sioc; mae gan bawb drydan a dwr tap ac mae'r tai'n daclus a llawn dodrefn call fel soffas a rhewgelloedd. Ac fel pin mewn papur - wel, roedd yr un welson ni felly, ond roedden nhw'n amlwg wedi glanhau am eu bod nhw'n gwybod
ein bod ni'n dod. Roedd 'na foch mewn cwt bychan tu allan, ond roedd rheiny'n rhyfeddol o lân hefyd. Doedd neb yn edrych yn sal nac yn fler nac yn flin. A deud y gwir, roedd hi'n amlwg fod pawb yn fodlon iawn eu byd a bod 'na gymdeithas glos, gref yno. Ond mae'n rhaid bod byw uwch ben cors wlyb, ddrewllyd yn effeithio ar eu iechyd nhw mewn rhyw ffordd. Mae'r awdurdodau ar ganol chwalu'r favelas rwan - sy'n beth da wrth reswm, ond cael eu symud i swbwrbia fyddan nhw wedyn ac mi fydd y
gymdeithas yn chwalu yn ogystal. Mae 'na wastad ddwy ochr i bob stori 'does. O, a mewn astudiaeth wnaethpwyd yn 2004 o un o favelas mwya Rio, darganfyddwyd fod gan 23% gerdyn credyd a 95% o leia un set deledu. Dydyn nhw ddim mor dlawd a hynna wedi'r cwbl.
Aethon ni'n ol i'r gwesty am ginio, le cafodd pawb gyfle i gael cawod a newid o'u dillad chwyslyd - pawb ond y fi. Wel, ges i gawod, ond ro'n i'n gorfod gwisgo'r un dillad eto. Mi gafodd y sychwr gwallt weithio'n galed a deud y lleia. O leia maen nhw'n ddillad sy'n golchi a sychu'n sydyn - mae nghrys i'n hongian yn y gawod yn barod (ydw, gorfod ei wisgo eto fory) ac mi fydd yn sych erbyn 7 bore fory. Ia, dyna wnes i neithiwr hefyd. Dwi'n defnyddio'r gwasanaeth laundry pan fedra i, ond dwi angen rhain ar fyrder ac mae'n haws ei wneud fy hun. Tydi o wastad?
Teithio'n ol i ganol dre wedyn (sy'n bell - mae Manaus yn anferthol - 1.8 miliwn o bobl - a dim ond 3 miliwn sydd yng Nghymru i gyd!) ac i'r porthladd i ddal cwch at lle mae'r afon Negro a'r afon Solimoes yn cyfarfod i ffurfio'r Amazon. Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddwy afon yn gwbl amlwg - un yn dywyll fel siocled plaen a'r llall yn frown golau fel siocled Caramac. Mi fydd raid i chi wylio'r rhaglen i gael gwybod pam - sgen i'm 'mynedd egluro rwan. O, ac mi ddoth 'na rywbeth drosta i ar y ffordd nol - nes i benderfynu sblasho chydig o ddwr yng ngwyneb Jonathan drwy roi fy llaw yn y dwr wrth i ni yrru drwy'r afon. Ond ges i sycsan - a socsan go iawn fy hun. A finna'n dal efo'r meic radio ymlaen. Wp a deis. Ond mae o'n dal i weithio - dwi'n meddwl.
Bron yn amser swper rwan, a dwi'n gobeithio bod y mousse de maracuja (passion fruit') yno eto - y pwdin gorau dwi wedi ei flasu yma eto, ac mae 'na bwdinau a hanner yma. Dwi wedi gwirioni efo blas ambell ffrwyth cwbl ddiarth i mi sydd ddim ond ar gael yn ardal yr Amazon. Fel y guarana (hwnnw sydd mewn bariau siocled 'Boost' weithiau) a'r graviola. Mae 'na sudd guarana hollol fendigedig ar gael amser brecwast - 2 neu 3 llond gwydr o hwnna a dach chi'n mynd fel rocet am oriau!

13.10.06

Well gen i fflip fflops


Ges i haint wrth basio siop sgidiau ym Manaus bore 'ma.
Bosib mai fi sy'n hen ffasiwn, ond does na'm sgidiau fel'na ym Mhrydain, oes? Cywirwch fi os ydw i'n anghywir.
Mae 'na bwysau ar ferched Brasil i fod yn rhywiol, ond mae hyn yn hurt bost!

Braf ar rai


Y llefydd 'dan ni'n gorfod mynd i neud rhaglen deledu...

Parch at hen bobl


Peidiwch a cherdded ar y gwair mae o'n ei feddwl, siwr.

Sori. Mae'r gwres yn mynd i ben rywun.

Chwys boetsh ym Manaus


Dwi'n meddwl mai dyma'r lle poetha eto. Neu'r mwya clos o leia. Roedden ni'n chwysu bore 'ma bois bach, ond mi wellodd wedi i awel godi o rhywle. Diolch byth.
Ar yr afon Negro ydan ni rwan - a dwi'n meddwl mai rhan o'r Amazon ydi hi ond dwi'm yn siwr. Mae'r busnes wedi fy nrysu i'n llwyr. Gai sens ryw ben.
Ta waeth, teithio ar hyd y Negro oedden ni bore 'ma i weld pentre ffug. Wel, cwpwl o dai ta. A ffug yn yr ystyr mai criw ffilmio o Bortiwgal adeiladodd nhw yn 2001, fel rhan o set ffilm wedi ei seilio ar nofel hanesyddol boblogaidd iawn ym Mhortiwgal: 'A Selva' (Y Jyngl) gan Ferreira de Castro. Wedi i'r ffilmio ddod i ben, mi adawon nhw'r cwbwl i'r adran diwylliant lleol.
W! Mae'r trydan newydd fynd ffwrdd. Lwcus bod hwn yn dal i fynd ar fatris - ac onibai am y golau o'r sgrin 'swn i'n gweld affliw o ddim. Mae hi'n dywyll yma - a dim ond 6.30 y nos ydi hi.
Lle o'n i - heblaw am yn y twllwch? O ia, ar set A Selva. Yn wahanol i setiau carbod arferol, roedd hwn wedi cael ei wneud yn goblyn o dda, fel tai go iawn.
Ac am fod yr awdur wedi defnyddio ei brofiadau ei hun i sgwennu am gyfnod y diwydiant rwber yn Brasil, nid yn unig roedd y llyfr yn taro deuddeg, ond mae'r set hefyd. Mae o ar gael i dwristiaid fynd i weld sut oedd bywyd yn y 1890au-1920au rwan, a mae 'na foi clen iawn yna neith ddangos i chi sut i gasglu rwber o'r cantamil o goed sydd yno. Ro'n i wedi gwirioni efo'r syniad. Oni ddylen nhw fod wedi cadw set Cysgod Y Cryman a Te yn y Grug a'r peth Daniel Owen 'na ar gyfer twristiaid? Dyna i chi be ydi parch at gelfyddyd. Mae'r rhain yn gwerthfawrogi llyfrau - dyna i chi berchennog y gwesty nesa fyddwn ni'n aros ynddo. Dwy noson oedden ni yno i fod (a hynny am ddim), ond rydan ni wedi gofyn os gawn ni fynd yno noson ynghynt a'n bod yn hapus i dalu - 'twl lol,' meddai, (neu rywbeth tebyg ym Mhortiwgaeg) 'gewch chi aros debyg iawn', a'r cwbl mae o isio fel tâl ydi nofel! Ia, nofel. Dwi mewn cariad efo'r dyn yn barod.
Ffilmio mewn ty opera godwyd yn ystod y 'boom' rwber wedyn, sy'n hurt o grand efo llenni o Ffrainc, gwaith haearn cywrain o'r Alban a marmor o'r Eidal. Ynghanol y jyngl myn coblyn. Ond mae Manaus wedi tyfu cryn dipyn ers 1896, felly ynghanol adeiladau mae o rwan.
Cinio wedyn - tua 3.00. Ac aeth Fernando a ni i'r lle barbeciw Brasiliaidd 'ma. Wel, mae isio i Gymdeithasau Cig Oen ac Eidion Cymru frysio draw yma ar unwaith. Chwip o syniad - byffe i chi nol eich salad a'ch llysiau eich hun, wedyn mae'r dynion ma'n dod heibio efo gwahanol fathau o gigoedd wedi cael eu rhostio/grilio/be bynnag ar sgiwars mawr - fel doner kebabs fwy neu lai. Wedyn mae'n nhw torri tafelli i chi. Roedd y cig oen yn fendigedig, a'r pysgodyn, a'r stecan, a'r selsig cyw iar, ond nes i wrthod y tafodau. Ond mi es i am un neu ddwy o galonnau ieir. Derek yn cyfadde ei fod o reit hapus yn bwyta brest iâr, ond doedd o methu wynebu bwyta ei chalon chwaith. Diwedd y stori - dwi'm yn meddwl y gwnawn ni drafferthu efo swper heno.
Cyfarfod gyrrwr tacsi oedd yn gwbod bob dim am Gymru heddiw! Gwybod am Feddgelert a Llywelyn ac o ba gerrig mae'r wlad wedi'i gwneud. Gwybod mwy na fi felly.

12.10.06


Wedi gorfod gwneud y lluniau'n fychan fach er mwyn gallu eu gyrru. Felly dyma i chi Eva, fi a Hambo.

11.10.06

Nodyn sydyn

Mewn gwesty crand (brawychus o grand, Derek a finna'n anghyfforddus mewn lefydd fel'ma) ym Manaus bellach - ond system y gwesty nid yn caniatau i mi yrru lluniau. Ddrwg iawn gen i am hynna. Gobeithio y bydd pethau'n gwella pan awn ni ymhellach i mewn i'r jyngl. Ond bosib na chewch chi hyd yn oed eiriau o fan'no! Que sera sera (mae o'r un peth ym Mhortiwgaeg).

Ar gefn byffalos

Dydd Llun Hydref 9fed
Wedi cael diwrnod hyfryd heddiw er gwaetha'r ffaith ein bod ni wedi gorfod codi am 4.30 ETO! Ond roedd y fferi i ynys Ilha do Marajo yn gadael am 6, felly doedd 'na fawr o ddewis. Yn ystod y daith o deirawr dros yr Amazon, mi benderfynon ni gael paned. Ond y broblem efo coffi yn Brasil ydi bod nifer fawr o lefydd yn ei werthu efo siwgr ynddo fo'n barod - tunnell o'r stwff. Roedd o'n afiach. Do'n i ddim yn synnu clywed bod clefyd y siwgr yn broblem fawr yma.
Cyfarfod Michael, Americanwr o Mississippi ar y fferi. Mi briododd a merch o Brasil yn 2000, ac mae'n siwr mai jest cyd-ddigwyddiad hapus oedd o bod ei thad yn un o berchnogion tir mwya'r wlad. Rwan mae Michael yn byw efo hi yn Belem efo morynion ac ati ac yn ffermio gwartheg, byffalo a physgod ar yr ynys - ar fferm o 8,500 hectar - tua 20,000 acer os 'di'n syms i'n iawn; 'a moderate size farm by Brazilian standards,' meddai o. Ond dydi o'm yn gwneud llawer o 'ffermio' go iawn, mae ganddo reolwyr a llwyth o weithwyr, felly mae o'n gallu gadael y fferm i redeg ei hun fwy na heb, a hel y pres i gyd i mewn heb faeddu ei ddwylo. Braf ar rai.Ond roedd o'n hen foi iawn, ac roedd ei wraig yn glen iawn, er ei bod hi'n sal mor - neu sal afon yn yr achos yma. Roedd 'na donnau go fawr ac roedd hi'n anodd meddwl mai ar afon oedden ni achos doedden ni jest ddim yn gallu gweld yr ochrau. Ro'n i'n gwbod bod yr Amazon yn llydan ond mae'n rhaid bod yn ei chanol hi i ddallt pa mor llydan ydi hynny.
Wedi glanio, dyma gychwyn yn hapus am dref Soure yn ein bws mini, oedd yn golygu dal fferi bychan arall, ond ychydig filltiroedd cyn y porthladd, roedd yn rhaid stopio. Roedd 'na rywbeth oedd yn edrych fel coeden wedi disgyn ar ganol y ffordd. Ond naci wir, llwyth o goed bychain oedden nhw - a motobeics. Protest yn erbyn y maer lleol oedd o! Erbyn dallt, roedd cymdeithas y gyrrwyr tacsi moto beics arferol (sydd wastad yn gwisgo festiau oren) yn flin am fod cwmni arall wedi cael dechrau cwmni arall (mewn festiau glas) heb dalu trethi na gorfod cael y trwydddedau cywir. Roedd 'na gega'n mynd mlaen rhwng y teithwyr blin a'r protestwyr ond dim byd cas. Roedd pawb yn rhyfeddol o gall a rhesymol, ond roedd nifer o bobl ar feics yn gallu mynd ddrwadd drwy godi'r beics ar eu pennau. Mi fyddai wedi bod yn anodd iawn i ni wneud hynny efo bws mini. Ond dwi'n meddwl bod ein presenoldeb ni wedi bod o help - nid yn unig roedd y ferch o'r bwrdd twristiaeth lleol efo ni ac ar y ffon efo'r pwysigion yn syth, ond roedd y ffaith ein bod ni'n ffilmio'r cwbl yn siwr o fod o help i gadw trefn. A phan ddoth yr heddlu'n y diwedd - roedden nhw ar gefn motobeics y bois efo festiau glas! Wp a deis. Ond llwyddwyd i gael trefn ar bethe ac mi lwyddon ni i ddal fferi chydig hwyrach i'r ynys. Gewch chi'r stori'n llawn ar y rhaglen deledu - neu yn y llyfr. Mae 'na rywbeth yn deud wrtha i y bydd 'na lawer gormod o stwff ganddon ni i'w gynnwys mewn rhaglen hanner awr.
Aethon ni'n syth i'r gwesty - sy'n hyfryd. pwll nofio, cwrt tennis, bob dim, ond ydan ni'n mynd i gael cyfle i'w defnyddio nhw? Go brin. Cinio a chawod sydyn - roedden ni gyd yn chwys boetsh yn y gwres llethol - ond roedd y lleill yn gallu newid eu dillad a finna'n gorfod aros yn yr un rhai er mwyn dilyniant! A nes i lwyddo i sblashio peth o fy stiw pysgod dros fy nghrys... O wel, ymlaen a ni i fferm neu 'fazenda' dynes anhygoel o'r enw Eva. Mae ei theulu hi'n dod o Libanus yn wreiddiol, a'i thad hi oedd y cynta i fagu byffalos ar yr ynys - a rwan mae 'na bedair gwaith mwy o fyffalos na phobl yno ac maen nhw'n ran pwysig o economi'r ynys rhwng y cig, y caws a'r lledr. Mi fu Eva'n ddarlithydd prifysgol ar bethau milfeddygol ac yn wyddonydd ac ati am sbel cyn penderfynu stwffio academia a rhoi'r cwbl i fyny i redeg fazenda 6,600 hectar ( a fferm arall nath hi'm deud be oedd ei faint) a magu byffalos, gwartheg a cheffylau. Roedd hi'n siarad ryw lun o Ffrangeg, felly sgwrsio yn yr iaith honno fuon ni achos dydi fy Mhortiwgaeg i ddim wedi datblygu llawer. Ond doedd hi methu deud 'r', roedd o wastad yn debycach i 'h' felly doedd gen i'm clem am be roedd hi'n son pan driodd hi egluro am wahanal 'hace' o byffalos ac mai 'Hambo' oedd enw ei ffefryn.
Ges i fynd am dro ar gefn un byffalo dof (profiad newydd arall!) a bwydo mangos i rai o'r rhai llai dof. Maen nhw'n nyts am mangos. Ond roedd 'na ryw chwech coeden mango anferthol o gwmpas y ty, ac roedden ni'n gorfod bod yn ofalus rhag ofn i un ddisgyn ar ein pennau ni. Bu bron i'n gyrrwr ni ei chael hi - mi ddisgynodd homar o un drom fodfeddi i ffwrdd ohono. Beryg bod y mangos yn beryclach na'r byffalos.
Ond mae ganddi alligators a mwnciod ac adar gwyllt o bob math (cannoedd o ibis coch hyfryd) ar y ffarm hefyd gan ei bod hi'n gadael i'r rhan fwya aros yn dir gwyllt - yn jyngl go iawn. Mae hi'n ddynes natur a bywyd gwyllt, ac yn gweiddi ar y gyrrwr i stopio bob tro y byddai'n gweld bag neu botel blastig ar ei thir. Mi wnes i gymryd ati'n arw, yn enwedig gan fod ei thy hi a'i ffordd o fyw yn hynod syml er gwaetha'r miliynau sydd ganddi'n y banc.

Dydd Mawrth Hydref 10fed
Gawson ni gysgu'n hwyr heddiw - tan 6.00. A chael diwrnod hyfryd arall yn ffilmio'r heddlu lleol. Maen nhw'n mynd ar patrol ar gefn beics - a byffalos. Gawson ni glincar o sioe ganddyn nhw, hyd yn oed os nath y Colonel neud i ni wylio fidio yn gynta. Dwi'n siwr ei fod o'n fidio difyr iawn ond doedden ni'm yn deall gair nagoedden? Roedd ganddo barots dof hefyd, oedd yn fendigedig. A phan oedd y byffalos wedi nogio, gawson ni fynd i draeth paradwysaidd rhyw 9km i ffwrdd, lle mae modd i gwpl rannu caban ar y traeth am noson am £10 yr un. Peidiwch a mynd i'r Caribi am eich mis mel - dowch i'r Amazon! Wel, os ydach chi'n licio tawelwch a chydig o antur. Bu'n rhaid i ni lusgo'n hunain oddi yno am ein bod ni isio bod yn ol yn Belem heno, ac roedd 'na ddwy fferi i'w dal. Ac awyren i Manaus fory.
Rydan ni'n nacyrd ond yn hapus - a phawb heblaw Jonathan (lwyddodd i beidio a phrynu carped ym Morocco llynedd) wedi bod yn gwario'n wirion yn y siop crefftau lledr byffalo. Maen nhw'n gwneud bagiau allan o geilliau byffalos. Wel, y croen sydd amdanyn nhw. A dwi'n pasa defnyddio f'un i i gadw beiros ar fy nesg. Dwi'm yn gwbod be fydd gwraig Haydn yn ei feddwl o'r bag ysgwydd chwaith...

(Fernando ein fficsar sydd efo Piu Piu y parot. Gewch chi ddyfalu be 'di'r llun arall 'ma).

9.10.06

Y diwrnod hiraf eto


Bore 'ma, roedden ni wedi trefnu bod pawb yn cael galwad i'w deffro am 4.30 y bore (ffordd neis o wneud i Fernando ein fficsar godi mewn pryd am unwaith), ond aeth f'un i i ffwrdd am chwarter i dri. Iechyd, ges i sioc. Mi gymrodd oes i mi ddod o hyd i'r golau heb son am y ffon. A dyma fi'n meddwl bod y gwesty wedi gneud camgymeriad ac wedi deffro pawb am 2.45. Ond wedyn dyma fi'n meddwl falle mai dyna pryd roedden ni fod i godi wedi'r cwbl (ro'n i'n dal yn hanner cysgu doeddwn?). Felly mi ffoniais i Jonathan - oedd yn cysgu'n sownd, y creadur. Wp a deis.
A pham roedden ni'n codi mor hurt o gynnar? Am mai heddiw oedd Y Diwrnod Mawr yng nghalendr Belem - y diwrnod pan mae na filiwn o Gatholigion o bob cwr o Brasil yn heidio yma i orymdeithio drwy'r strydoedd efo cerflun o Nossa Senhora de Nazare (Mair, mam Iesu Grist). Weles i rioed gymaint o bobl o'r blaen yn fy myw, a'r rhan fwya'n cerdded a rhedeg y 10km yn droednoeth, ac yn gwthio a gwasgu er mwyn cael gweld y cerflun bychan, bach 'ma oedd yn cael ei lusgo ar fath o stondin drom gan gannoedd o bobl chwyslyd, ecstatig yn tynnu rhaffau. Ar ol awr neu ddwy o gerdded yn y gwres tanbaid, ynghanol cyrff chwyslyd eraill fel bod dim modd i awel eich cyffwrdd, roedd 'na rai'n llewygu ac yn cael eu cludo ar stretchers yn syth. Roedd 'na rai'n crio bwcedi dim ond o weld y cerflun o bell, eraill yn socian am eu bod nhw wedi twyallt poteli o dwr dros eu pennau. Cyn pen dim, roedd y traed noeth, poenus yn gorfod cerdded dros filoedd o boteli plastig. A dwi'n amau os oedd rheiny'n cael eu ailgylchu. Pam na fydden nhw wedi defnyddio peipen dros bawb dwch?
Roedden ni wedi llwyddo i ddod yn agos iawn at y cerflun ar y dechrau (dyna pam roedden ni wedi codi'n gynnar wedi'r cwbl), ond y funud ddechreuon nhw orymdeithio, aeth y lle'n bananas, a doedd ganddon ni'm gobaith mwnci aros efo'n gilydd mewn un criw. Ar un adeg, ro'n i'n amau'n gryf mod i unai'n mynd i golli mraich i'r dde neu'r ces efo lens sbar ddrudfawr i'r chwith. Roedd o fel bod ar 'rac' yn union. Llwyddodd Jonathan a finna i wthio'n ffordd i ganol y don am sbel, ac wrth basio'r dociau, dyma'r tan gwyllt ma'n dechrau uwch ein pennau ni. Roedd o mor swnllyd, roedd o'n brifo, ond doedden ni methu dianc nagoedden?
Mi gawson ni hyd i'r lleill rhyw awr yn ddiweddarach, a gwylio'r dorf o'r pafin - a fan'no, mewn gwasgfa hurt y llwyddodd lleidr i stwffio'i law i fag Jonathan a dwyn ei dictaphone. Mi welodd Derek leidr arall yn cael ei ddal a'i waldio'n rhacs. Fues i rioed mor falch o adael gormydaith. Ro'n i'n meddwl bod y busnes efo Santa Teresa yn Avila, Sbaen yn hurt, ond roedd Belem yn bedlam go iawn. A phan welwch chi'r gyfres flwyddyn nesa, mi fyddwch chi'n synnu a rhyfeddu - dwi'n addo.

8.10.06

Macapa


Dydd Sadwrn Hydref 7fed 2006
Dwi yn maes awyr Macapa rwan, yn disgwyl am yr awyren yn ol i Belem. Doedd noson ddim yn ddigon ym Macapa. Peidiwch a chredu'r hyn mae llyfr taith enwog ('sa well i mi beidio a'i enwi, rhag iddo gael ei yrru i blaned unig) yn ei honni am Macapa, sef bod na'm llawer i'w weld na'i wneud yno. Lol botes maip. Mae'n dref hyfryd! Arteithiol o boeth, ond dim ond i chi wisgo het a chadw allan o'r haul, does na'm problem. Y peth ydi efo gneud rhaglen deledu wrth gwrs, ydi bod yn rhaid bod yn yr haul gryn dipyn. Rydan ni gyd wedi chwysu, bois bach.
O ia, dwi'm wedi deud pwy ydan 'ni' naddo? Wel Jonathan Lewis y cynhyrchydd/cyfarwyddwr, Haydn Denman y dyn camera, Derek Edwards y dyn sain (oes, mae ganddon ni ddyn sain tro 'ma - IEEEEEE!) a Fernando ein trefnydd lleol. Wel, dio'm yn lleol iawn chwaith, hogyn o Rio ydi o, ond mae'n gwbod ei stwff. A dydio'm yn teimlo'r gwres cweit fel ni.
Doedd hi'm yn rhy ddrwg yma ddoe gan ein bod ni'n ffilmio ddiwedd pnawn (yr awyren yn hwyr - dechrau'r pnawn oedd hi i fod), ac er fod yr haul yn dal i dywynnu, roedd 'na wynt go gry. Lwcus, achos mi fu'n rhaid i mi gerdded yn ol a mlaen ugeiniau o weithiau ar hyd bys y cloc haul ma sy'n union ar y cyhydedd. Bys go gul gyda llaw, oedd yn golygu mod i'n disgyn oddi arno reit aml. O leia roedd y lleill yn cael hwyl.
Am fod yr haul yn diflannu am 6 fel wats - a does na'm gwyll, mae'n tywyllu fwy neu lai'n syth bin wedyn - roedden ni'n rhy hwyr i ffilmio maes pel-droed Macapa, lle mae'r llinell hanner ffordd yn mynd reit ar hyd y cyhydedd. Ond roedd 'na griw o ddynion yn cael gem yn y llwch gerllaw, felly mi fuon ni'n ffilmio'r rheiny yn lle. Roedd na rai'n eitha hen, ond iechyd, roedden nhw'n rhedeg fel bechgyn deunaw! Mae bobl Brasil yn ffit - roedd 'na gannoedd yn cerdded, loncian a beicio ar hyd lan yr Amazon bore ma. Dim rhyfedd bod y merched mor siapus a'r dynion mor athletaidd. Dwi'n teimlo fel hwch yn eu canol nhw.
Gawson ni bryd o fwyd mewn ty bwyta bahia-aidd wedyn, lle roedd un o'r operau sebon poblogaidd yn cael ei ddarlledu ar sgrin enfawr a't botwm sain yn hurt o uchel. Profiad swreal iawn. Ac mi anghofiodd y gweinydd ddeud bod bob pryd yn ddigon i ddau, felly roedd 'na fynydd o fwyd ar ol yn dal heb ei fwyta. Gobeithio bod ganddyn nhw foch. Mae'r bwyd yma'n fendigedig - cymaint o bysgod da a ffrwythau efo blas cwbl ddiarth i mi - ffrwythau sy'n tyfu ar goed cwbl unigryw rhywle yn y fforestydd glaw, fel yr Acai. Dwi'm wedi dod i arfer efo hwnnw eto, yn bennaf am ei fod o'n edrych fel diod sydd hanner ffordd rhnwg Mousse siocled a ffa wedi bod mewn blender. Ac mae angen llwyth o siwgr i guddio'r gic. Neu'r blas. Ond maen nhw'n deud ei fod o'n dda i chi, felly dwi'n dal i drio.
Reit, gorfod mynd rwan - codi am 4.30 bore fory. Mi gewch chi wybod pam ymhen rhyw ddeuddydd.
Hwyl!

Dyma'r Amazon am saith o'r gloch y bore, wel y llaid ar ei glannau:

Ddim yn ddrwg peth cynta'n y bore!



Dydd Gwener Hydref 6ed 2006
Gwesty Regente yn Belem
Helo neu Bom dia! Do, rydan ni gyd wedi cyrraedd yn ddiogel ar ol deuddydd o deithio oedd yn teimlo fel wythnos. A hyd yma, mae pob dim yn hynci dori - neu 'tudo bom' fel maen nhw'n ei ddeud. Mae'r wlad yn hyfryd, pawb yn glen ac mae'r ffrwythau rydan ni'n eu cael i frecwast yn arallfydol. Mango, papaya, bananas mewn rhyw fath o fel (efo to bach) ysgafn, pinafal...mmm.
Wedi dechrau ffilmio bore 'ma - am 6, oedd yn golygu codi am 5.15. Yyyy. Ond roedd o werth o, am mai dyna pryd mae dociau Belem ar eu gorau: coed, pysgod, ffrwythau, llysiau, bob dim dan haul yn cael eu prynu a'u gwerthu gan filoedd o bobl rhyfeddol o glen (heblaw am yr un driodd ddwyn ffon symudol Derek y dyn sain - a methu, diolch byth). Swn injans y cychod, pobl yn bargeinio, moch yn sgrechian, dynion yn cario llwythi anferthol o bysgod ar eu pennau ac yn galw arnoch chi i fynd o'u ffordd - galw, nid gweiddi, sylwch. Yr haul yn tywynnu - ond ddim gormod. Mae'n iawn yn y bore bach, ond ganol dydd, mae'n llethol. Falch iawn modi wedi dod a'r het brynais i'n Sioe Llanelwedd efo fi.Yr unig broblem ar ol bore ma ydi ein bodi i gyd yn drewi o bysgod. Bechod bod na'm ffasiwn beth a 'smellavison' neu 'ogldeledu' eto.
Drewi neu beidio, ganol dydd heddiw, mi fyddwn ni'n ol yn yr awyr yn hedfan am Macapa. Mi fyddan ni'n ffilmio fan'no pnawn ma, ac yn aros y nos yno cyn dod yn ol i Belem ar gyfer gwyl grefyddol anferthol. Gewch chi hanes hwnnw fory neu drennydd.
Felly am y tro, hwyl!

A diolch i Mererid o'r Bala am ymateb. A'r ateb i dy gwestiwn ydi: Hydref 2007 meddan nhw wrtha i. Mae'n cymryd amser i ffilmio'r pethau 'ma heb son am eu golygu a'u sgriptio nhw!

2.10.06


Dwi ar daith eto! Bydd trydedd cyfres Ar y Lein yn dilyn y cyhydedd,
- er fod y boi ‘na newydd ei wneud o ar BBC2, damia fo. Ond mi fydd o’n gwbl
wahanol drwy lygaid Cymraes, siawns. A copïo’n syniad ni oedd o ‘de!

Mi fydda i'n cyrraedd Belem yng Ngogledd Brasil ar 4.10.06 ond mi fydda i’n symud ymlaen yn syth a theithio am ddiwrnod arall i dref Macapa, nid nepell o French Guiana. Er fod ‘na draethau hyfryd yno, a rhyw gloc haul sy’n union ar y cyhydedd, does ‘na fawr o ddim byd arall i’w weld yno meddan nhw, felly wedi ffilmio’r rheiny, mi fydda i’n hedfan yn ôl i dref Belem eto, jest mewn pryd ar gyfer gwyl Círio de Nazaré, yr wyl grefyddol fwyaf ym Mrasil. Mae’n debyg bod pobl o bob man yn heidio yno ac y bydd ‘na filiwn (ia, miliwn) o bobl yn gorymdeithio drwy’r strydoedd efo’r cerflun bychan o Nossa Senhora de Nazaré ar y dydd Sul. Y gred ydi bod y cerflun wedi ei greu yn Nasareth ac wedi cyflawni gwyrthiau ym Mhortiwgal yn ystod y canol oesoedd cyn mynd ar goll ym Mrasil – cyn cael ei ddarganfod eto gan amaethwr tlawd yn 1700. Ond wedi’r orymdaith mae’n debyg y bydd pawb yn mynd ati fel ffyliaid i yfed, bwyta a dawnsio – am bythefnos! Fydda i ddim yn gwneud hynny wrth gwrs, dwi fod i fynd i’r jyngl efo’r fyddin i gael gwers ar sut i fyw mewn fforest law, a gweithio efo cowbois ar fferm o ryw fath, cyn canwio i ddyfneroedd y jyngl i dreulio noson efo llwyth y Cabloco neu’r Yanomami.
Mi gewch chi'r hanes bob tro y ca i gyfle i flogio. Tan hynny, hwyl!

Gyda llaw, mi ddylai dyddiadur yr ail daith: ‘Ar y Lein Eto’ fod yn y siopau cyn bo hir. Rhowch eich archeb i mewn rwan!